A all fy mhartner fy nhaflu i allan o’n cartref os byddwn yn gwahanu?
Fel rheol, bydd hyn yn dibynnu ar:-
- statws cyfreithiol eich perthynas
- a oes gennych hawliau deiliadaeth
Rwy’n briod / Rydw i mewn partneriaeth sifil / Rwy’n denant / Rydw i’n byw gyda fy mhartner a rhoddwyd hawliau deiliadaeth i mi
Os oes unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn yn berthnasol i chi, mae gennych hawliau cryf i aros yng nghartref y teulu a byddai’n rhaid i’ch partner gael gorchymyn llys (e.e. gorchymyn gwahardd) cyn y gallent wneud i chi adael eich cartref. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i aros yn y cartref, darllen yr adran ar hawliau deiliadaeth.
Os ydy’ch partner yn ceisio’ch gorfodi chi allan, e.e. trwy wneud eich bywyd mor ddiflas nid oes gennych ddewis ond i adael, neu’n newid y cloeon fel na allwch fynd nôl mewn i’r tŷ, mae hyn yn achos o droi allan anghyfreithlon. Mae troi allan anghyfreithlon yn drosedd a gallwch roi gwybod i’r heddlu am eich partner. Yn ogystal, gallech gymryd gwaharddeb, gorchymyn dim aflonyddu neu fath arall o orchymyn llys yn eu herbyn neu i’w hatal rhag ymddwyn fel hyn.
Rwy’n byw gyda fy mhartner ond ni roddwyd hawliau deiliadaeth i mi
Yn yr achos hwn, bydd eich partner yn gallu eich troi allan heb orchymyn llys os bydd yn rhoi rhybudd rhesymol i chi (byddwn yn gofyn am 14 i 28 diwrnod). Ar ôl i’ch partner dynnu ei ganiatâd/chaniatâd i chi rannu’r cartref, ni fydd gennych hawl i aros yno mwyach ac nid oes dim i stopio’ch partner rhag newid y cloeon ar yr eiddo pan fyddwch chi allan fel na allwch fynd nôl i mewn.
Os byddwch yn gwrthod gadael, gall eich partner wneud cais i’r llys am orchymyn taflu allan neu gall hyd yn oed ofyn i’r heddlu am help i’ch cael chi allan. Fodd bynnag, mae’r heddlu’n annhebygol o eisiau bod yn rhan o’r peth os nad oes gan eich partner orchymyn llys.
Os nad ydych chi am adael, bydd angen i chi wneud cais i’r llys yn syth i roi hawliau deiliadaeth i chi. Mae’r dewis hwn yn agored i chi p’un a ydych mewn perthynas heterorywiol, lesbiaidd neu hoyw gyda’ch partner.
Hwyrach y gallwch hefyd wneud cais am hawliau deiliadaeth ar ôl i chi adael yr eiddo. Ar y cyfan, bydd hyn ond yn berthnasol os cawsoch eich gorfodi allan gan bartner treisgar neu ymosodol.
Symudais allan – ydy hyn yn golygu y gallaf symud nôl i mewn eto?
Rwy’n briod neu mewn partneriaeth sifil:
Os gadawsoch gartref y teulu (e.e. os aethoch i aros mewn lloches neu gyda theulu neu ffrindiau), mae gennych hawl i symud nôl i mewn eto ynghyd ag unrhyw blant neu wyrion rydych ch’n gofalu amdanynt. Os nad yw’ch partner eisiau i chi ddychwelyd, gallwch fynd i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth. Bydd hyn yn eich galluogi i symud nôl i mewn. Fodd bynnag, mae gennych yr hawl i orfodi’ch ffordd nôl mewn heb orchymyn llys. Os oes angen i chi wneud hyn (e.e. os oes angen i chi gasglu celfi neu eiddo) y peth gorau yw gofyn i’r heddlu ddod gyda chi, er mwyn atal pethau rhag mynd allan o reolaeth.
Os symudoch chi allan ar 4 Mai 2006 neu wedi hynny, bydd eich hawl i ddychwelyd a byw yn y cartref ond yn para dwy flynedd. Fodd bynnag, byddwch ond yn colli’ch hawliau os nad ydych wedi byw gyda’ch partner neu yng nghartref y teulu yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd.
Byddwch yn colli’ch hawl i fyw yn y cartref hefyd os:-
- ydych chi’n rhoi’ch hawliau i fyw yno i fyny, neu
- os ydych chi’n ysgaru neu’n diddymu’ch partneriaeth sifil
Os symudoch allan cyn 4 Mai 2006, byddwch yn cael yr hawl i symud nôl i mewn hyd nes i chi gael ysgariad neu ddiddymiad o bartneriaeth sifil neu’n ildio’ch hawliau.
