Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor

Published: 10/07/2017

Bydd gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir Y Fflint gefnogi a datblygu’r fframwaith ar gyfer adolygu’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) 2018/19 pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r adroddiad yn nodi adolygiad cychwynnol o’r sefyllfa gyfredol ar gyfer 2018/19. Bydd gwaith pellach yn dilyn hyn ar ragweld sefyllfa ariannol ar gyfer y blynyddoedd yn y dyfodol gyda’r bwriad i ddatblygu MTFS sydd yn rhagweld sefyllfar Cyngor hyd at 2022. Y “bwlch” a ragwelir ar gyfer 2018/19 rhwng incwm a gwariant yw £11.7M ar hyn o bryd. Bydd proses gosod cyllideb ac amserlen yn cael ei gyhoeddi gan y Cabinet yn fuan. Mae ail-fabwysiadu’r MTFS yn gam cyntaf pwysig yn y broses gosod cyllideb flynyddol a fydd hefyd yn ystyried pwysau gofal cymdeithasol, gweithlu, lleol a chenedlaethol yn ogystal â chwyddiant. Mae hyn ar ben yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol maer Cyngor wedi gwneud dros nifer o flynyddoedd wrth ddiogelu gwasanaethau a swyddi lleol, er ei fod yn Gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae arnom angen gweithio’n galetach nag erioed i gynllunio a darparu gwasanaethau hanfodol y cyngor yn y cyfnod parhaus o galedi ariannol. Mae Sir y Fflint yn gyngor sy’n derbyn lefel isel o gyllid, ac oherwydd hyn, mae’n fwy agored i effeithiau’r gostyngiadau blynyddol sylweddol wrth gyfuno gydag anghenion cynyddol ein preswylwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol megis gofal cymdeithasol. Rwy’n credu bod cefnogaeth a dealltwriaeth gynyddol y cyhoedd o realiti bod rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar unwaith i ddadwneud effeithiau caledi os ydym am amddiffyn gwasanaethau’n llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. “Mae pob maes gwasanaeth y Cyngor yn destun adolygiadau manwl a pharhaus, ac mae gofyn sut y gallant ymateb ir pwysau digynsail gyda chostau. Opsiynau effeithlonrwydd cyfyngedig sydd gan y Cyngor heb orfod lleihau gwasanaethau i lefelau annerbyniol o ddarpariaeth gwasanaeth.”