Trawsnewid y ffordd rydym yn gwneud pethau!
Yma yn Sir y Fflint mae gennym gofnod cryf o drawsnewid y ffordd rydym yn gwneud pethau - nid yn unig i arbed arian yn ystod cyfnodau o ansicrwydd ariannol digynsail, ond hefyd, ac yn bwysicaf oll, i ddarparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol i bobl Sir y Fflint.
Am bron i ddau ddegawd mae Sir y Fflint, ynghyd â phob Cyngor arall yn y DU, wedi bod yn wynebu heriau ariannol sylweddol o ganlyniad i lai o gyllid gan Lywodraethau’r DU a Chymru.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Sir y Fflint wedi torri ar ei wario o £125 miliwn, gan drawsnewid y ffordd mae’n gwneud pethau i helpu diogelu gwasanaethau lleol gwerthfawr. Fodd bynnag, mae’r galw am wasanaethau megis gofal cymdeithasol a thai yn parhau i dyfu ac nid oes unrhyw ddangosyddion y bydd ein heriau ariannol yn gwella’n fuan.
Er mwyn perfformio’n dda yn yr amgylchedd hwn, rydym angen parhau i fod yn arloesol, creadigol ac uchelgeisiol, a lle bynnag bosibl, osgoi dulliau mwy traddodiadol o reoli’r gyllideb megis tynnu gwasanaethau yn ôl. Rhaid i ni hefyd edrych ar dechnolegau newydd a mynd ymhellach i drawsnewid a diogelu’r gwasanaethau hynny sy’n werthfawr i bobl Sir y Fflint.
Nod ein Rhaglen Drawsnewid yw gwneud hynny.
Yn ogystal â rhoi’r newyddion diweddaraf i chi ar ein nodau a dyheadau ar gyfer y dyfodol, bydd y Canolbwynt Trawsnewid hwn yn cynnwys ein cyflawniadau yn y gorffennol, a phan fydd yr amser yn iawn, bydd yn amlygu cyfleoedd i bobl gymryd rhan a helpu i siapio sut fydd gwasanaethau yn edrych yn y dyfodol.
Ein Huchelgeisiau
Technoleg Gynorthwyol
Ymyrraeth gynnar i ddarparu cymorth i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain - gan ymestyn annibyniaeth ac oedi’r angen am gymorth mwy dwys.
Sgwrsfotiau - Deallusrwydd Artiffisial
Cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial i ymateb i ymholiadau cyffredin ar y we ac yn ein canolfannau cyswllt - gan gyflymu ymatebion a rhyddhau cymorth i ddelio â materion mwy cymhleth.
Awtomeiddio Tasgau Arferol - Deallusrwydd Artiffisial
Cyflwyno Deallusrwydd Artiffisial i gyflawni tasgau gweinyddol arferol megis ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau, gan ryddhau amser gweithwyr i symud ymlaen gyda swyddi eraill.
Trafodaethau Contract
Trawsnewid ein prosesau trafod contract i gael y contract iawn, ar y pris iawn, ar yr amser iawn gyda’r buddion iawn i bawb.
Prynu
Trawsnewid y ffordd rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau trwy brosesau a systemau digidol gwell.
Eiddo Masnachol
Adolygu prosesau rhentu a phrydlesu ar gyfer eiddo masnachol sy’n eiddo i’r Cyngor er mwyn darparu’r buddion gorau ar fuddsoddiad - ar gyfer y Cyngor a’i denantiaid.
Prosesau a Chyflogau Digidol
Moderneiddio gwasanaethau cyflogau trwy arloesedd digidol, gwella hygyrchedd, lleihau gwaith papur a darparu gwasanaethau mwy effeithlon a chynaliadwy.
Tai a Digartrefedd
Trawsnewid cymorth tai a gwasanaethau digartrefedd i ddarparu ymyrraeth gynharach, atal cryfach, canlyniadau gwell a datrysiadau tai cynaliadwy, gan helpu mwy o bobl i fod yn ddiogel, sefydlog ac annibynnol.
Adeiladu ar lwyddiant
Hwb Cyfle
Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i fyw gyda mwy o annibynniaeth a dewis.
Double Click
Cwmni cymdeithasol unigryw nid-er-elw sy’n cyfuno asiantaeth dylunio graffig masnachol gyda hyfforddiant cyflogadwyedd a galwedigaethol creadigol i aelodau’r gymuned leol sydd mewn cyfnod o adferiad iechyd meddwl.
Ffyrdd newydd o wneud pethau!
Ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau trwy fusnesau ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor.