Alert Section

Amdanom Ni

Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint

Early Years and Family Support logo

“Mae’r blynyddoedd cynnar (o genhedlu hyd at ben-blwydd y plentyn yn saith) yn gyfnod allweddol ym mywydau ein plant.  Ein gweledigaeth yw i BOB plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, a chael magwraeth hapus, iach a diogel, gyda’r cyfle i gyrraedd eu potensial, gan adael neb ar ôl.  Mae profiadau plentyn yn ystod y cyfnod hwn yn cael effaith sylweddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd.  Mae’r cyfuniad o ddulliau magu plant da, cyngor da, cefnogaeth a chyfleoedd ar gyfer addysg o ansawdd uchel yn darparu’r sylfaen sydd ei angen ar bob plentyn i’w paratoi i ddysgu a gwneud y mwyaf o’u gallu wrth iddynt dyfu.  Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer plant dan anfantais lle gall cefnogaeth yn y blynyddoedd cynnar gael yr effaith fwyaf.”

Croeso i wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint.

Ddechrau 2022, dechreuom ein hymgynghoriad ‘Llais Rhieni Sir y Fflint’. Siaradom gyda rhieni a rhieni a oedd yn disgwyl babi ar draws y sir, a nododd y byddai’n ddefnyddiol cael un lle’n darparu gwybodaeth am beth sydd ar gael yn Sir y Fflint, i’w cefnogi ar eu siwrnai fel rhieni. 

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i rieni sy’n disgwyl babi a theuluoedd gyda phlant ifanc rhwng 0 a 7 oed sy’n byw yn Sir y Fflint. 

Os ydych chi’n disgwyl babi, neu eisoes yn rhiant (gan gynnwys neiniau a theidiau a gofalwyr) i blentyn sy’n 7 oed neu’n iau ac yn byw yn Sir y Fflint, gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi. 

Os ydych chi’n darparu gwasanaethau i blant ifanc a’u teuluoedd, gobeithiwn y bydd y ffynhonnell hon yn ddefnyddiol i chi ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i’ch helpu yn eich rôl a’i rhannu gyda theuluoedd.  

Mae’r gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cynnwys pedwar maes allweddol: 

  • Porth Blynyddoedd Cynnar
  • Tîm Plant a Rhieni Blynyddoedd Cynnar
  • Tîm Gofal Plant
  • Strategaeth, Cynllunio a Gwerthuso Blynyddoedd Cynnar, gan sicrhau ein bod yn gwneud y pethau cywir, a’u gwneud nhw’n dda. 

Porth Blynyddoedd Cynnar

Y Porth Blynyddoedd Cynnar, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, neu aelod o deulu sydd angen gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth.  Mae Swyddogion y Porth Gwybodaeth i Deuluoedd wrth law i wrando ar eich sefyllfa, a’ch helpu i gael mynediad at y gwasanaethau a fydd yn eich cefnogi chi orau.  

Gallant gynnig cefnogaeth ar ystod eang o feysydd gan gynnwys:  

  • Gofal Plant
  • Gweithgareddau a darpariaeth gymunedol 0-25 oed
  • Ymddygiad plant
  • Cefnogaeth i Rieni
  • Gwasanaethau Cefnogi
  • Gwybodaeth ac atgyfeiriadau at wasanaethau eraill 

Os bydd arnoch chi angen cyngor neu gefnogaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Blynyddoedd Cynnar. 

Ymweld â thudalen we’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk

Tîm Plant a Rhieni Blynyddoedd Cynnar 

Gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill, bydd y Tîm Plant a Rhieni Blynyddoedd Cynnar yn darparu cefnogaeth gymunedol arbenigol, estynedig ac wedi’i theilwra i helpu teuluoedd i wella eu canlyniadau a chyflawni eu nodau a’u dyheadau.  Mae’n gwneud hyn drwy ymgysylltiadau cadarnhaol, darganfod mwy am eich cryfderau, archwilio eich anghenion a’ch helpu i nodi’r pethau sy’n bwysig i chi. 

Mae cyngor a chymorth ar gael ar gyfer y meysydd allweddol canlynol: 

  • Beichiogrwydd a pharatoi at fod yn rhiant 
  • Bywyd teuluol
  • Datblygiad plentyn
  • Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Deall ymddygiadau

Os oes arnoch chi angen cymorth gydag unrhyw un o’r meysydd hyn, cysylltwch â’r Tîm Blynyddoedd Cynnar ar EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk.

Tîm Gofal Plant 

Mae’r Tîm Gofal Plant yn gweithio i sicrhau fod llefydd gofal plant blynyddoedd cynnar a chyfleoedd chwarae o ansawdd uchel ar gael i blant a’u teuluoedd yn Sir y Fflint. 

Mae’n gyfrifoldeb statudol ar y tîm i asesu digonolrwydd gofal plant a gweithio gyda darparwyr a gwasanaethau lleol i helpu i fodloni’r galw, lleihau bylchau a gwella ansawdd yn barhaus.

