Treth Cyngor 2019/20 - Cwestiynau cyffredin

Pam bod bwlch yn y gyllideb, o le mae hyn yn dod?

Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid (65%) yn dod gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant.  

Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r swm o arian rydym wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn lleihau. Am bob 1% yng ngostyngiad ein grant gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn colli £1.9m*. Yn ogystal â cholli arian, bu'n rhaid i ni ddod o hyd i arian o’n hadnoddau presennol i dalu am bethau fel:

  • cynnydd cyflog y gweithlu – cytunwyd yn genedlaethol
  • costau cynyddol ynni, bwyd a thanwydd a gwasanaethau eraill
  • costau trethi cyflogwyr a gytunwyd arnynt yn genedlaethol megis yr Ardoll Treth Prentis
  • y costau sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth newydd megis hawl i wasanaethau cymdeithasol
  • costau cynyddol gofal cymdeithasol

Ar ben hynny, rydym wedi gorfod defnyddio ein harian wrth gefn neu arbedion, i gydbwyso cyllidebau llynedd - o ganlyniad mae bwlch yn cael ei greu'n syth yng nghyllideb y flwyddyn ganlynol – gan mai dim ond unwaith y gellir gwario’r arian wrth gefn ac nid ydynt ar gael eto i lenwi’r bwlch.

*yn seiliedig ar gyllid 2018/19 

Beth yw gwerth ariannol y pwysau sy’n wynebu’r Cyngor ar gyfer 2019/20?

Cost pressures Cym

Ydi pob Cyngor yn cael trafferth mantoli’r cyfrifon neu Sir y Fflint ydi'r unig un?

Mae cynghorau ar hyd a lled Cymru a Lloegr yn mynegi eu pryderon am risgiau ac effeithiau tan-gyllido ar ôl sawl blwyddyn o galedi. Nid dim ond Cyngor Sir y Fflint sy’n gorfod gwneud hyn.

Ers bron i ddegawd bellach, mae pob cyngor yn y DU wedi bod yn rheoli goblygiadau gostyngiadau yng nghyllid y Llywodraeth o un flwyddyn i’r llall.

Trwy arloesed, meddwl am y dyfodol a mesurau cadw tŷ llym, mae’r Cyngor rhywsut wedi llwyddo i fantoli’r cyfrifon bob blwyddyn. Mae hi’n mynd yn anoddach bob blwyddyn, gyda llai o ddewisiadau ar ôl i wneud mwy o arbedion tra'n parhau i amddiffyn gwasanaethau.

Ydi Llywodraeth Cymru yn rhoi yr un swm i bob Cyngor i ariannu gwasanaethau?

Mae’r swm o arian mae Sir y Fflint yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar rywbeth a elwir yn Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol.  Mae’r Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i chyllideb gyffredinol i’r 'teulu’ llywodraeth leol ac yna mae hwn yn cael ei ddosbarthu i'r 22 cyngor mewn ‘cyfrannau’. Mae’r Fformiwla yn cymharu’n ddamcaniaethol ar yr hyn mae pob cyngor ei angen yn ôl maint ei boblogaeth, ei gyfoeth a thlodi a pha mor wledig ydyw.

Sir y Fflint yw’r chweched sir fwyaf yng Nghymru o ran maint poblogaeth. Fodd bynnag, o dan y Fformiwla Ariannu, mae Sir y Fflint yn Gyngor sy’n derbyn arian isel fesul y pen o’r boblogaeth. Yn ôl y ffordd mae grant Llywodraeth Cymru yn cael ei gyfrif, rydym yn safle 19 o 22 Cyngor yng Nghymru ar gyfer y swm o arian rydym yn ei dderbyn yn ôl y pen o'r boblogaeth - £127 fesul unigolyn yn is na chyfartaledd Cymru. Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £19.5miliwn yn well allan yn ariannol. Byddai hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar Dreth y Cyngor.  

Pa gamau y mae’r Cyngor wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i fantoli cyfrifon?

Dros y 11 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi torri nôl ar wariant o £85miliwn.

Rydym wedi cyflawni’r targed anferth hwn drwy wneud pethau fel:

  • gostyngiad o fwy na 50% mewn swyddi uwch reoli a’u cefnogaeth
  • peidio â llenwi rhai swyddi rheoli uwch sy’n dod yn wag
  • gostyngiad mewn swyddi rheolwyr canol
  • gostyngiad o 40% mewn swyddi gweinyddol a chlercyddol a chostau
  • ‘rhewi’ cyflogau yn unol â chytundebau cenedlaethol
  • rhaglen fawr o ddiswyddiadau gwirfoddol
  • cytuno ar delerau ac amodau cyflogaeth newydd sy’n gostwng costau megis goramser am weithio y tu allan i oriau
  • lleihau holl gyllidebau gwasanaeth (heblaw Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol) 30% - rhai cyn belled â 45%
  • gofod swyddfa wedi lleihau 20%
  • gwaredu dau adeilad mawr ar gyfer swyddfeydd
  • mae dau o bedwar bloc swyddfa yn Neuadd y Sir bellach yn wag ac yn barod i gael eu dymchwel
  • uno chwe depo yn un cyfleuster newydd a mwy effeithiol yn Alltami
  • rhannu adeiladau gyda phartneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru yn Nhreffynnon a’r Fflint
  • arbed arian yn y modd yr ydym yn prynu a gyrru cerbydau’r Cyngor
  • newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau:
    • Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, cwmni newydd a grëwyd ac sy’n cael ei redeg gan gyn weithwyr y Cyngor
    • NEWydd – cwmni masnachu sy’n eiddo i'r Cyngor sydd yn darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo
  • gweithio gyda chymunedau lleol lle bu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau lleol:
    • Cambrian Aquatics ym mhwll nofio Cei Connah
    • chanolfan hamdden Treffynnon
  • creu gostyngiad o 40% yng nghymhorthdal Theatr Clwyd o dan gynllun busnes newydd
  • NEW Homes - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n darparu cartrefi i bobl leol
  • SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol) - adeiladu tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy
  • Double Click - menter gymdeithasol newydd sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu
  • integreiddio gwasanaethau gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth i rannu costau e.e. addysg
  • caffael neu swmp-brynu gyda chynghorau eraill i gael gwell bargen e.e. caledwedd cyfrifiadurol

Pam na all y Cyngor ddefnyddio'r arian sydd ganddo wrth gefn i helpu i fantoli'r cyfrifon?

