Datrysiadau Tai
Os ydych am wneud cais am dai cymdeithasol neu os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref, gall y tîm Datrysiadau Tai eich helpu. Mae Datrysiadau Tai yn gyfrifol am y Gofrestr Dai ganolog (rhestr dai) a rennir gan Gyngor Sir y Fflint a phob Cymdeithas Dai leol. Mae hyn yn gwneud y broses ymgeisio yn haws gan ei fod yn golygu y gallech gael eich ystyried ar gyfer yr holl dai cymdeithasol sydd ar gael yn Sir y Fflint.
Mae nifer o opsiynau ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau presennol ac rydych yn cael eich annog i ddarllen y wybodaeth ganlynol cyn cysylltu â'r tîm Datrysiadau Tai.
Mae Datrysiadau Tai yn anelu at eich atal rhag bod yn ddigartref, bydd y tîm yn gwneud popeth o fewn ei allu i’ch helpu i aros yn eich cartref. Mae amryw o resymau pam fod pobl yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael ar y dudalen ddigartrefedd.
Mae’n bwysig eich bod chi’n cysylltu â’r Tîm Datrysiadau Tai ar 01352 703777 neu’n mynd i’r swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf cyn gynted ag y gallwch chi.
Datrysiadau Tai Sir y Fllint
Mae Datrysiadau Tai Sir y Flint wedi cael ei sefydlu i'w gwneud yn haws i wneud cais am Dai Cymdeithasol yn Sir y Flint. Mae hon yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir y Flint a'r CymdeithasauTai lleol canlynol: Clwyd Alyn; Grwp Cynefin a Wales & West.
Cofrestr Newydd Tai Sir y Flint
O fis Ebrill 2015 mae yna un Gofrestr Tai (un rhestr dai) a rennir gan yr Awdurdod Lleol a'ch holl Gymdeithasau Tai lleol. Mae hyn yn golygu bod gan ymgeiswyr bellach un pwynt cyswllt ac un proses gwneud cais i’w gwblhau i gael eu hystyried ar gyfer yr holl dai cymdeithasolsydd ar gael yn Sir y Flint.
I gael gwybod a ydych chi’n gymwys i fynd ar y Gofrestr Dai, bydd angen i chi gwblhau Asesiad Blaenoriaethu Tai. I wneud hyn, ffoniwch 01352 703777 neu ewch i’r swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu agosaf.
Ydych chi wedi ystyried eiddo rhentu preifat? Mae rhai Gwerthwyr Tai yn cynnig gwasanaeth ‘rhentu / gosod’ ac rydym yn eich annog i edrych ar yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig. Fel arall, gallwch edrych ar dai ar wefan Rightmove. Os yw’r blaendal y disgwylir i chi ei dalu gydag eiddo rhentu preifat yn eich rhwystro, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i wneud cais am y Cynllun Bond. Mae’n bosibl hefyd y bydd y tîm Datrysiadau Tai yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi ynglŷn â sut i gyllidebu’ch arian. Cysylltwch â’r Tîm ar 01352 703777.
Tai Teg
Mae Tai Teg yn gofrestr o bobl â diddordeb mewn rhentu cartref (rhent canolradd) neu brynu eiddo i fod yn berchen arno, ond sy’n methu fforddio rhentu neu brynu yn llwyr ar y farchnad agored ar hyn o bryd.
www.taiteg.org.uk
Mae www.flintshirehousing.co.uk yn cynnig gwybodaeth am dai i’w rhentu a thai fforddiadwy yn Sir y Fflint ac mae’n anelu at helpu’r rheiny sy’n chwilio am gartref i wneud dewisiadau am yr opsiwn mwyaf addas iddyn nhw. Mae hefyd yn cynnig cyfle i landlordiaid hysbysebu eu heiddo ac mae’n darparu gwybodaeth am safonau gofynnol tai, opsiynau achredu a materion eraill.
Tai Fforddiadwy
Mae’r Cyngor yn cefnogi cynllun perchnogaeth tai cost isel, sy’n galluogi pobl sy’n methu â fforddio prisiau’r farchnad dai i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Gweinyddir y cynllun ar ran y Cyngor gan Grŵp Cynefin. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor o rannu ecwiti ac yn helpu prynwyr am y tro cyntaf i brynu tai. Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael, edrychwch ar Dai Fforddiadwy.
Gall tenantiaid presennol y Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd eisiau symud wneud cais am gyfnewid neu drosglwyddo. Gallwch ddefnyddio gwefan Homeswapper i ddod o hyd i eiddo addas i’w gyfnewid naill ai yn Sir y Fflint neu yn rhywle arall.
Gall tenantiaid Cyngor Sir y Fflint a’r rhan fwyaf o denantiaid Cymdeithasau Tai gofrestru am ddim. Gallwch ddewis i gael eich hysbysu am gyfatebiadau addas trwy neges destun, e-bost neu lythyr - pa un bynnag sy’n addas i chi.
Mae Tai Gofal Ychwanegol ar gyfer pobl hŷn ac yn darparu llety â chymorth o'r radd flaenaf i helpu pobl i fyw’n annibynnol cyhyd ag sy'n bosibl.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig llety ‘tai gwarchod’. I wneud cais am un o’r cartrefi hyn, rhaid i chi fod mewn angen o ran tai a gydnabyddir yn unol â’r cynllun bandio. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’n tîm Datrysiadau Tai ar 01352 703777.