Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgrifennydd Y Cabinet dros Addysg yn ymweld ag ysgol leol

Published: 29/06/2017

Bu i Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg Cymru ymweld ag Ysgol Bryn Deva yng Nghei Connah heddiw (dydd Iau, 29 Mehefin). Roedd hi yno i edrych ar y prosiect “Touching the Sku” a “Chlwb Seren Bach” sydd wedi cael eu cydnabod fel arfer rhagorol gan Estyn yn eu hadroddiad yn 2016. Disgyblion Ysgol Bryn Deva ywr plant cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiect i wella eu lefelau ffitrwydd, eu Cymraeg llafar a’u lefelau cyrhaeddiad academaidd. Bu i’r ysgol, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Glyndwr, sefydlu prosiect o’r enw “Touching the Sky.”. Roedd ffitrwydd y plant iau yn cael eu profi ac wedyn, dros yr 8 mis canlynol, roeddynt yn cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i baratoi ar gyfer taith gerdded i fyny’r Wyddfa, ac mi wnaethant hynny ar 26 Mai eleni. Dywedodd Steve Thomas, Arweinydd Addysg Gorfforol Bryn Deva: “Fel ysgol rydym eisiau hybu bywyd iach gan gynnwys gweithgareddau corfforol a diet iach, i wella lles cyffredinol ein plant. Hyd yma mae wedi cael effaith bositif iawn ar ein disgyblion.” Mae’r ysgol hefyd wedi sefydlu ‘Clwb Seren Bach’ er mwyn gwella perfformiad academaidd a chymdeithasol i ddisgyblion yn y Cyfnod Sylfaen sydd yn cael trafferth ymdopi â gosodiad dosbarth llawn. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Cafodd Ysgol Bryn Deva ganlyniadau gwych yn eu harolygiad Estyn y llynedd am eu gwaith partneriaeth, gofal, cefnogaeth a chanllaw ac mae astudiaeth achos arfer orau wedi’i gyhoeddi gan Estyn. Mae’r ysgol yn rhan o Astudiaeth Thematig Arfer Orau Estyn ar sut mae ysgolion yn ymgysylltu ag argymhellion yn dilyn adroddiad Donaldson, gan arbenigo, fel yn achos Bryn Deva, mewn lles. Rwy’n falch o allu dangos i’r Gweinidog bod un o’n hysgolion yn enghraifft dda o hyrwyddo lles disgyblion fel rhan ganolog o’r cwricwlwm.” Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Addysg Kirsty Williams: “Bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gosod materion iechyd a lles wrth wraidd addysg – rydym eisiau i’n pobl ifanc adael yr ysgol yn unigolion iach hyderus. Mae’r gwaith sydd yn digwydd yma ym Mryn Deva yn wych ac roedd hin bleser siarad gyda phlant a staff.”