Mae’r Cyngor yn cadw arian wrth gefn, yn debyg i gynilion, er mwyn sicrhau ei hun yn erbyn costau annisgwyl ac argyfyngau.  Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio’r arian wrth gefn i gyfrannu at y gyllideb flynyddol er mwyn ceisio lleihau’r bwlch a mantoli’r gyllideb.

O gymharu â nifer o gynghorau, mae cronfeydd wrth gefn Sir y Fflint yn gymharol fach a chyfyngedig. Mae ein cronfeydd wrth gefn yn cael eu hadolygu bob chwarter i sicrhau bod eu hangen o hyd.  Mae gan y Cyngor rywfaint o arian wrth gefn a gedwir at ddibenion penodol e.e. balansau ysgolion a rhywfaint o arian wrth gefn sydd ar gael i'w ddefnyddio.

Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Cyngor wedi defnyddio £6.2 miliwn o arian wrth gefn, ac yn 2018/19, defnyddiwyd £1.945 miliwn i helpu i fantoli’r gyllideb a rhoddwyd £460,000 yn ychwanegol i ysgolion i’w cynorthwyo â phwysau yn ystod y flwyddyn. 

Dim ond unwaith y gallwn ddefnyddio arian wrth gefn ac mae'r swm sydd gennym yn gostwng.

Ar gyfer 2019/20 rydym wedi neilltuo £2.2m arall  i helpu i bontio ein bwlch yn y gyllideb - nid yw defnyddio arian wrth gefn yn ateb cynaliadwy yn y tymor hir.

Gallai’r Cyngor fod yn agored i nifer o risgiau sylweddol dros y flwyddyn nesaf a gallai hynny arwain at bwysau ychwanegol o ran costau felly mae’n bwysig ein bod yn dal rhywfaint o’n harian wrth gefn yn ôl fel “clustogfa” i’w talu.  Mae’r risgiau hyn yn cynnwys costau cynyddol Gofal Cymdeithasol i blant ac oedolion ac ansicrwydd ynghylch cyflwr y farchnad genedlaethol oherwydd y trafodaethau rhwng y DU ac Ewrop sy’n peryglu lefelau chwyddiant ar gyfer nwyddau gan gynnwys bwyd a thannwydd

Mae swm mawr o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar gostau corfforaethol, a £13.5 miliwn wedi’i wario o fewn y Cyfrif Benthyciadau a Buddsoddiadau Corfforaethol – Beth yw cynnwys hwn a pham ei fod yn swm mor fawr?

Mae’r Cyfrif Benthyciadau a Buddsoddiadau Corfforaethol yn dod â’r holl incwm a’r gwariant o’n gweithgarwch benthyca a buddsoddi ynghyd.

Mae’r Cyfrif yn cynnwys y canlynol:

Llog allanol sy’n daladwy.

Mae’r Cyngor wedi gorfod benthyca arian i dalu am rywfaint o’i wariant cyfalaf yn y gorffennol pan benderfynwyd buddsoddi yn ein hasedau, fel ysgolion, ffyrdd a chartrefi gofal.

Gofynnir i ni yn aml pam na allwn dalu hen ddyledion er mwyn cymryd benthyciadau newydd ar gyfraddau is ac mae hwn yn fater yr edrychir arno fel rhan o bolisi rheoli trysorlys blynyddol y Cyngor.  Gyda llawer o’r trefniadau hyn, mae’n costio mwy i wneud hynny oherwydd y taliadau ad-dalu sy’n berthnasol tebyg i gartref yn talu benthyciad neu forgais yn fuan.  Rheswm arall yw nad oes gan y Cyngor arian dros ben i’w alluogi i wneud hyn.   Yn hytrach, mae unrhyw dderbyniadau cyfalaf a gaiff y Cyngor (a allai gael eu defnyddio i ad-dalu dyledion) yn cael eu defnyddio i ariannu’r rhaglen gyfalaf bresennol.  Mae’r Cyngor yn dihysbyddu asedau sy’n rhaid eu talu.

Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP)

Bob blwyddyn, gofynnir i Awdurdodau Lleol roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r Rheoliadau’n mynnu bod awdurdodau’n creu swm o Ddarpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) bob blwyddyn i wneud hyn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi adolygu ei bolisi MRP ac mae wedi gallu rhyddhau effeithlonrwydd refeniw.  Er ei fod yn ffurf rhatach o ad-dalu yn y blynyddoedd cyntaf bydd yn ddrutach yn y blynyddoedd olaf.

Taliadau Rheoli Dyledion

Dyma gost rheoli Swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.

Llog oddi wrth fuddsoddiadau dros dro

Dyma’r llog a dderbynnir o fuddsoddiadau byrdymor a wneir pan fydd gan y Cyngor arian dros ben.

Incwm arall

Dyma’r incwm arall yr ydym yn ei dderbyn ar gyfer benthyciadau a threfniadau eraill, er enghraifft, y benthyciad yr ydym wedi’i roi i NEW Homes.

Sut oedd Llywodraeth Cymru’n meddwl y byddai cynghorau lleol yn casglu’r arian ychwanegol y byddai ei angen i lenwi’r bylchau yn eu cyllidebau?

Mae’r Cyngor yn cael cyllid yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Grant Cynnal Refeniw.

Ar gyfer 2019/20 mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhagdgybiaeth cynllunio cyllideb y bydd cynnydd o 6.5% yn Nhreth y Cyngor ar gyfartaledd ar draws Cymru. Nid oes “cap” sy’n cyfyngu ar y lefel y gall unrhyw gyngor osod ei Dreth y Cyngor.  Yn hytrach, mae’r penderfyniad wedi cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol eu hunain.

Ar ddiwedd proses y gyllideb ar gyfer 2019/20, ac ar ôl gwneud arbedion gwerth £8.5m o effeithiolrwydd ac incwm, mae'n rhaid i'r Cyngor ddibynnu ar gynnydd o 8.17% yn y Dreth Gyngor i gwrdd â'i ofynion gwariant ei hun ar gyfer 2019/20. 

Bydd cynnydd ychwanegol yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod â’r cynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor hyd at 8.75%.

