Alert Section

Tir Comin a Mannau Gwyrdd Pentrefi


Mae’r Cyngor yn cynnal manylion yr holl dir comin a mannau gwyrdd pentrefi ar gofrestrau, sy'n agored i archwiliad cyhoeddus.

Mae Tir Comin yn ddarostyngedig i “hawliau comin” megis hawl i stoc pori neu hawl i gasglu pren neu dyweirch.  Nid y cyhoedd yn gyffredinol sy’n mwynhau'r hawliau hyn, yn hytrach y cominwyr dynodedig, fel arfer gan yr hawliau sy'n cael eu hatodi i'r eiddo y maent yn ei feddiannu, sy’n aml wrth ymyl Tir Comin.

Ers 1996, caiff y Gofrestr Tir Comin ei chynnal o fewn Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol.  Gellir gweld y gofrestr tir comin yn y swyddfa hon. 

Mae hon yn rhan gymhleth o’r gyfraith, a dylai darllenwyr ystyried ceisio cyngor lleol/cyfreithiol annibynnol am union statws y tir a’i ddefnyddwyr cyn ceisio gwneud unrhyw beth ar yr hyn y credant sy’n dir comin.  Mae pob Tir Comin wedi’u cofrestru.

Hyd nes 5 Mai 2017, gwnaethom weithio o dan ddeddfwriaeth a sefydlwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965. O 5 Mai 2017, daeth amrywiaeth o geisiadau ar gael ar gyfer gwneud ceisiadau i ddiwygio cofrestrau'r Tiroedd Comin a mannau gwyrdd o dan Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Bydd ffi yn daladwy yn y rhan fwyaf o achosion.  Gweler y Ffioedd Ceisiadau am ragor o fanylion.   

Sylwer:  Swyddogaethau gweinyddol yn unig sydd gan y Gwasanaeth Cofrestru Tiroedd Comin.  Mae hon yn rhan gymhleth o’r gyfraith, a dylai darllenwyr ystyried ceisio cyngor lleol/cyfreithiol annibynnol am union statws y tir a’i ddefnyddwyr cyn ceisio gwneud unrhyw beth ar yr hyn y credant sy’n dir comin.  Mae pob Tir Comin wedi’u cofrestru

Os ceir unrhyw ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw ymholiadau am Dir Comin, ffoniwch 01352 702314.


Ffioedd Ceisiadau

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r ffioedd sy’n daladwy i Gyngor Sir y Fflint fel awdurdod cofrestru tiroedd comin Sir y Fflint.


Ffurflenni Cais

Gellir gweld ffurflenni cais i wneud cais i ddiwygio’r cofrestrau tir comin a mannau gwyrdd tref neu bentref drwy'r ddolen we isod.

Fe’ch cynghorir yn daer i ddarllen y canllawiau i ymgeiswyr yn y ddolen uchod. 

Dychwelwch y ffurflenni wedi eu cwblhau at: 

Cyngor Sir y Fflint
Gwasanaethau Cyfreithiol
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR

Neu anfonwch e-bost at:

commonlandandgreens@flintshire.gov.uk