Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sgowtiaid yn cael help llaw

Published: 10/07/2017

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o gontractwyr adeiladu er mwyn cynorthwyo i orffen y gwaith uwchraddio sydd angen ei wneud ar ein stoc dai. Mae’r contractwyr yn gweithio ar Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n safon genedlaethol ar gyfer cartrefi a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’r gwaith yn rhoi swyddi a phrentisiaethau i bobl leol. Yn ogystal â hynny mae ein contractwyr wedi bod yn cynorthwyo cymunedau mewn amrywiol ffyrdd. Mae Mitie, un o’n contractwyr, wedi bod yn cyfranogi wrth ailwampio caban y sgowtiaid lleol yn y Fflint, a agorwyd yn swyddogol yn ddiweddar. Fe wnaeth Mitie uwchraddio’r tu allan a oedd wedi’i wneud o goncrid, ac a oedd angen ei drwsio. Fe wnaethant ailwampio tu allan i’r adeilad yn llwyr, drwy ail-blastro a gosod inswleiddio wal allanol, sydd nid yn unig wedi rhoi gweddnewidiad proffesiynol iddo, ond sydd wedii wneud yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Dywedodd Joanna Hughes, Arweinydd Cynorthwyol y Sgowtiaid Cwb: “Rydym mor falch o bopeth rydym wedi’i gyflawni, ond ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Mitie, y Clwb Rotari, Willmott Dixon, Cyngor Sir y Fflint a phawb arall sydd wedi cyfranogi - rydym yn diolch i chi i gyd. Mae ein Sgowtiaid Cwb yn haeddu diolch arbennig iawn am aros gyda ni drwy’r cyfnod ailwampio. Rydym yn gobeithio y bydd Grwp Sgowtiaid 1af y Fflint yn ffynnu ac yn parhau am sawl blwyddyn i ddod. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, cysylltwch â mi ar 07919 836463 neu e-bostiwch 1stflintcubs@gmail.com.” Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge: “Mae safon y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn dda iawn ac yn dangos crefftwaith safonol ar ei orau. Hoffwn ddiolch i Mitie – rydym yn gwerthfawrogi eu hymrwymiad i’n cymunedau lleol ac rwy’n sicr y bydd y bobl sy’n defnyddio’r canolfannau’n rheolaidd yn hapus iawn gyda’u cyfleusterau gwell. “Dyma enghraifft arall o gontractwyr yn gweithio gyda’n tîm ni er mwyn darparu adnoddau gwell i’r gymuned ehangach. Mae’r cyfleusterau newydd hyn yn ychwanegol at ganolfannau cymunedol eraill sydd wedi’u hailwampio gan ein contractwyr, fel Coppa View ym Mwcle, Chapel Court yng Nghei Connah, Hawksebury ym Mwcle, Llwyn Aled a Llwyn Beuno yn Nhreffynnon a Chanolfan Gymunedol Aston. Mae contract SATC yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu Mantais Gymunedol fel rhan o’u cytundeb.” Dywedodd Kenny Rushton, Rheolwr Contractau gyda Mitie: “Cafodd Mitie’r contract i uwchraddio ceginau ac ystafelloedd ymolchi mewn 328 o gartrefi fel rhan o gynllun SATC y Cyngor. Rydym yn falch iawn o fod yn fusnes cyfrifol ac yn gwasanaethur gymuned ehangach, ac rydym yn falch o fod wedi gallu ailwampior gymuned leol hon i helpu i fod o fudd ir gymuned a gwellar cyfleusterau sydd ar gael.