Alert Section

Cofebau


Dewis cofeb

Mae llawer o bobl yn dewis gosod cofeb ar fedd eu teulu fel coffâd parhaol o fywyd eu hanwyliaid. Dim ond un gofeb a ganiateir ar fedd, ac mae’r math o gofeb a’i faint yn dibynnu ar y math o fedd, er mai dim ond yn rhai o Fynwentydd Sir y Fflint y caniateir ymylfeini a ddefnyddir yn draddodiadol i nodi ffiniau bedd.

Gall eich saer meini coffa ddangos catalog i chi o’r cofebion y gall eu darparu, ond dylech gofio na fydd pob un o’r cofebion a ddangosir yn cyfateb i’r fanyleb yn ein llyfryn Rheolau a rheoliadau mynwentydd (PDF 327KB ffenestr newydd) ar gyfer y mynwentydd rydym yn gofalu amdanynt.

Rydym yn ceisio sicrhau bod seiri maen sy’n gweithio yn ein mynwentydd yn cydymffurfio’n llwyr â Chod Ymarfer Gweithio Cymdeithas Genedlaethol Seiri Meini Cofebau (NAMM) a Safon Brydeinig 8415 wrth osod cofebau yn ein mynwentydd.

Gallwn ddarparu rhestr o seiri maen sydd wedi’u cofrestru ar y Gofrestr Brydeinig o Seiri Coffa Achrededig (BRAMM) (ffenestr newydd) a Chofrestr y Gymdeithas Genedlaethol o Seiri Maen o Osodwyr Cerrig Coffa Cymwysedig (RQMF) (ffenestr newydd).

Ni allwn argymell unrhyw saer coffa penodol, ond byddem yn eich cynghori i gymharu dyfynbrisiau gan amryw o seiri maen cyn archebu carreg fedd. Mae’n ddoeth cael dyfynbris llawn, wedi’i eitemeiddio ar gyfer y gwaith, fel y gallwch gymharu dyfynbrisiau ar sail debyg wrth debyg.


Gynnal a chadw

Mae’n bwysig cofio mai chi sy’n gyfrifol am gynnal a chadw eich cofeb ac os bydd yn mynd yn beryglus, mae cyfrifoldeb ar reolwyr y fynwent i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu ar y cyfle cynharaf posibl, naill ai trwy roi polion pren i’w gynnal neu, mewn rhai amgylchiadau, trwy roi’r gofeb i orwedd ar lawr.

Efallai y bydd seiri coffa yn cynnig cynllun cynnal a chadw cofebau a fydd yn cynnwys glanhau a gwirio eich cofeb yn rheolaidd. Efallai yr hoffech ystyried trefnu yswiriant rhag i’ch cofeb gael ei niweidio’n ddamweiniol a rhag fandaliaeth a lladrad, oherwydd gallai’r gwaith atgyweirio fod yn ddrud. Dylai eich saer coffa allu argymell polisi addas i chi.

Ers 2010, mae’n ofynnol i seiri coffa roi Tystysgrif Cydymffurfiad i chi, sy’n ddilys am 30 mlynedd, ar ôl unrhyw osodiad neu ail-sefydlogi o’r newydd. Mae’r dystysgrif hon yn disodli gwarantau cyfnod ac yn rhoi sicrwydd y cydymffurfiwyd yn llwyr ag argymhellion y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) wrth osod y gofeb.


Cynhelir archwiliadau

Bydd Staff y Gwasanaeth Profedigaeth yn profi eich cofeb os credwch y gall fod yn anniogel. Fel arall caiff pob cofeb ym mynwentydd Cyngor Sir y Fflint eu profi bob tair blynedd fel rhan o raglen dreigl flynyddol. Bydd dyddiad y prawf yn dibynnu ar leoliad bedd eich teulu. Edrychwch am hysbysiadau yn y fynwent ac yn y wasg leol, a fydd yn dweud wrthych ba rannau fydd yn cael eu harchwilio. Cysylltwch â’r isadran Gwasanaethau Profedigaeth os ydych yn poeni y gall eich cofeb gwympo cyn dyddiad y prawf. Os ydych yn berchen ar fedd dywedwch wrthym os byddwch yn newid cyfeiriad fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.

Unwaith i’r gofeb gael ei phrofi, bydd staff y Gwasanaethau Profedigaeth naill ai’n ysgrifennu at holl berchenogion cofrestredig y bedd (os yw’r manylion sydd gennym yn gywir) neu’n rhoi hysbysiad bach ar bob bedd sydd wedi methu’r prawf. Bydd y rhain yn rhoi amser (tua mis) i berchennog neu berthynas i deulu pob bedd drwsio’r gofeb, cyn y bydd polion pren yn cael eu gosod ar y gofeb i’w hatal rhag cwympo.

Gellir cael ffurflenni atgyweirio o Swyddfa’r Gwasanaethau Profedigaeth, i’w llenwi a’u cyflwyno i’r saer maen neu saer coffa o’ch dewis. Ffurflen atgyweirio cofeb (PDF 250KB ffenestr newydd).

Am wybodaeth bellach am ein rhaglen archwilio cofebau, cysylltwch â ni.