Alert Section

Treth Gyngor Cwestiynau Cyffredin


Y gyllideb, eich Treth Cyngor a gwasanaethau lleol

Cliciwch ar y llun 

Budget Infographic WELSH

Gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25

Mae cyfres o Gwestiynau Cyffredin sy’n rhoi gwybodaeth fwy manwl am y bwlch cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor yn 2024 a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i osod cyllideb fantoledig gyfreithiol hefyd ar gael. 

Ar beth mae'r Cyngor yn Gwario ei Arian?

Gellir gweld manylion cyllideb y Cyngor a sut mae'r arian yn cael ei wario

Cliciwch yma

Beth fydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor i drigolion Sir y Fflint yn 2024?

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gadw’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor mor isel a phosibl, fodd bynnag heb gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth ac yn yn wyneb yr angen i gau bwlch o £14.4 miliwn yn ein cyllideb, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gosod Treth y Cyngor uwch o 7.9% i dalu am wasanaethau’r cyngor.
 
Mae pob un o'r chwe chyngor yng Ngogledd Cymru hefyd yn cyfrannu at gostau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Crwneriaid Gogledd Cymru.   Mae’r costau hyn yn cynyddu bob blwyddyn ac mae Sir y Fflint wedi ychwanegu 1.1% at ei gyfran o Dreth y Cyngor ar gyfer hyn.

Daw hyn â chyfanswm cynnydd cyfran Cyngor Sir y Fflint o Dreth y Cyngor I 9.0%

O ychwanegu hyn at yr arian a gesglir gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a’ch Cyngor Tref a Chymuned (sydd i’w weld ar eich bil) y cynnydd canrannol ar gyfer eiddo Band D yn Sir y Fflint fydd 8.19%
 
Mae’r ddau dabl isod yn dangos y ganran a’r cynnydd ariannol y gellir ei ddisgwyl yn seiliedig ar eiddo Band D ar gyfartaledd.

 Band D Charges Annual Monthly Weekly CYM

Analysis of Band D Charges CYM

Ydi Sir y Fflint yn codi Treth y Cyngor uwch o gymharu a chynghorau eraill Cymru?

Mae preswylwyr Sir y Fflint yn talu ychydig yn llai o Dreth y Cyngor na chyfartaledd Cymru.  Mae’r eiddo Band D cyfatebol yn Sir y Fflint £14.71 yn is na’r cyfartaledd ar hyd a lled Cymru, fel sydd i’w weld isod.

Band D charge comparison Wales 24.25 CYM v2

 Er bod Sir y Fflint yn derbyn y trydydd swm isaf o gyllid gan Lywodraeth Cymru o blith holl awdurdodau lleol Cymru, y nawfed uchaf trwy Gymru yw’r cynnydd i Dreth y Cyngor yn Sir y Fflint.

Wales Comparison Table 24.25 CYM v2

Ydi Sir y Fflint yn codi Treth y Cyngor uwch o gymharu a chynghorau eraill Lloegr?

Nid yw Treth y Cyngor y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i osod yn uwch o gymharu â chynghorau eraill Lloegr.

Mewn termau real, roedd tâl Band D lleol Sir y Fflint o £1,658.25 yn dal i fod £154.56 yn is na’r tâl Band D cyfartalog ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor ar draws ein cymdogion agos, sef Dwyrain Swydd Gaer, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cilgwri, Halton, Knowsley a Swydd Amwythig fel a ddangosir isod.

Band D charge comparison England CYM

Beth ydw i`n talu amdano gyda fy Nhreth Cyngor?

Treth leol ydi Treth y Cyngor sydd yn cael ei gasglu gan bob cyngor yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar werth eiddo domestig fel y pennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Mae bil eich Treth Cyngor yn cynnwys tri thâl gwahanol - tâl i Gyngor Sir y Fflint (gan gynnwys Tân ac Achub), tâl i Heddlu Gogledd Cymru, a thâl i’ch cyngor tref neu gymuned leol.

Dim ond 27% o’r arian y mae’r Cyngor ei angen i dalu am wasanaethau lleol sydd yn cael ei godi trwy Dreth y Cyngor. Daw’r rhan fwyaf o’n incwm (68%) gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant. Daw’r 5% sy’n weddill o’r ffioedd rydym yn ei godi am rai gwasanaethau.

