Alert Section

COVID-19 Cyngor i fusnesau


Gweler isod ddolenni cyswllt i gyngor swyddogol mewn perthynas â Coronafeirws Covid-19.  Darllenwch y wybodaeth yn ofalus ac fe wnawn geisio’n gorau i roi’r newyddion diweddaraf i chi pan fydd gennym ragor o wybodaeth.

Grantiau a Chefnogaeth a weinyddir gan Gyngor Sir Y Fflint

Cymorth i Fusnesau - Ionawr 2022 - Cronfa Argyfwng Ardrethi Annomestig a Chronfa Argyfwng Busnes Dewisol

Bu i'r grant hwn gau am 5pm ar ddydd Llun 14 Chwefror 2022.Ewch i wefan Busnes Cymru yn https://busnescymru.llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth a allai fod ar gael i'ch busnes. 

Adnewyddu Menter

Bydd y cynllun Adnewyddu Menter yn rhoi cymorth uniongyrchol i fentrau bach a micro yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Gall mentrau cymdeithasol a cymunedol hefyd wneud cais ar gyfer arian grant.

Bydd busnesau yn gallu ymgeisio am grant 50%, hyd at uchafswm gwerth £10,000 o gronfeydd grant (a fyddai £5,000 o gronfa grant a £5,000 o ariant cyfatebol gan ymgeiswyr) tuag at gostau yn ymwneud a chyflwyno cynnyrch newydd neu prosesau. Isafswm gwerth cais yw £2,000.

Oherwydd mai dim ond hyn a hyn o gymorth sydd ar gael, mae’r cynllun hwn yn fwyaf addas i ficrofusnesau a busnesau bach newydd.

https://cadwynclwyd.co.uk/funding-areas/business-innovation/?lang=cy

Cyngor Twristiaeth a Lletygarwch

Mae Lletygarwch y DU wedi cyhoeddi eu canllawiau ar gyfer ailagor lletygarwch yng Nghymru. Gellir dod o hyd i’r ddogfen drwy glicio ar y ddolen hon.

https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance

Profi, Olrhain, Diogelu

Mae tudalen Canllawiau i Gyflogwyr - Profi, Olrhain, Diogelu bellach yn fyw:

https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-canllawiau-i-gyflogwyr

Cafodd olrhain cysylltiadau a chwestiynau diweddaraf am Brofi, Olrhain a Diogelu eu cyhoeddi ddoe, dyma’r dolenni:

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-eich-cwestiynau

https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-eich-cwestiynau

Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Sefydliadau Dielw

Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (dolen gyswllt allanol) yn cydlynu ymateb gwirfoddolwyr i Covid19. Maent yn gweithio'n ddiflino i helpu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn gwneud gwaith mor wych.

Cronfeydd mewn Argyfwng – CV-19 – Cefnogaeth Sefydliadau Gweithredu Cymunedol

Mae gan Grwpiau Gweithredu Lleol yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gronfeydd ar gael i gefnogi mentrau cymunedol, elusennau, grwpiau cymunedol ffurfiol a sefydliadau sector cyhoeddus yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i'w galluogi i addasu eu cefnogaeth gymunedol rheng flaen yng nghyd-destun sefyllfa bresennol y coronafeirws a’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus.

Mae’r cronfeydd hyn ar gael drwy Cadwyn Clwyd.

Gall sefydliadau ymgeisio am hyd at £3000 o gostau cymwys i ddatblygu dulliau newydd o ddarparu cefnogaeth i wasanaethau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Donna Hughes – 01490 340500 neu donna.hughes@cadwynclwyd.co.uk

Rheoleiddwyr elusennau yn cyhoeddi canllawiau ar y coronafeirws

canllawiau wedi eu hanelu at ymddiriedolwyr Elusennau (dolen gyswllt allanol) yn ymwneud â gweithredu yn ystod sefyllfa'r coronafeirws ar gael gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r canllawiau yn cynnwys cefnogaeth ariannol sydd ar gael, cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn, rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol a chadw pobl yn ddiogel ayb.

Cefnogaeth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi sefydlu llinell gymorth i gefnogi busnesau a phobl hunangyflogedig sydd yn poeni am allu talu eu treth yn sgil Coronavirus (COVID-19). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

https://www.gov.uk/government/news/tax-helpline-to-support-businesses-affected-by-coronavirus-covid-19

Ffederasiwn Busesnau Bach

Hwb Coronafeirws Ffederasiwn Busnesau Bach - i gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://www.fsb.org.uk/coronavirus

Mae nifer o fanteision o fod yn aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach a gall aelodau newydd ddechrau elwa’n syth – i gael rhagor o wybodaeth ewch i:

https://www.fsb.org.uk/join-us/membership.html

Cefnogaeth Gyffredinol i Chi Yn Ystod Pandemig COVID-19

A yw'r pandemig presennol sy’n lledaenu ar draws y wlad wedi effeithio arnoch? I gael gwybodaeth ar gyflogaeth, mentora, cyngor ar bopeth, budd-daliadau, gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd a thai dilynwch y ddolen hon.

Cyngor ar gyfer Eiddo Trwyddedig

Ar 22 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddwn yn symud i Lefel Rhybudd 2 am 6am ar 26 Rhagfyr 2021 mewn perthynas â Rheoliadau'r Coronafeirws. 

Y mesuriadau ar waith fydd:

  • Mae'n rhaid i glybiau nos gau
  • Mae’n rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn swyddfeydd a safleoedd cyhoeddus
  • Gwasanaeth gweini bwrdd yn unig, lle gweinir alcohol
  • Gall uchafswm o chwech o bobl gwrdd mewn safleoedd cyhoeddus (rheol o chwech)
  • Gwybodaeth Tracio ac Olrhain i’w chasglu mewn lleoliadau lletygarwch
  • Gorchuddion wyneb i’w gwisgo bob amser, ac eithrio wrth eistedd
  • Digwyddiadau wedi’u cyfyngu i 30 o bobl dan do, a 50 tu allan
  • Digwyddiadau bywyd arwyddocaol (h.y. priodasau / angladdau) – niferoedd i’w pennu gan asesiad risg lleoliadau, a’r gallu i gadw pellter cymdeithasol
  • Bydd cyfyngiad o 50 o bobl ar gyfer gwylio digwyddiadau chwaraeon yn yr awyr agored

Bydd grantiau ar gyfer y sector ar gael.

Gellir canfod crynodeb o Lefel Rhybudd 2 a'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r rheoliadau a'r canllawiau ar wefan benodol ‘diweddaraf’ y Coronafeirws Llywodraeth Cymru 

Sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo gyda’r gofynion.