Alert Section

Cyfweliad gyda Mentor

Mae Jo Millar, Gweithiwr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, yn siarad am y budd a gafodd o wirfoddoli fel mentor gyda'r Gwasanaethau Plant.

Pam wnaethoch chi benderfynu gwirfoddoli gyda’r Gwasanaethau Plant?

Ro’n i wedi cychwyn cwrs mynediad yn y coleg ac roedd gen i ddiddordeb mewn Gwaith Cymdeithasol. Fe soniodd un o’r mamau yn yr ysgol wrtha’ i bod y Gwasanaethau Plant yn chwilio am wirfoddolwyr. Fe wnes i gais am fy mod i’n hoffi’r syniad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc a phlant. Ro’n i’n gwirfoddoli am tua 3 blynedd cyn i mi gwblhau fy ngradd, ac fe wnes i helpu nifer o bobl ifanc yn ystod y cyfnod hwnnw.


Beth mae Mentor Gwirfoddol yn ei wneud?

Rydych chi’n cael eich paru â pherson ifanc sy’n cael rhyw fath o gymorth gan y Gwasanaethau Plant, ac yn cyfarfod â nhw’n rheolaidd. Fe fyddwn i fel arfer yn ceisio cyfarfod yr unigolyn roeddwn i’n ei fentora unwaith yr wythnos am ychydig oriau.

Fy mhrif nod oedd treulio amser gyda nhw, rhoi lle a chyfle iddyn nhw deimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu clywed, yn ogystal â gwneud pethau difyr gyda nhw. Weithiau, dim ond rhoi’r pethau bach yna iddyn nhw rydyn ni’n aml yn eu cymryd yn ganiataol fyddwch chi; pethau fel mynd am dro yn y car neu fynd i gaffi am siocled poeth. 


Beth oeddech chi’n ei hoffi am fod yn fentor?

Ro’n i wir yn mwynhau’r broses o feithrin perthynas gadarnhaol gyda’r bobl ifanc a chynnig rhywle diogel iddyn nhw drafod eu pryderon a’u teimladau. Ro’n i wedi gwirfoddoli mewn gwahanol rolau yn fy nghymuned leol o’r blaen, ond bod yn fentor gwirfoddol roddodd y mwyaf o foddhad i mi o bell ffordd.

Rydych chi’n cymryd diddordeb yn eu bywydau nhw, yn canolbwyntio arnyn nhw heb agenda, ac efallai nad ydyn nhw erioed wedi cael hynny o’r blaen. Mae hynny’n arbennig. Pan fyddwch chi’n rhoi eitemau i siopau elusen, dydych chi ddim o reidrwydd yn gweld effaith hynny, ond pan ydych chi’n Fentor Gwirfoddol, rydych chi’n cael gweld yr effaith gadarnhaol y mae ‘rhoi’ eich amser yn ei gael ar fywydau pobl ifanc. Rydych chi’n eu gweld nhw’n magu hyder neu’n teimlo’n hapusach neu’n dawelach. 


Wnaeth y profiad helpu eich taith chi tuag at waith cymdeithasol?

Drwy fod yn fentor gwirfoddol, fe gefais i gipolwg ar y math o weithiwr cymdeithasol ro’n i eisiau bod. Fe gefais i gyfle i wrando ar hanesion pobl ifanc am eu profiadau o ofal cymdeithasol, a dod i ddeall eu safbwynt nhw. 

Dw i’n cofio mynd am dro ar hyd lan y môr un diwrnod gyda pherson ifanc, a dyma nhw’n dweud wrtha’ i eu bod yn gwybod nad oedd neb yn eu caru nhw. Dydych chi ddim yn anghofio’r adegau hynny, a’ch gwaith chi yw rhoi’r amser a’r cyfle iddyn nhw allu mynegi pethau fel yna. Felly ydw, dw i’n teimlo fy mod i wedi gallu gadael i’w profiadau nhw ddylanwadu ar fy ngwaith i fel gweithiwr cymdeithasol.


Sut wnaethoch chi lwyddo i gydbwyso bywyd teuluol gydag astudio a gwirfoddoli?

A dweud y gwir, roedd hi’n hawdd iawn ei ffitio i mewn gyda fy nheulu a fy ngwaith coleg. Roedd o’n gweithio am fy mod i fel arfer yn gwirfoddoli ar ôl bod yn y brifysgol neu ar ôl amser swper y plant. Mae’n hyblyg iawn, gan mai dim ond dod o hyd i ychydig oriau’r wythnos lle gallwch chi a’r sawl rydych chi’n ei fentora gyfarfod y mae gofyn i chi ei wneud. 


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried gwirfoddoli?

Fe fyddwn i’n dweud wrthyn nhw fynd amdani. Mae’n un o’r profiadau a fydd yn rhoi’r boddhad mwyaf erioed i chi, ac os ydych chi’n ystyried newid gyrfa, yna mae’r cyfle i gael cipolwg go iawn ar safbwyntiau plant mewn gofal cymdeithasol yn hwb ychwanegol.


Ymgeisiwch Nawr