Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Amserlen Rheoli Cynaliadwy Mynydd Helygain

Published: 14/07/2017

Bydd gofyn i Gabinet Gyngor Sir y Fflint nodi menter gydweithredol ym Mynydd Helygain a chefnogir cais am grant o gynllun rheoli cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Diben y cynllun rheoli cynaliadwy yw cefnogi prosiectau tirlunio cydweithredol i wella gwydnwch ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau mewn modd sydd hefyd yn darparu buddion i fusnesau fferm a chymunedau gwledig. Yn dilyn datganiad o ddiddordeb llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd cais ar gyfer Comin Mynydd Helygain. Mae Mynydd Helygain yn gomin 2000 erw unigryw, sydd wedi’i ddynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig am ei ystod eang o gynefinoedd. Mae anifeiliaid wedi bod yn pori yno ers canrifoedd a bu llawer o gloddio am blwm, gan adael olion diwydiannol diddorol iawn wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd agored. Mae rheoli’r mynydd yn her. Mae pwysau hamdden, cwn a thraffig wedi cyfrannu at ostyngiad yn niferoedd yr anifeiliaid sydd yn pori yno sydd yn arwain at lechfeddiant gan brysgwydd. Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: “Ers 2008, pan luniwyd strategaeth ar gyfer Mynydd Helygain a phan ffurfiwyd gweledigaeth nid yn unig i gadwr dreftadaeth ddiwylliannol ragorol, ond hefyd i sicrhau bod y comin yn cael ei borin effeithiol i gyflawni ei botensial ecolegol, mae’r Cyngor, ynghyd â sefydliadau eraill, wedi bod yn gweithio i droir weledigaeth hon yn realiti. “Bydd y prosiect cyffrous hwn yn sicrhau ein bod ar y llwybr cywir i gyflawni’r weledigaeth honno. Y dyddiad cau i gyflwyno cais am grant ydi 1 Medi, a bydd y cynllun arfaethedig yn rhedeg rhwng 1 Ionawr 2018 a 31 Mawrth 2021.”