Mae gennyf hawliau deiliadaeth
Os ydy’r llys wedi rhoi hawliau deiliadaeth i chi, gallwch ddychwelyd i gartref y teulu tra bydd yr hawliau hynny’n para. Bydd eich hawliau’n para cyhyd ag y bydd y gorchymyn llys yn ei nodi (hyd at chwe mis) neu hyd nes y cewch eich troi allan yn gyfreithiol o’ch cartref. Gallwch wneud cais i’r llys adnewyddu’ch hawliau deiliadaeth ar ôl iddynt ddirwyn i ben. Ond rhaid i chi gofio gwneud hyn oherwydd ni fyddwch chi’n cael eich atgoffa. Os nad yw’ch partner am i chi ddychwelyd i gartref y teulu, gallwch ofyn i’r llys am orchymyn i orfodi’ch hawliau deiliadaeth a’ch caniatáu i symud nôl i mewn.
Rwy’n denant neu’n gyd-denant:
Yn yr achos hwn, byddwch yn cadw’r hawl i ddychwelyd i’ch cartref hyd nes i’ch tenantiaeth ddod i ben yn swyddogol. Gallai’ch tenantiaeth ddod i ben oherwydd:-
- rydych chi’n dod â’r denantiaeth i ben eich hun
- bod eich prydles yn dod i ben
- bod eich landlord yn eich troi allan
Rydw i am adael fy mhartner am resymau cam-drin domestig
RHOWCH EICH DIOGELWCH YN GYNTAF. Gwnewch yn siŵr fod gennych gynllun diogelwch ar waith hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gadael yn syth bin. Ceisiwch adael tra bydd y cyflawnwr oddi cartref fel na all ef/hi geisio’ch stopio. Os oes modd, trefnwch le i aros cyn i chi adael a chael cyngor am gystodaeth os oes gennych unrhyw blant. Os oes rhaid i chi adael mewn brys oherwydd bod eich partner wedi ymosod arnoch chi, ffoniwch yr heddlu. Efallai y gallant ei arestio/harestio, a fydd yn rhoi rhywfaint o amser i chi adael.
Llinell gymorth trais domestig i fenywod a ddynion
Gallwch gysylltu â’r Byw Heb Ofn, sydd ar agor 24 awr / saith diwrnod yr wythnos ar 0808 8010 800.
Aros yn eich cartref
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin neu drais domestig, efallai yr hoffech aros yn eich cartref, cael y cyflawnwr allan a gwneud eich cartref yn lle diogelach i fyw ynddo, yn enwedig os oes gennych gysylltiadau teuluol cryf neu addysg y plant yn yr ardal.
Ffoniwch yr heddlu:
Mewn rhai achosion, y ffordd orau o gael y cyflawnwr i adael yw cael ef/hi wedi’i (h)arestio. Efallai mai dim ond am gyfnod byr y bydd hyn yn ei gael /ei chael allan o’r ffordd, ond os caiff ei gyhuddo/chyhuddo, gellir ei gadw/chadw yn y ddalfa neu gallai gael mechnïaeth dim ond ar yr amod nad yw’n mynd yn agos atoch. Os cyflawnwyd trosedd, gallai gael ei (h)erlyn a chael dedfryd o garchar.
Newidiwch y cloeon:
Hwyrach yr hoffech newid y cloeon i atal y cyflawnwr rhag mynd i mewn i’ch cartref. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn ymwybodol o ddau beth:-
- mae newid y cloeon yn annhebygol o atal ymosodwr penderfynol, ac eithrio pan gânt eu cyfuno â mesurau diogelwch eraill
- os oes gan y cyflawnwr hawliau i fyw yn y cartref (er enghraifft, os oes gennych denantiaeth ar y cyd), gallech fod yn ei droi/ei throi allan yn anghyfreithlon.
Gwnewch eich cartref yn fwy diogel:
Mae sawl mesur y gallwch chi eu cymryd i’ch gwneud chi’n fwy diogel yn eich cartref, er enghraifft trwy:-
- ffitio cloeon mwy diogel, cadwyni drws, a thyllau sbïo ar gyfer y drysau blaen
- atgyfnerthu drysau a fframiau drysau
- gosod cloeon, barrau a griliau ar y ffenestri- gosod larymau, teledu cylch caeedig a goleuadau diogelwch
- gwella mesurau diogelwch tân
- cael ystafell ddiogel wedi’i hatgyfnerthu ac y mae modd ei chloi yn y tŷ y gellir ffonio’r heddlu ohoni
- rhoi gwybod i’r cymdogion nad yw’r cyflawnwr yn byw gyda chi mwyach a gofyn iddynt roi gwybod i chi os byddant yn ei (g)weld yn loetran o gwmpas
- newid rhifau ffôn a sgrinio galwadau.