Ym mis Ebrill 2018, cynyddodd Treth Cyngor Sir y Fflint o 6.71%. Sut gafodd hyn ei gyfiawnhau?

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i osod cyllideb gytbwys flynyddol – mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn bendant y bydd ganddo ddigon o arian i wario ar bopeth y mae ei angen am y flwyddyn sydd i ddod.  Caiff y gyllideb flynyddol ei gosod ym mis Mawrth bob blwyddyn.  

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae cynghorau fel Sir y Fflint wedi wynebu gostyngiadau yn yr arian y mae wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth. Mae costau cyflenwadau megis ynni a thanwydd ar gyfer adeiladau a cherbydau yn codi. Mae mwy a mwy o bobl angen gwasanaethau cymdeithasol bob blwyddyn, ac mae hyn yn costio mwy i'r Cyngor eu darparu I grŵp mwy o bobl.  

Doedd gan y Cyngor ddim dewis ond codi rhagor o arian trwy godi tâl am wasanaethau lleol a chodi’r Dreth y Cyngor er mwyn mantoli’r gyllideb.

Yn ychwanegol at hyn mae ein hysgolion yn ei chael hi’n anodd cydbwyso eu cyllidebau. Mae hyn oherwydd pethau fel cynnydd yn nhâl athrawon, a gytunir yn genedlaethol ac sy’n rhaid i ysgolion ei dalu, a chostau cynyddol ynni, cyflenwadau ac offer.      

Nid yw’r Cyngor wedi cynyddu Treth y Cyngor dros 5% o’r blaen. O ystyried y pwysau ar ein hysgolion, rhoddwyd 1.71% yn ychwanegol at Dreth y Cyngor ym mis Ebrill 2018 er mwyn codi £1.14 miliwn i ysgolion.

Hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn, bydd Treth y Cyngor y mae preswylwyr Sir y Fflint yn ei dalu yn parhau i fod tua’r cyfartaledd a fydd yn cael ei godi ledled Cymru ac mae'n llawer is na siroedd cyfagos yn Lloegr.

Beth fydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn Sir y Fflint ym mis Ebrill 2019 a sut mae’n cael ei gyfiawnhau?

Mae'n rhaid i Sir y Fflint gynyddu Treth y Cyngor erbyn 8.17% i bontio’r bwlch rhwng y cyllid y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a’r hyn y bydd angen iddo ei dalu i ddiogelu gwasanaethau lleol allweddol i bobl leol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dal cronfeydd o arian y gallai eu trosglwyddo i gynghorau i wella’r sefyllfa ariannol ddifrifol.

Yn ein hymgyrch #CefnogiGalw yn ddiweddar, fe wnaethom gais i Lywodraeth Cymru am £5.6 miliwn o gyllid ychwanegol i Sir y Fflint, ac roeddem yn credu bod hwn yn swm posibl a fforddiadwy.  Wrth ymgyrchu, hyd yn oed pe bai Llywodraeth Cymru yn darparu popeth a geisiom, byddai cynnydd o 7% yn Nhreth y Cyngor yn dal i fod yn angenrheidiol er mwyn mantoli’r cyfrifon.

Cyn diwedd y flwyddyn, cyhoeddodd Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ambell i gyllid ychwanegol penodol i gynorthwyo cynghorau lleol.  Roedd rhai agweddau yn ateb ein gofynion:

  • Buddsoddiad ychwanegol o £14.2m yn y Setliad i gynghorau Cymru. Byddai hyn yn golygu toriad o 0.3% yng nghyllid Sir y Fflint yn hytrach na’r 1% a gyhoeddwyd yn wreiddiol – y budd i Sir y Fflint fydd £1.163m.
  • £7.5m arall tuag at gostau dyfarniad cyflog athrawon cenedlaethol – i Sir y Fflint, mae hwn yn werth £375,000.
  • Dyraniad o £2.3m ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, yr amcangyfrifwn y bydd y budd i ni’n £110,000.
  • £30m yn ychwanegol i’w ddyrannu i’r rhanbarth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol – gyda £15m i’w gadw ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant.  Nid oes cadarnhad wedi dod i law am y cyllid hwn eto, ond rydym yn amcangyfrif y gallai hyn fod yn werth £705,000 i Sir y Fflint.
  • £30m arall i ofal cymdeithasol, yr amcangyfrifir y bydd yn rhoi £1.410m yn ychwanegol i Sir y Fflint.

Er bod y cyhoeddiadau hyn wedi’u croesawu, pan roddir y cyfan at ei gilydd, ni fydd swm yr arian ychwanegol yn dal yn ddigon.  Byddwn yn dal i wynebu bwlch yn y gyllideb o ryw £3.1 miliwn.

Mae’n afresymol bod cynghorau’n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Mae cyfrifoldeb ar lywodraethau i gyllido'r cynghorau'n ddigonol er mwyn darparu gwasanaethau lleol i fodloni gofynion a hawliau cymunedau lleol.

Heb unrhyw gyhoeddiadau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, nid oes gennym unrhyw ddewis ond i gynyddu cyfran y Cyngor o Dreth y Cyngor erbyn 8.17%.

Ai dyma’r unig gynnydd y bydd Trethdalwyr Cyngor Sir y Fflint yn ei wynebu ym mis Ebrill 2019?

Bydd y cynnydd o 8.17% yn darparu’r arian sydd ei angen ar y Cyngor i bontio’r bwlch rhwng y cyllid y mae’n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a’r gyllideb sydd ei angen i ddiogelu gwasanaethau lleol allweddol i bobl leol.

Ar ben hyn caiff 0.58% ei ychwanegu er mwyn codi’r swm o £381,000 a osodwyd ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae Treth y Cyngor o bob un o’r chwe sir yng ngogledd Cymru yn talu am y gwasanaeth tân ac achub o dan system 'ardoll’.

Byddwch hefyd yn gweld cynnydd yn eich praesept Cyngor Tref neu Gymuned lleol. 

Rhan olaf eich bil yw’r praesept ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i helpu i ariannu Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r ddau dabl isod yn dangos y ganran a’r cynnydd ariannol y gellir ei ddisgwyl yn seiliedig ar eiddo Band D ar gyfartaledd.

Analysis of Band D Cymraeg

Band D Charges Cymraeg

.

