Mynwentydd Sir y Fflint
COVID-19 / Coronafeirws
Yng ngoleuni'r cyngor diweddaraf gan y llywodraeth, fel mesurau pellhau cymdeithasol, ystyriwch a yw'ch taith yn hollol angenrheidiol i'n mynwentydd ar yr adeg hon. Er mwyn ceisio lleihau eich risg o ddod i gysylltiad â'r coronafirws, peidiwch â mynd at staff tra ar y safle.
Ceisiwch gynnal y pellter diogel argymelledig o 2 fetr oddi wrth bobl eraill tra ar y safle.
Oriau agor mynwentydd
- Oriau’r haf 8.00am i 8.00pm
- Oriau’r gaeaf 8.00am i 4.00pm
Lleoliad: New Brighton Road, Bagillt, Sir y Fflint
Ym mhen uchaf y Fynwent mae Capel bach hyfryd y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau angladd cyn claddu ar ôl derbyn caniatâd Pwyllgor y Capel. 6 troedfedd (bedd i ddau) yw’r dyfnder mwyaf a ganiateir ym Mynwent Bagillt.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Capel
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Beddi glaswelltog
Lleoliad: Ffordd y Bryn, Cei Connah, Sir y Fflint
Mae llefydd claddu yn brin yn y Fynwent hon erbyn hyn a dim ond ychydig o lefydd claddu llawn sydd ar ôl. 6 troedfedd (bedd i ddau) yw’r dyfnder mwyaf a ganiateir yn y Fynwent hon yn awr.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Toiledau
- Dŵr
- Torrwr Beddau Preswyl
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Ardal i blant
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini
- Beddi glaswelltog
Lleoliad: Lôn Fagl, Yr Hôb, Sir y Fflint
Ceir dwy Fynwent yn Yr Hôb. Erbyn hyn mae Hen Fynwent Yr Hôb wedi cau ar gyfer claddedigaethau newydd, ar wahân i rai sy’n dymuno ailagor beddi.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Beddi glaswelltog
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Toiledau
Lleoliad: Rhodfa Elfed, Bwcle, Sir y Fflint
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Beddi glaswelltog
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini
- Ardal i weddillion amlosgiad
Lleoliad:
Mynwent Ffordd Llundain, Hen Ffordd Llundain, Y Fflint, Sir y Fflint
Mynwent Ffordd Llaneurgain, Ffordd Llaneurgain, Y Fflint, Sir y Fflint
Mae dwy Fynwent wedi’u lleoli yn y Fflint, un ar Ffordd Llaneurgain sydd bellach wedi’i chau ac un ar Hen Ffordd Llundain sy’n dal yn weithredol. Mynwent Ffordd Llaneurgain yw un o fynwentydd hynaf Cyngor Sir y Fflint ac mae bellach ar gau i gladdedigaethau newydd, ond ambell waith caiff bedd ei ailagor yno.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Beddi glaswelltog
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini (Ffordd Llaneurgain yn unig)
- Ardaloedd claddu yn ôl Enwad Crefyddol
Lleoliad: Lôn yr Ysgol, Maesglas, Sir y Fflint
Mae Mynwent Rhif 1 Maesglas bellach yn llawn o ran claddedigaethau newydd, ond gall rhai sy’n dymuno ailagor bedd a chladdu gweddillion a amlosgwyd ei defnyddio o hyd.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Beddi glaswelltog (Maesglas Rhif 2)
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini (Maesglas Rhif 1)
Lleoliad:
Rhif 1 Penarlâg, Cross Tree Lane, Penarlâg, Sir y Fflint
Rhif 2 Penarlâg, Ash Lane, Penarlâg, Sir y Fflint
Mynwentydd Rhif 1 Penarlâg: Mewn un gornel o’r Fynwent mae amryw o feddi rhyfel yn dyddio’n ôl i’r Ail Ryfel Byd sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n awr gan y Comisiwn Beddi Rhyfel. Ceir Capel sydd wedi’i adnewyddu’n llwyr yn y Fynwent hefyd, y gellir ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau angladd.
Mynwentydd Rhif 2 Penarlâg: Yn anffodus, ym Mhenarlâg, oherwydd amodau’r tir yn y Fynwent, dim ond i ddyfnder o 4 troedfedd 6 modfedd y gallwn gloddio beddi yn awr, h.y. bedd ar gyfer un. Felly os yw teuluoedd yn awyddus i gael bedd ar gyfer dau rydym yn cynnig beddi “ochr yn ochr”, h.y. dau fedd 4 troedfedd 6 modfedd yn agosach at ei gilydd na dau fedd sengl arferol fel bod modd gosod y gofeb ar draws canol y ddau fedd.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Canolfan ymwelwyr
- Capel
- Dŵr
- Beddi glaswelltog
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini (Rhif 1 Penarlâg)
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Toiledau
- Torrwr Beddau Preswyl
- Ardal natur / cadwraeth a phwll
Lleoliad: Ffordd Parc y Fron, Treffynnon, Sir y Fflint
Yn y Fynwent mae Capel hardd o garreg sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1850. Mae’r Capel ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, gwaetha’r modd, gan fod angen gwaith adnewyddu mawr arno.
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Capel
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Beddi glaswelltog
Lleoliad: Lôn Celstryn, Celstryn, Cei Connah, Sir y Fflint
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Gardd Goffa
- Beddi glaswelltog
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Ardal i gladdu plant/babanod
Fel rhan o’r nodweddion dylunio trawiadol crëwyd Gardd Goffa lle gellir prynu placiau coffa a’u gosod ar unrhyw un o’r tair wal goffa. Gall ymwelwyr fynd yno i gofio am eu hanwyliaid mewn amgylchedd tawel a heddychlon.
Lleoliad: Mynwent Santes Farged, Penrhewl, Mostyn, Sir y Fflint
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Ardal i weddillion amlosgiad
- Beddi glaswelltog
- Beddi traddodiadol gydag ymylfeini
Lleoliad: Ffordd y Rhos, Treuddyn, Sir y Fflint
Cyfleusterau sydd ar gael:
- Dŵr
- Beddi glaswelltog
- Ardal i weddillion amlosgiad
Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â staff y Gwasanaethau Profedigaeth a byddant yn falch o egluro’r dewisiadau sydd ar gael i chi.