Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Myfyrwyr yn tyrchu drwy’r archifau

Published: 06/07/2017

Roedd Swyddfa Gofnodion Sir y Fflint yn falch i groesawu chwech o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Penarlâg yn ddiweddar. Treuliodd y myfyrwyr ran o’r amser yn rhestru cofnodion mewn bocs o Gasgliad Plwyf Penarlâg. Mae’r cofnodion hyn yn rhan o bortffolio a gasglwyd gan y Parch Stephen Gladstone, rheithor Penarlâg rhwng 1872-1904 ac mae’n cynnwys posteri, rhaglenni, toriadau newyddion, tocynnau a threfnau gwasanaethau. Mae hwn yn gasgliad hynod ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Penarlâg. Roedd y myfyrwyr yn y Swyddfa Gofnodion fel rhan o gydran wirfoddol Bagloriaeth Cymru. Y thema eleni oedd ‘Yr Amgylchedd’ felly aethant ati i gyfunor gwaith yn y swyddfa gydag ychydig o arddio. Er y tywydd ofnadwy, cliriodd y myfyrwyr y chwyn ar hyd y lôn at yr Hen Reithordy a thorri’r gwrychoedd oedd yn estyn dros y llwybr gan wneud yr ardal yn ddiogel ar gyfer ein cwsmeriaid. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: “Roedd yn wych gweld y Swyddfa Gofnodion yn croesawu’r myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Penarlâg. Gweithiodd y criw’n galed dros y 2 ddiwrnod ac roeddent yn amlwg yn mwynhau gweld y dogfennau yn y casgliad. Cawsant hefyd y cyfle i astudio rhai o’r dogfennau eraill yn ymwneud â’u hysgol, a bydd copïau o’r rheini yn rhan o’u portffolio o dystiolaeth.” Dywedodd y Prif Archifydd, Claire Harrington: “Mae gan y Swyddfa Gofnodion gyfoeth o ffynonellau cynradd, ar draws ystod eang o destunau, a all helpu myfyrwyr gyda’u hastudiaethau a byddem yn eu hannog i gael golwg ar ein gwefan a chwilio drwy ein cronfeydd data i weld a oes gennym unrhyw beth a allai helpu gydag unrhyw brosiect penodol.” Os hoffech chi wneud apwyntiad i weld y casgliad hwn, cysylltwch â’r Swyddfa Gofnodion gan ddyfynnu cyfeirnod P/28/1/91. Mae’r Swyddfa Gofnodion wedi ei lleoli yn yr Hen Reithordy ym Mhenarlâg a gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 01244 532364 neu anfon e-bost i archives@flintshire.gov.uk.