Ydi Sir y Fflint yn codi Treth y Cyngor uwch o gymharu â chynghorau eraill Cymru?

Nid yw Treth y Cyngor y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i osod yn uwch o gymharu â chynghorau eraill Cymru.

Cododd Cyngor Sir y Fflint Dreth y Cyngor o 6.71% ym mis Ebrill 2018, ond eto roedd cyfartaledd eiddo Band D lleol o £1,117.60 yn parhau i fod £41 yn is na chyfartaledd Cymru.

Welsh Council Tax Comparison Cym

Ydi Sir y Fflint yn codi Treth y Cyngor uwch o gymharu â chynghorau eraill Lloegr?

Nid yw Treth y Cyngor y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i osod yn uwch o gymharu â chynghorau eraill Lloegr.

Efallai bod y cynnydd o 6.71% a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2018 yn uwch na’r cynnydd ‘canran’ a osodwyd gan ein cynghorau cyfagos yn Lloegr. Serch hynny, mewn termau real, roedd tâl band D lleol o £1,177.60 yn Sir y Fflint, £236 yn is na thâl cyfartaledd Band D ar draws ein cymdogion agos yn Nwyrain Sir Gaer, Gorllewin Sir Gaer a Chaer, Cilgwri, Halchdyn, Knowsley a Swydd Amwythig.

English Council Tax Comparison Cym

Beth ydw i’n talu amdano gyda fy Nhreth Cyngor? 

Treth leol ydi Treth y Cyngor sydd yn cael ei gasglu gan bob cyngor yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar werth eiddo domestig fel y pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae bil eich Treth Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol - tâl i Gyngor Sir y Fflint (gan gynnwys Tân ac Achub), tâl i Heddlu Gogledd Cymru, a thâl i’ch cyngor tref neu gymuned leol.  

Dim ond 26% o’r arian y mae’r Cyngor ei angen i dalu am wasanaethau lleol sydd yn cael ei godi trwy Dreth y Cyngor. Daw’r rhan fwyaf o’n incwm (65%) gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant.  Daw’r 9% sy’n weddill o’r ffioedd rydym yn ei godi am rai gwasanaethau.

Nid yw Treth y Cyngor rydym yn ei gasglu yn fil uniongyrchol am y gwasanaethau unigol a ddarperir gan y Cyngor, yn hytrach caiff ei gyfuno i helpu i dalu am yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.  

Mae’n rhaid i dalwyr y Dreth Gyngor dalu swm y dreth sydd yn ddyledus am eu heiddo ac ni allant ofyn am ostyngiad neu ddisgownt am nad ydyn nhw nac aelodau o’u teulu, wedi cyrraedd y cyfnod yn eu bywyd pan nad ydynt yn defnyddio’r holl wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Bob blwyddyn, byddwn yn darparu dadansoddiad o ble ddaw incwm y Cyngor a sut caiff yr arian ei wario.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.  

Beth mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud a pham eu bod ar fy mil? 

Mae yna 34 Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint. Maent yn darparu neu’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a chyfleustodau lleol gan gynnwys neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddi cyhoeddus, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed.  Mewn rhai achosion gallant gyfrannu at y gost o redeg cyfleusterau lleol mwy megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Mae’ch Cyngor Tref neu Gymuned yn derbyn mwyafrif ei arian trwy gyfran o’r Dreth Cyngor sy’n cael ei dalu gan breswylwyr sy’n byw o fewn ei ffiniau. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae swm y ‘praesept’ y mae eich Cyngor Tref neu Gymuned yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Cyngor Tref neu Gymuned.   

Mae’r Cyngor Sir yn cyhoeddi rhestr o braeseptau Cynghorau Tref a Chymuned bob blwyddyn.  Cliciwch yma i weld y rhestr.

Beth mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ei wneud a pham ei fod ar fy mil?

Cyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yw darparu gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer ardal gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Panel Heddlu a Throsedd i osod cyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r Llywodraeth yn darparu tua 75% o’r cyllid angenrheidiol i redeg gwasanaethau Heddlu yng Ngogledd Cymru; caiff y gweddill ei godi trwy Dreth y Cyngor. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r pum cyngor arall yng ngogledd Cymru, yn gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.  

Mae swm y ‘praesept’ y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.   

Bob blwyddyn mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth cyllideb am gynlluniau gwario Heddlu Gogledd Cymru.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Pwy sydd yn talu am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru? 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwarchod preswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth trwy wasanaethau ataliol ac ymatebol, gan gynnwys diogelwch yn y cartref, atal a diffodd tanau, ac ymateb i wrthdrawiadau ffordd, ac argyfyngau eraill gan gynnwys tywydd gwael.

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i'r Cyngor Sir dalu mewn i gronfa gyfun y gwasanaeth tân i gwrdd â chostau blynyddol y Gwasanaeth Tân ac Achub. Fe’i gelwir yn Ardoll flynyddol y Gwasanaeth Tân. Ar gyfer 2018-19 talodd y Cyngor ardoll o £7.4m.

Er nad oes ‘praesept’ ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w weld ar eich bil Treth y Cyngor – mae rhan o’r Dreth Cyngor rydych yn ei dalu yn helpu'r Cyngor i ariannu’r gwasanaeth tân ac achub.  

Yn wahanol i Gyngor Sir y Fflint, sy’n darparu gwasanaethau o fewn ffiniau Sir y Fflint yn bennaf, mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau atal, amddiffyn ac ymateb i ogledd Cymru gyfan. Wrth osod ei gyllideb ar gyfer 2019/20, roedd gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn wynebu bwlch posibl o £1.9m a byddai angen cyfraniad mwy gan bob un o'r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru er mwyn ei alluogi i fantoli’r llyfrau.  

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Medi a mis Tachwedd 2018, cytunodd bobl ledled gogledd Cymru y dylid gofyn i gynghorau sir dalu mwy o arian i bontio’r bwlch a bod cyfraniad ychwanegol o £6 neu £7 ar filiau Treth y Cyngor aelwydydd yn dderbyniol i sicrhau nad yw gwasanaethau tân ac achub lleol yn cael eu gostwng.

Mae’r swm hwn bellach wedi cael ei gadarnhau fel cynnydd o £381,000 i Sir y Fflint. Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, bydd angen i aelwydydd yn Sir y Fflint dalu 0.58% yn ychwanegol at y cynnydd o 8.17% sy’n angenrheidiol i dalu am wasanaethau’r Cyngor.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a rôl yr Awdurdod Tân.  