Nid yw Treth y Cyngor rydym yn ei gasglu yn fil uniongyrchol am y gwasanaethau unigol a ddarperir gan y Cyngor, yn hytrach caiff ei gyfuno i helpu i dalu am yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.

Mae’n rhaid i dalwyr y Dreth Gyngor dalu swm y dreth sydd yn ddyledus am eu heiddo ac ni allant ofyn am ostyngiad neu ddisgownt am nad ydyn nhw nac aelodau o’u teulu, wedi cyrraedd y cyfnod yn eu bywyd pan nad ydynt yn defnyddio’r holl wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

Bob blwyddyn, byddwn yn darparu dadansoddiad o ble ddaw incwm y Cyngor a sut caiff yr arian ei wario.

Beth mae cynghorau tref a chymuned yn ei wneud a pham eu bod ar fy mil?

Mae yna 34 Cyngor Tref a Chymuned ar draws Sir y Fflint. Maent yn darparu neu’n cynnal amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a chyfleustodau lleol gan gynnwys neuaddau pentref, caeau chwarae a mannau agored, seddi cyhoeddus, llochesi bws, goleuadau stryd a llwybrau troed. Mewn rhai achosion gallant gyfrannu at y gost o redeg cyfleusterau lleol mwy megis canolfannau hamdden a llyfrgelloedd.

Mae’ch Cyngor Tref neu Gymuned yn derbyn mwyafrif ei arian trwy gyfran o’r Dreth Cyngor sy’n cael ei dalu gan breswylwyr sy’n byw o fewn ei ffiniau. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae swm y ‘praesept’ y mae eich Cyngor Tref neu Gymuned yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Cyngor Tref neu Gymuned.

Mae’r Cyngor Sir yn cyhoeddi rhestr o braeseptau Cynghorau Tref a Chymuned bob blwyddyn.

Beth mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ei wneud a pham ei fod ar fy mil?

Cyfrifoldeb Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yw darparu gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer ardal gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Panel Heddlu a Throsedd i osod cyllideb ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru. Mae’r Llywodraeth yn darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid sy’n angenrheidiol i gynnal gwasanaethau’r Heddlu yng ngogledd Cymru. Codir gweddill yr arian drwy Dreth y Cyngor. Gelwir hyn yn ‘praesept' Treth y Cyngor ac mae’n seiliedig ar fand prisiad eich eiddo.

Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â’r pum cyngor arall yng ngogledd Cymru, yn gyfrifol am gasglu Treth y Cyngor ar ran Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru.

Mae swm y ‘praesept’ y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ei godi i’w weld ar eich bil cyffredinol Treth y Cyngor. Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl dreth sy’n ddyledus ac yna'n talu cyfran i'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Bob blwyddyn mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth cyllideb am gynlluniau gwario Heddlu Gogledd Cymru.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Pam fod angen Cynnydd yn Nhreth y Cyngor?

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i bob cyngor ar hyd a lled y DU osod cyllideb sy’n mantoli’r hyn y maent yn bwriadu ei wario yn erbyn yr arian y maent yn ei dderbyn i ddarparu gwasanaethau.
  
Mae Cyngor Sir y Fflint yn yr 20fed safle allan o’r 22 gyngor yng Nghymru o ran yr arian y mae’n ei  ei gael y pen i ddarparu gwasanaethau -  £159.00 y pen yn llai na chyfartaledd Cymru. Pe byddem yn cael cyfartaledd Cymru, yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru, byddem yn derbyn tua £24.7 miliwn yn fwy.   Ers 2008 mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod torri £110 miliwn ar ei wariant.  Mae wedi mynd yn fwy a mwy anodd bob blwyddyn i fantoli’r gyllideb,  a mantoli’r gyllideb ar gyfer 2024/25 fu’r dasg anoddaf eto.

Yn yr un modd ag aelwydydd unigol, mae’r Cyngor yn teimlo effeithiau prisiau cynyddol ac ar ôl 15 mlynedd o ostyngiadau mewn cyllid a gorfod torri gwariant, ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar ôl i wneud pethau’n wahanol er mwyn arbed arian.   Ar gyfer 2024/25 roedd Sir y Fflint yn wynebu cyfanswm o £32m o bwysau costau.
  