Gellir defnyddio’r mesurau hyn ochr yn ochr â mesurau cyfreithiol eraill i gadw’r cyflawnwr allan (e.e. Gorchymyn Deiliadaeth neu Orchymyn Peidio ag Ymyrryd neu waharddeb). Byddant ond yn eich diogelu tra byddwch y tu mewn i’ch cartref, felly mae’n bosibl yr hoffech ystyried mesurau diogelwch eraill tra byddwch chi allan (e.e. larymau personol, ffôn symudol, dosbarthiadau hunan amddiffyn). Gallan nhw hefyd fod yn ddrud ond efallai y gallwch gael help i dalu amdanynt gan y cyngor.
Gall yr heddlu roi rhagor o gyngor i chi ar fesurau diogelwch. Gwnewch yn siŵr fod eich gorsaf heddlu leol yn gwybod eich bod chi wedi dioddef cam-drin domestig. Dylech hefyd roi copi iddynt o unrhyw waharddeb berthnasol, yn enwedig os oes grym arestiad ynghlwm, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ymateb yn gyflym i unrhyw alwad gennych chi.
Gorchmynion Deiliadaeth
Gorchmynion llys yw Gorchmynion Deiliadaeth sy’n ymestyn neu’n cyfyngu ar hawl rhywun i breswylio mewn cartref. Er enghraifft, gallant roi’r hawl i chi aros yng nghartref y teulu lle nad oedd gennych yr hawl honno’n flaenorol (er enghraifft, lle mae’r denantiaeth yn unig denantiaeth yn enw’r cyflawnwr), neu wahardd y cyflawnwr o’r cartref.
Gellir gwneud cais am Orchymyn Deiliadaeth ar wahân neu fel rhan o drefniadau cyfraith deuluol arall (trefniadau ysgariad neu gystodaeth, er enghraifft). Bydd manylion y gorchymyn y gallwch wneud cais amdano’n dibynnu ar eich perthynas â’r cyflawnwr a’r math o lety rydych chi’n byw ynddo.
Gall Gorchmynion Deiliadaeth feddu ar bŵer i arestio, felly, er enghraifft, os ydy’r cyflawnwr wedi’i wahardd o’r cartref, gellir ei (h)arestio os bydd yn ceisio torri i mewn. Gellir rhoi dedfryd o garchar neu ddirwy i gyflawnwr am dorri’r gorchymyn.
Bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiwr i gael Gorchymyn Deiliadaeth. Ni allant sicrhau eich diogelwch, a bydd ond yn para am amser cyfyngedig, felly bydd angen i chi gymryd camau pellach i ddatrys pwy sy’n aros yn yr eiddo yn y tymor hir.
Cael gorchymyn neu waharddeb
Bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith teulu. Bydd y cyfreithiwr yn eich helpu chi i wneud cais i’r llys am waharddeb. Weithiau, gellir ceisio gwaharddebau fel rhan o drefniadau cyfraith teulu (ysgariad neu gystodaeth). Bydd y barnwr yn ystyried tystiolaeth y trais yn eich erbyn chi ac:-
- ydy’r ymddygiad rydych chi eisiau ei stopio’n anghyfreithlon
- ydy’r cyflawnwr yn debygol o roi’r camau ar waith
- oes tebygolrwydd o niwed i chi
- a ellir esbonio’r ymddygiad yn glir er mwyn i’r cyflawnwr ddeall beth mae’n cael ei wahardd rhag gwneud
- ydy’r gorchymyn neu’r waharddeb yn angenrheidiol ar gyfer eich diogelwch.
Yn wahanol i’r llysoedd troseddol, nid oes rhaid profi’r trais ‘y tu hwnt i bob amheuaeth resymol’; bydd rhaid i’r barnwr fod yn fodlon ei fod yn ‘fwy tebygol na pheidio’ bod y trais wedi digwydd. Wedyn, bydd y barnwr yn penderfynu a fydd yn gwneud gorchymyn neu waharddeb ac, os felly, pa amodau i glymu wrtho.
Cael help gan y Tîm Atebion Tai
Gallwch gysylltu â’n tîm am help a gallwn awgrymu gwella diogelwch yn eich cartref fel dewis arall i fynd at le diogel. Eich dewis chi yw hi os nad ydych yn dymuno aros yn y cartref, yn enwedig os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel.
Gallwn gynnig y canlynol:-
- cyngor a chymorth ar ddigartrefedd
- troi at lety neu loches brys
- cyngor ar wahardd y cyflawnwr o’ch cartref
- gwelliannau yn niogelwch eich cartref (e.e. caledu targedau – larymau, cloeon ac ati)- cysylltiadau brys a chefnogaeth barhaus
Cysylltwch â’n tîm ar 01352 703777.