Ydych chi’n meddwl bod cyllidebau tŷ wedi eu hymestyn eisoes?

Wrth benderfynu ar y swm o grant i’w roi i’r Cynghorau ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhagdybio y byddai pob cyngor ar draws Cymru yn cynyddu eu rhan o Dreth y Cyngor 6.5%.   Ar gyfer eiddo Band D yn Sir y Fflint, sy’n talu £1,177.60 ar hyn o bryd, byddai cost y cynnydd hwn yn £1.47 yr wythnos.  

Ni fydd cynnydd o 6.5% yn pontio’r bwlch yn y gyllideb, felly er mwyn diogelu gwasanaethau a chyfleusterau lleol nid oes gennym unrhyw ddewis ond cynyddu hwn ymhellach 1.67%.

Rydym yn gwybod bod cyllidebau tŷ yn dynn ond heb unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru nid oes yna unrhyw ddewisiadau eraill. 

Drwy gyfrannu 1.67% ychwanegol uwchben y 6.5%, bydd pob tŷ yn Sir y Fflint yn helpu i ddiogelu gwasanaethau lleol allweddol sydd fel arall mewn perygl o ddiflannu.  Pethau fel:

  • Gwasanaeth cerdd mewn ysgolion
  • Gwasanaethau ieuenctid
  • Gwasanaethau Cefn Gwlad
  • Llyfrgelloedd
  • Canolfannau Hamdden
  • Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Beth allaf i ei wneud os na allaf i fforddio talu Treth y Cyngor?

Gall talwyr Treth y Cyngor ar incwm isel, sy’n derbyn budd-daliadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol, fod yn gymwys i gael cymorth tuag at dalu Treth y Cyngor. Gelwir hyn yn Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Cliciwch yma i ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld os allwch chi gael unrhyw gymorth.

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn gymwys ar ôl defnyddio’r cyfrifiannell budd-daliadau, cliciwch yma i gyflwyno ffurflen ‘ar-lein’ am Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.  

I helpu talwyr Treth y Cyngor i neilltuo arian o amgylch taliadau misol, gall y Cyngor gynnig rhandaliadau dros gyfnod o 12 mis yn lle 10 mis, neu faint bynnag o fisoedd sydd yn weddill yn y flwyddyn tan fis Mawrth 2019. Os hoffech chi newid eich dull o dalu neu i sefydlu taliadau dros 12 mis, gallwch gysylltu â thîm Treth y Cyngor.  E-bost:  local.taxation@flintshire.gov.uk  Rhif ffôn 01352 704848.

Ydw i’n gorfod talu mwy neu lai?

Gofynnir i Drethdalwyr y Cyngor wneud cyfraniad ariannol mwy i amddiffyn gwasanaethau lleol ac i wneud yn iawn am y gostyngiadau yng nghyllid y Llywodraeth.

Mae Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus yn amddiffyn a hyd yn oed yn ymestyn rhai gwasanaethau lleol er ei fod yn gorfod lleihau faint o arian mae’n ei wario dros sawl blwyddyn o galedi cenedlaethol.

Felly, yr ateb yw, rydych yn talu mwy am yr un peth. Trwy gyfrannu 1.67% yn ychwanegol uwchben cyfartaledd cenedlaethol Cymru rydym yn helpu i gefnogi a diogelu gwasanaethau lleol allweddola fyddai fel arall mewn perygl.

Ni fyddem yn argymell bod cyllid yn cael ei ostwng na'i dynnu yn ol o unrhwy un o'r gwasanaethau a restrir isod, ond pe baem yn gwneud hynny .....

Service Risks 1 700 Cym

Risks 700 Cym

A fydd yna gynnydd mawr arall yn Nhreth y Cyngor ym mis Ebrill 2020?

Bydd lefelau Treth y Cyngor y bydd angen i ni eu gosod yn y blynyddoedd i ddod – o 2019/20 ymlaen - yn dibynnu'n llwyr ar:

  • y safle mae Llywodraeth Y DU yn ei gymryd ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus
  • faint o'i gyllideb cyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei basio 'mlaen i gynghorau lleol
  • penderfyniadau llywodraeth ganolog a Llywodraeth Cymru i ariannu cytundebau cenedlaethol yn llawn fel cyflogau athrawon a phensiynau

Po fwyaf o arian mae’r cynghorau lleol yn ei dderbyn, y lleiaf tebygol y bydd cynnydd yn Nhreth y Cyngor.

Nid yw Sir y Fflint wedi gosod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2020-21 eto.

A yw busnesau’n gorfod talu ardrethi uwch neu dim ond perchnogion tai?

Mae Ardrethi Busnes yn system drethu genedlaethol.

Cesglir Ardrethi Busnes gan y Cyngor, a elwir hefyd yn awdurdod bilio, ac maent yn cael eu talu wedyn i gronfa gasglu genedlaethol ar gyfer Cymru a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfran o’r Ardrethi Bunses a gasglwn yn cael ei hailddosbarthu yn ôl i’r Cyngor ac yn seiliedig ar fformiwla a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef y Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol, rydym ni’n derbyn llawer llai nag rydym yn ei gasglu.

Mae Ardrethi Busnes yn cael eu cyfrifo trwy luosi Gwerth Ardrethol eiddo â’r ‘lluosydd ardrethi’ blynyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn gosod y lluosydd bob blwyddyn ac mae hwn yn sefydlog yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). 

Yn 2019/20, bydd biliau Ardrethi Busnes yn gweld cynnydd o 2.6% (cyfradd CPI ym mis Medi 2018), ac oherwydd bod y Cyngor yn casglu Ardrethi Busnes ar ran Llywodraeth Cymru, ni allwn ofyn i fusnesau dalu mwy o ardrethi er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau lleol.

Mae’n rhaid eich bod yn casglu llawer o arian ardrethi busnes, pam na alwch chi ddefnyddio hwnnw i ariannu rhywfaint o’r bwlch yn y gyllideb?

