Alert Section

Ymchwilio Llifogydd


Ymchwiliadau Llifogydd Ffurfiol (Adran 19)

O dan Adran 19 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, mae gan Gyngor Sir y Fflint fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ddyletswydd i ymchwilio a chyhoeddi adroddiadau ar ddigwyddiadau arwyddocaol yn ymwneud â llifogydd sy’n digwydd o fewn ei ardal i’r graddau y caiff ei ystyried yn angenrheidiol neu’n briodol.

Wrth ddod yn ymwybodol o lifogydd o fewn ei ffiniau, mae’n rhaid i Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, i’r graddau a bennir yn angenrheidiol neu’n briodol, ymchwilio i’r isod:

  • pa awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau rheoli risg llifogydd perthnasol
  • a yw pob un o’r awdurdodau rheoli risg hynny wedi arfer, neu’n cynnig arfer, y swyddogaethau hynny mewn ymateb i'r llifogydd 

Pan fo awdurdod yn cynnal ymchwiliad mae’n rhaid iddo: 

  • gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad
  • hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol  

Mae Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor yn gosod y maen prawf arwyddocaol a sefydlwyd ar gyfer ymchwiliad llifogydd ffurfiol. Gweler y strategaeth ddiweddaraf ar dudalen yr ‘Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol’

Cael Adroddiadau Ymchwiliad Llifogydd Ffurfiol

Pan fo ymchwiliad llifogydd ffurfiol wedi ei gynnal ac er mwyn diogelu cyfrinachedd, rydym yn tynnu manylion personol neu fanylion ynglŷn ag eiddo o adroddiadau.

Gallwch wneud cais am gopi o Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd wedi ei gwblhau drwy gysylltu â: FloodRiskManagement@Flintshire.gov.uk


Ymchwiliadau Llifogydd Anffurfiol

Pan adroddir am ddigwyddiad sy’n ymwneud â llifogydd i ni ac rydym ni’n ymchwilio ond yn canfod nad oes angen ymchwiliad ffurfiol, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau gyda’r unigolyn a roddodd wybod i ni am y llifogydd a gydag awdurdodau rheoli risg llifogydd eraill a thirfeddianwyr/deiliaid perthnasol. Rydym hefyd yn cofnodi’r adolygiad i’n helpu ni i wneud penderfyniadau ynglŷn â rheoli risg llifogydd yn y dyfodol.