Mae’r tîm yn gweinyddu gofal plant wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys gofal plant i rai 2 oed, y Cynnig Gofal Plant i rai rhwng 3 a 4 oed a’r Cyfle Cynnar. 

Gallant ddarparu cyngor a chymorth i blant sydd ag anghenion sy’n dod i’r amlwg, gan weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr addysg, iechyd a’r trydydd sector. 

Ymwelwch â’n tudalennau gofal plant am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â’r Ganolfan Blynyddoedd Cynnar.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â CCODigitalSystem@siryfflint.gov.uk neu 01352 703930.

Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael ag amrywiaeth a chynhwysiant mewn modd ystyrlon, adeiladol a holistaidd. 

Llais Rhieni

Rydym wedi gwrando ar adborth rhieni ynghylch beth fyddai’n ddefnyddiol, a thrwy weithio gyda rhieni a gwasanaethau, rydym wedi creu adran ar wefan Cyngor Sir y Fflint.

Dywedodd rhieni wrthym fod arnynt eisiau:

  • I blant fod wrth wraidd y gwasanaeth
  • Iaith syml a hawdd ei deall 
  • Gwybodaeth am iechyd a diogelwch sy’n hawdd ei deall 
  • Gwybodaeth syml, ar gael a hygyrch i helpu rhieni i helpu eu plentyn 
  • Cael eu cynnwys 
  • Cymorth i ganfod datrysiadau 
  • Cymorth i ddeall beth sydd ar gael 
  • Cymorth i nodi anghenion a beth y gellir ei wneud 
  • Straeon - i wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain ac y dylai unrhyw gysylltiad fod yn syml a gwneud gwahaniaeth 
  • Gwasanaethau sy’n bwysig ac yn hyblyg, cyson, agored, parod i wrando, perthynol, deallgar, cyfrifol, di-dor, gofalgar, awyddus i wneud gwahaniaeth, gweld y gorau ym mhobl a chanfod ffordd ymlaen mewn modd anfeirniadol, gonest a ffyddlon.

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi a byddwn yn croesawu eich adborth - a oes unrhyw beth a oedd yn arbennig o ddefnyddiol? a oes unrhyw beth ar goll neu angen newid? os felly, rhowch wybod i ni er mwyn i ni fedru parhau i ddatblygu’r wybodaeth i helpu bob rhiant. 

Gallwch gysylltu â ni ar EarlyYearsTeam@siryfflint.gov.uk.

I ddysgu mwy am yr hyn sy’n siapio ein gwaith, ymwelwch â: 

Canolfannau Teulu

Mae gennym ganolfannau teulu ar gael yn y lleoliadau canlynol: 

Bwcle - Canolfan Deulu Westwood

  • Cyfeiriad: 
    Canolfan Deulu Westwood
    Tabernacle Street
    Bwcle
    Sir y Fflint
    CH7 2JT
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01352 703930
  • Map:

Cei Connah - Canolfan Deulu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Cyfeiriad:
    Canolfan Dechrau’n Deg
    Linden Avenue
    Cei Connah
    Sir y Fflint
    CH5 4SN
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01352 701960 / 01352 701961
  • Map:

Gronant - Canolfan Deulu Gogledd Sir y Fflint Wledig 

  • Cyfeiriad:
    Canolfan Deulu Gogledd Sir y Fflint Wledig
    Gronant
    Sir y Fflint
    LL19 9YP
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01745 208597
  • Map:

  • Lluniau:
Gronant 1
Gronant 2
Gronant 3

Aston - Canolfan Deulu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Cyfeiriad:
    Canolfan Deulu Aston
    Larch Avenue
    Shotton Uchaf
    Glannau Dyfrdwy
    CH5 1NF
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01244 823234
  • Map:

  • Lluniau:
Aston 1
Aston 2

Treffynnon - Canolfan Deulu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Cyfeiriad:
    Canolfan Dechrau’n Deg
    Canolfan Gymunedol ac Ieuenctid Treffynnon
    North Road
    Treffynnon
    CH8 7TQ 
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01352 703084 / 01352 703085
  • Map:

Y Fflint - Canolfan Deulu’r Blynyddoedd Cynnar

  • Cyfeiriad:
    Ysgol Gwynedd
    Rhodfa Tywysog Cymru
    Y Fflint
    Sir y Fflint
    CH6 5DL
  • Manylion cyswllt:
    Rhif ffôn: 01352 792700
  • Map:

Partneriaid

Nid ydym yn darparu bob math o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth blynyddoedd cynnar ein hunain.

Mae nifer o bobl a gwasanaethau allai helpu. 

Cyngor Sir y Fflint - Flintshire County Council
Teuluoedd yn Gyntaf - Families First
Dechrau'n Deg - Flying Start
Welsh Government Logo
Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint - Flintshire Local Voluntary Council
Taith i Saith
Hyrwyddwyr Rhieni Sir y Fflint - Parent Champions Flintshire
Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau
GIG Cymru Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - NHS Wales Betsi Cadwaladr University Health Board
Dewis Cymru - Cael dewis a rheolaeth