Cesglir Ardrethi Busnes gan y Cyngor, a elwir hefyd yn awdurdod bilio, ac maent yn cael eu talu wedyn i gronfa gasglu genedlaethol ar gyfer Cymru a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Mae cyfran o’r Ardrethi Bunses a gasglwn yn cael ei hailddosbarthu yn ôl i’r Cyngor ac yn seiliedig ar fformiwla a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef y Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol, rydym ni’n derbyn llawer llai nag rydym yn ei gasglu.

Mae’r Llywodraeth yn dyrannu cyfran o’i gyllideb cyffredinol i’r 'teulu’ llywodraeth leol ac yna mae hwn yn cael ei ddosbarthu i'r 22 cyngor mewn ‘cyfrannau’. Mae’r Fformiwla yn cymharu’n ddamcaniaethol ar yr hyn mae pob cyngor ei angen yn ôl maint ei boblogaeth, ei gyfoeth a thlodi a pha mor wledig ydyw.

Sir y Fflint yw’r chweched sir fwyaf yng Nghymru o ran poblogaeth.  Fodd bynnag, o dan y Fformiwla Ariannu, er bod Sir y Fflint wedi casglu £65.8 miliwn o Ardrethi Busnes yn ystod 2016-17, dim ond £45.8 miliwn a gawsom yn ôl fel rhan o’n cyfran o Ardrethi Busnes a ailddosbarthwyd. Mae hyn yn golygu bod Sir y Fflint yn ‘gollwr net’ o £20 miliwn gan fod hon yn system ailddosbarthu sy’n fuddiol i gynghorau llai yng Nghymru sydd heb sylfaen drethu fawr ar gyfer ardrethi busnes.

Gyda’r nifer cynyddol o dai yn Sir y Fflint lle cesglir treth y cyngor, a’r refeniw ychwanegol y gall ei gynnig, siawns nad oes yn rhaid i’r cynnydd fod mor fawr?

Yn Sir y Fflint mae gennym y nifer uchaf o dai ar draws Gogledd Cymru a’r chweched uchaf ar draws Cymru gyfan.  Mae faint o Dreth y Cyngor rydym yn ei gasglu hefyd yn tyfu ar raddfa uwchlaw cyfartaledd Cymru – 0.7% o’i gymharu â 0.5% - o ganlyniad i gartrefi newydd yn cael eu creu.

Mae hyn yn beth da i economi Sir y Fflint.  Mae busnesau yn gallu cael yr ystod o sgiliau maent eu hangen yn lleol, mae gan bobl leol fynediad i swyddi lleol ac mae yna dai ar gael i bobl sy’n dod i’r ardal i weithio. 

Er bod hyn yn dod â heriau ariannol i Sir y Fflint – mwy o bobl leol angen ein gwasanaethau e.e. ysgolion, gofal cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, llyfrgelloedd, tai ac ati - gellir lledaenu cost y galw cynyddol hwn ar draws nifer o dai gan helpu i gadw'r gost i lawr.

Pam nad yw’r Cyngor yn mynd ar ôl y rheiny nad ydynt yn talu treth y cyngor ar amser – byddai hynny’n siŵr o helpu i ariannu rhywfaint o’r bwlch yn y gyllideb?

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, yw'r Cyngor sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor yn barod. 

 Ym mlwyddyn ariannol 2017/18, casglodd y Cyngor 98.2% o Dreth y Cyngor dyledus, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd a gasglwyd yng Nghymru yn y flwyddyn honno (97.4%). Roedd hyn yn golygu mai Sir y Fflint yw’r Cyngor gorau ond un yng Nghymru. Y ffigwr casglu hwn hefyd yw’r lefel casglu uchaf a gyflawnwyd gan Sir y Fflint. 

Rydym ar y llwybr iawn gyda’n rhagdybiaethau y byddwn yn y pen draw yn casglu o leiaf 98.9% o dreth y cyngor sy’n ddyledus mewn unrhyw flwyddyn – mae hyn yn llawer uwch na chyfartaledd casglu yng Nghymru sef 98.1%.

Rydym hefyd yn cydnabod y gall rhai aelwydydd ei chael yn anodd talu ac yn annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu i gysylltu’n fuan â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 neu www.siryfflint.gov.uk/counciltax .

Pam nad yw’r Cyngor yn gofyn i lywodraeth ganolog am gyllid ychwanegol yn hytrach na chodi Treth y Cyngor?

Am y tair blynedd diwethaf, mae Sir y Fflint wedi bod yn dweud yn agored nad yw sefyllfa barhaus y gyllideb genedlaethol yn gynaliadwy a bod gwasanaethau lleol o dan fygythiad difrifol.

I fynd i’r afael â thros ddegawd o ostyngiadau o flwyddyn i flwyddyn gan Lywodraethau a pha mor agored ydym ni i effeithiau caledi fel un o'r cynghorau sy’n derbyn y swm lleiaf o gyllid fesul person o'r boblogaeth yng Nghymru, fel rhan o’i ymgyrch #CefnogiGalw 'gofynnodd' Sir y Fflint i Lywodraeth Cymru am £5.6 miliwn yn ychwanegol i helpu i bontio’r bwlch o £6.7 miliwn a oedd yn weddill yn y gyllideb yn 2019/20.

Cyn diwedd y flwyddyn, cyhoeddodd Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ambell i gyllid ychwanegol penodol i gynorthwyo cynghorau lleol, ac roedd rhai o’r rheiny’n ateb ein ‘gofyn’.

Er bod y cyhoeddiadau hyn wedi’u croesawu, pan roddir y cyfan at ei gilydd, ni fydd swm yr arian ychwanegol yn dal yn ddigon.  Rydym yn dal i wynebu bwlch cyllideb o ryw £3.1 miliwn.

Mae’n afresymol bod cynghorau’n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Mae cyfrifoldeb ar lywodraethau i gyllido'r cynghorau'n ddigonol er mwyn darparu gwasanaethau lleol i fodloni gofynion a hawliau cymunedau lleol.

Heb unrhyw gyhoeddiadau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ni fu unrhyw opsiwn ond i gynyddu'r Dreth Gyngor erbyn 8.17%.

Pam ydych chi’n adolygu’r trefniadau cludo ar gyfer myfyrwyr dros 16 oed?

