Alert Section

Coroni'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog


Yn ystod y penwythnos 6 – 8 Mai 2023, bydd pobl yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin a’i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog.

Yn ogystal  â nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a drefnwyd, mae pobl i fyny ac i lawr y DU yn cael eu hannog i ddod at ei gilydd a dod â dathliadau’r Coroni i ganol eu cymunedau eu hunain.

I gael mwy o wybodaeth am ddathliadau’r Coroni ewch i: 

https://www.royal.uk/coronation 

https://coronation.gov.uk/ 

Cynllunio dathliad cymunedol

Darllenwch y wybodaeth isod os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac am gynllunio dathliad cymunedol.

Partïon Stryd 

Parti stryd yw digwyddiad bach ar gyfer trigolion lleol a'u teuluoedd (am ddim); nad yw'n cael ei hysbysebu i'r gymuned ehangach.

Caiff ei gynnal mewn tŷ neu ardd, mewn man gwyrdd lleol neu ar ffordd breswyl dawel. 

Y trigolion lleol fydd yn darparu’r bwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol. 

Caniateir chwarae cerddoriaeth heb seinchwyddwr rhwng 8am ac 11pm (oni bai bod Hysbysiad Digwyddiad Dros-dro yn ei le).

Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da ar y diwrnod am wobrau gwerth llai na £500. 

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi a’ch bod yn bwriadu ei gynnal ar isffordd breswyl, lle na fydd fawr o effaith ar draffig trwodd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Traffig Dros Dro (TTRO).   

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 31 Mawrth 2023.
 

Digwyddiadau Cyhoeddus 

Mae digwyddiad cyhoeddus yn wahanol i barti stryd.  

Gall unrhyw un fynychu a gellir codi tâl mynediad.

Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r digwyddiad, er enghraifft ar-lein neu gyda phosteri. 

Fe'i cynhelir mewn adeilad sy'n agored i'r cyhoedd neu barc.

Gweinir bwyd poeth a diod ar ôl 11pm.

Mae alcohol ar gael i’w brynu. 

Caiff cerddoriaeth fyw ei chwarae rhwng 8am ac 11pm.
(Mae’n rhaid rheoli lefelau cerddoriaeth wedi’i fwyhau o ddigwyddiadau wedi’u recordio neu ddigwyddiadau byw fel nad yw’n achosi niwsans sŵn i gymdogion. Yr arfer gorau fyddai dilyn ‘Cynllun Rheoli Sŵn’ fel rhan o’ch asesiad risg.)

Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da cyn y digwyddiad.  

Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi, bydd angen i chi gyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i'r Cyngor ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. 

I gael mwy o wybodaeth am Rybudd Digwyddiad Dros Dro a sut i’w gyflwyno, ewch i  https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Licences-and-permits/Temporary-event-notice.aspx