Mae cludiant ar ôl 16 oed i’r ysgol a’r coleg, a darparu cludiant am ddim o dan y maen prawf “budd-daliadau” yn wasanaethau dewisol.  Mae’n wasanaeth y teimla’r Cyngor y dylai ei ddarparu.  Wrth i ni barhau i wynebu gostyngiadau sylweddol yn ein cyllid, rydym yn wynebu penderfyniadau anodd ac felly mae’n rhaid ystyried gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau.

Nid yw’r hawl i gludiant am ddim wedi’i roi yn ôl disgresiwn yn unol â’r maen prawf “budd-daliadau” wedi cael ei adolygu ers 1996. Sir y Fflint yw’r unig gyngor yng Nghymru sy'n dal i roi'r hawl benodol hon.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n rhaid inni ystyried dewisiadau eraill.

Ni fydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud am gludiant ôl-16 tan ar ôl proses ymgynghori lawn. Bydd hon yn dechrau yn nes ymlaen eleni.  Os hoffech ddweud eich dweud am y mater hwn, cadwch lygad ar wefan y Cyngor.

Pam mae angen i chi adolygu Cludiant Cyhoeddus ledled Sir y Fflint?

Mae’r Cyngor wedi edrych ar gefnogi’r rhwydwaith bysiau craidd trwy bartneriaethau bysiau o ansawdd gyda gweithredwyr bysiau masnachol a gweithredu trefniadau teithio lleol amgen, mwy cynaliadwy megis gwasanaeth rhyngweithiol ‘ffonio a theithio’ (ymateb i'r galw) a gwasanaethau bysiau mini cymunedol wedi’u trefnu.  

Mae hyn wedi cynnwys tynnu gwasanaethau cost uchel fesul teithiwr yn ôl, gwneud y gorau o’r rhwydwaith cludiant teithwyr presennol, datblygu gwasanaethau bysiau mini cymunedol a defnyddio cerbydau llai sy’n fwy addas i natur cymunedau gwledig llai poblog a’r galw am wasanaeth cludiant cyhoeddus o’r ardaloedd hynny.

Pam eich bod wedi cynyddu/cyflwyno ffioedd parcio ceir?

Mae ffioedd parcio Sir y Fflint ymhlith yr isaf yn y wlad.

Bob blwyddyn mae’r Cyngor yn gwario £900,000 yn cynnal a chadw ei feysydd parcio. Mae’r prisiau a osodwyd yn seiliedig ar adfer cost i’r gwasanaeth.

Mae ein ffioedd yn dal yn isel o’u cymharu â chynghorau eraill ac nid oes unrhyw gynlluniau i gynyddu taliadau parcio yn 2019/20 ar hyn o bryd.

Pam ydw i’n talu Treth y Cyngor helpu gwasanaethau cynnal nad ydw i’n eu defnyddio?

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti tenantiaid y Cyngor.

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heiddo ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, ar hyn o bryd, yn defnyddio rhai o wasanaethau'r Cyngor.

Mae addysg a gofal cymdeithasol yn enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau fel estyniad i’r Wladwriaeth Les. Mae pob un ohonom ni’n cyfrannu tuag atynt.

Mae rhai gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu darparu trwy gontract allanol megis llyfrgelloedd chanolfannau hamdden, felly pam ydym ni’n dal i dalu amdanynt?

Dros y 11 mlynedd diwethaf, mae’r Cyngor wedi arbed £85 miliwn gan ddiogelu, lle bo modd, y gwasanaethau hynny y mae trigolion a chymunedau yn eu gwerthfawrogi. 

Un o’r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn yw drwy greu menter gymdeithasol newydd sbon, sef Aura Cymru, i reoli gwasanaethau hamdden, llyfrgell ac amgueddfa cynaliadwy.

Drwy gymryd y gwasanaethau hyn allan o reolaeth uniongyrchol y Cyngor, rydym wedi dewis ymagwedd entrepreneuraidd sy’n ymatebol i ofynion masnachol y farchnad.

Mae’r Cyngor yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau hyn yn ariannol drwy grant blynyddol, a fydd yn lleihau dros amser wrth i'r cwmni ddod yn fwy hunanddigonol yn ariannol, a thrwy raglenni buddsoddi penodol sef £1.4 miliwn ar gyfer Canolfan Hamdden yr Wyddgrug yn fwyaf diweddar – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r gefnogaeth barhaus hon yn helpu i gadw gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd ar agor. Pe bai’r Cyngor yn stopio neu’n lleihau faint o gefnogaeth mae'n ei darparu, byddai'n rhaid stopio gwasanaethau.

Mae Aura Cymru yn cynnig ystod lawn o wasanaethau.  Ewch i www.Aura.Cymru i weld yr ystod lawn o opsiynau aelodaeth a hyrwyddiadau arbennig sydd i’w cael.

Mae eich Treth y Cyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti.

Mae Trethdalwyr yn gorfod talu’r treth sy’n ddyledus ar gyfer eu heiddio ac ni allant ofyn am ostyngiad na disgownt oherwydd eu bod nhw, neu aelodau o’u teulu, ar adeg yn eu bywydau lle nad ydynt yn defnyddio rhai o’r gwasanaethau a’r cyfleusterau a ddarperir gan y Cyngor.

Beth ydych chi’n ei olygu gydag ‘arbedion’?

Pan fyddwn ni’n defnyddio’r term ‘arbedion’, rydym ni’n sôn am y ffyrdd gwahanol o ddod o hyd i ddatrysiadau i lenwi’r bwlch yn y gyllideb.   Gall y rhain gynnwys pethau fel:

  • bod yn fwy effeithlon ac ‘arbed' arian
  • bod yn fwy entrepreneuraidd yn y modd rydym ni’n gwneud pethau
  • lleihau faint o arian a roddir i wasanaethau ei wario
  • lleihau faint o arian sydd gennym i wario trwy godi tâl am rai gwasanaethau

Trwy wneud pethau’n wahanol gallwn ‘arbed’ arian i'r cyngor a sicrhau bod gwasanaethau’n dal i gael eu rhedeg. 

Pam ydych chi wedi symud gweithwyr i hen swyddfeydd Unilever yn Ewlo, yn hytrach na gwerthu’r adeilad?

Yn yr hinsawdd ariannol heriol hwn, mae’r Cyngor wedi archwilio’r holl opsiynau i wneud y defnydd gorau o’i swyddfeydd a gwneud arbedion.  Mae hyn wedi cynnwys dymchwel a chlirio swyddfeydd y Cyngor yng Nghei Connah; cyfuno chwech depo i un depo canolog yn Alltami; rhannu swyddfeydd gyda phartneriaid megis Heddlu Gogledd Cymru a Chanolfan Byd Gwaith – yn ein canolfannau Cysylltu ym Mwcle, Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon.

Mae adeilad Neuadd y Sir yn heneiddio ac er ei fod wedi ateb y diben am sawl blwyddyn mae bellach yn rhy ddrud i’w redeg. 

Ddwy flynedd yn ôl, symudwyd 750 o bobl o Safleoedd 3 a 4 yn Neuadd y Sir (y ddwy ran yng nghefn yr adeilad) i Safleoedd 1 a 2 ym mlaen yr adeilad (agosaf at yr Wyddgrug) i wneud y defnydd gorau o’r lle a oedd ar gael.  Galluogodd hyn ni i gau safleoedd 3 a 4 ac mae hyn wedi creu gostyngiad o 420 tunnell o garbon a lleihad o 43% mewn arwynebedd llawr swyddfa.  Mae costau rhedeg blynyddol wedi gostwng o £1.7m i £1.2m.  Ein bwriad eleni (2019) yw dymchwel Safleoedd 3 a 4.

Rhoddwyd Tŷ Dewi Sant yn Ewlo – sef yr hen Unity House a oedd yn cael ei osod ar brydles gan y Cyngor i Unilever – ar y farchnad agored i’w werthu yn fuan ar ôl i Unilever adael y safle a symud i Port Sunlight.   Ychydig iawn o ddiddordeb a ddangoswyd yn ystod y cyfnod yma, a chaeodd swyddfeydd HSBC gerllaw ar yr un parc busnes hefyd, a’i gwneud yn anoddach i gael gwared ar adeilad mawr yn y lleoliad yma am bris realistig.   

Mae symud bron i 400 o weithwyr o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug i adeilad Tŷ Dewi Sant sydd wedi’i ailwampio yn rhan allweddol o strategaeth barhaus y Cyngor i wneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o’i swyddfeydd.  Costiodd £700,000 i’r Cyngor gael yr adeilad yn barod.  Fel swyddfeydd gwag, roedd Tŷ Dewi Sant yn costio £700,000 y flwyddyn i’r Cyngor, ond gan fod y swyddfeydd bellach yn llawn, bydd ei gostau rhedeg cyn lleied â £400,000 y flwyddyn, ond ni fydd hwn yn gost ychwanegol i’r Cyngor gan y bydd yr arbedion a wnaed o gau Safleoedd 3 a 4 yn Neuadd y Sir yn talu costau rhedeg Tŷ Dewi Sant.  

Mae’r symudiad yma a gynlluniwyd yn ofalus wedi sicrhau bod yr adeilad yn cael i ddefnyddio eto ac mae’n darparu canolfan fodern, cost effeithiol ar gyfer ein gweithlu.

Os ydych yn cael anhawster mantoli’r llyfrau, pam mae gweithwyr y cyngor newydd gael codiad cyflog?

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae’r Cyngor wedi arbed £85miliwn.  Mae ailfodelu ei weithlu wedi cyfrannu’n sylweddol at yr arbedion hyn.   

Fel unrhyw fusnes ein gweithlu yw ein ased mwyaf a’n cost mwyaf.  Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 5950 o bobl ac roedd ein ‘bil cyflogau’ ar gyfer 2017/18 yn £177.3m.

O’i gymharu â thair blynedd yn ôl, roedd 1190 yn llai o bobl yn gweithio i’r Cyngor.  O’r ffigwr hwn rydym wedi diogelu 673 o swyddi trwy drosglwyddo swyddi i fodelau busnes newydd megis gwasanaeth Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a gwasanaeth Arlwyo a Glanhau NEWydd.   

Rydym wedi creu gostyngiad o 50% mewn swyddi uwch reolwyr, swyddogion gweinyddol a chlerigol a gostyngiad o 40% mewn costau, rydym wedi cytuno ar delerau ac amodau cyflogaeth newydd gan leihau pethau fel costau goramser / gwaith y tu allan i oriau, ac rydym yn gweithredu rhaglen o ddiswyddiadau gwirfoddol parhaus.

Mae dyfarniadau tâl i weithwyr y cyngor yn cael eu cyd-drafod a’u cytuno’n genedlaethol gan Lywodraeth y DU.   Yn unol â'r cytundebau cenedlaethol hyn, dros y blynyddoedd diwethaf mae'r Cyngor rhewi cyflogau yn ogystal â chodiadau cyflog mwy diweddar. Er eu bod yn cael eu cytuno’n genedlaethol, nid yw llywodraethau’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol i dalu costau ‘biliau cyflogau’ uwch.

Mae’r dyfarniad tâl diweddaraf a gytunwyd yn genedlaethol yn daladwy dros ddwy flynedd, y rhan gyntaf ar 1 Ebrill 2018 a’r ail ran flwyddyn yn ddiweddarach ar 1 Ebrill 2019. 

Sut fydd y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn cyflogwyr i bensiynau athrawon yn effeithio ar sefyllfa’r gyllideb?

Mae cynllun pensiwn athrawon ynghyd â chynlluniau cenedlaethol eraill yn y sector cyhoeddus yn gorfod cwblhau prisiad bob pedair blynedd i sicrhau y gellir cwrdd â chost darparu pensiynau yn y tymor hir.  Bydd y prisiad diweddaraf yn arwain at gynnydd yng nghostau pensiwn cyflogwyr o 16.48% i 23.6% o fis Medi 2019 ymlaen.  Amcangyfrifir y bydd y cynnydd hwn yn arwain at effaith ariannol gwerth £2.06 miliwn ar ysgolion Sir y Fflint yn 2019/20.

Er bod y Trysorlys wedi nodi £4.7 biliwn i gefnogi cyflogwyr gyda’r cynnydd hwn mewn costau, ar hyn o bryd nid oes unrhyw awgrym p’un a fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol i gefnogi Llywodraeth Leol gyda’r cynnydd mewn costau pensiwn.  Mae’n cynrychioli risgi sylweddol i’n hysgolion sydd eisoes yn cael anhawster mantoli eu cyllidebau.

Tudalen wedi'i ddiweddaru: 20 Chwefror 2019