Amrywiodd y swm hwn dros y flwyddyn wrth i opsiynau posibl gael eu dynodi:

• gostyngodd y bwlch i £11 miliwn ddechrau Rhagfyr 2023 gan gymryd cynnydd disgwyliedig o 3.1% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru a chynnydd rhagamcanol o 5% yn Nhreth y Cyngor.

• Ar 20 Rhagfyr 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad dros dro ar gyfer cynghorau.  Dim ond 2.2% dderbyniodd Sir y Fflint ynghyd â newidiadau ariannu ychwanegol.   Oherwydd y cyhoeddiadau hyn, ar ben costau’r galw cynyddol am wasanaethau, cynyddodd bwlch ariannu terfynol y Cyngor i £14.4m. 

Heb gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cynyddu ei gyfran o Dreth y Cyngor 9% . 7.9% i dalu am wasanaethau’r Cyngor a 1.1% ar gyfer y cynnydd mewn cyfraniadau i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Crwneriaid Gogledd Ddwyrain Cymru.  

Mae gwybodaeth fwy manwl am yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor a gosod y gyllideb ar gyfer 2024/25 i’w gweld yn Y gyllideb a gwasanaethau lleol.

Beth allaf I ei wneud os na allaf l fforddio talu Treth y Cyngor?

Gall talwyr Treth y Cyngor ar incwm isel, sy’n derbyn budd-daliadau lles gan gynnwys Credyd Cynhwysol, fod yn gymwys i gael cymorth tuag at dalu Treth y Cyngor. Gelwir hyn yn Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Cliciwch yma i ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld os allwch chi gael unrhyw gymorth.

Os ydych chi’n credu y gallech fod yn gymwys ar ôl defnyddio’r cyfrifiannell budd-daliadau, cliciwch yma i gyflwyno ffurflen ‘ar-lein’ am Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

I helpu talwyr Treth y Cyngor i neilltuo arian o amgylch taliadau misol, gall y Cyngor gynnig rhandaliadau dros gyfnod o 12 mis yn lle 10 mis, neu faint bynnag o fisoedd sydd yn weddill yn y flwyddyn tan fis Mawrth 2025. Os hoffech chi newid eich dull o dalu neu i sefydlu taliadau dros 12 mis, gallwch gysylltu â thîm Treth y Cyngor. E-bost: local.taxation@flintshire.gov.uk Rhif ffôn 01352 704848.

I sefydlu Debyd Uniongyrchol yn syml ac yn gyflym cliciwch yma

Pam nad yw’r Cyngor yn mynd ar ôl y rheini nad ydynt yn talu Treth y Cyngor ar amser – byddai hynny’n siŵr o helpu i leihau’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor?

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, eisoes yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor.

Yn ystod 2023/24 mae mwy o aelwydydd, yn ddigon dealladwy, wedi bod yn cael trafferth gwneud taliadau Treth y Cyngor. Fodd bynnag, rydym wedi cynorthwyo’r aelwydydd hyn drwy gysylltu â nhw a’u cefnogi i wneud ceisiadau am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor, a thrwy wneud trefniadau talu arbennig mewn achosion unigol.

Byddwn yn parhau i gefnogi’r bobl hyn i wneud eu taliadau a disgwyliwn y byddwn yn casglu o leiaf 98.8% o’r dreth sy’n ddyledus mewn unrhyw flwyddyn – mae hyn yn dipyn uwch na'r cyfartaledd Cymreig o 97.8%.

Ym mlwyddyn ariannol 2022/23 er gwaethaf effeithiau disgwyliedig y pandemig, casglodd y Cyngor 97.4% o’r Dreth Gyngor yn y flwyddyn y daeth yn ddyledus, sy’n llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol a gasglwyd ledled Cymru yn y flwyddyn honno o 96.1%. Roedd hyn hefyd yn uwch na’r gyfradd gasglu gyfartalog ar draws Lloegr o 96.0% ac yn sylweddol uwch na’r gyfradd gasglu gyfartalog yn yr Alban o 96.2% fel y dangosir isod. Roedd hyn yn gosod Sir y Fflint fel y ail Cyngor a berfformiodd orau ar draws y 22 sir yng Nghymru.

Colection rate comparison 23 Cymraeg

 

Rydym yn parhau i weithio gyda thrigolion drwy ei gwneud yn haws i breswylwyr dalu eu biliau a chael mynediad at ein gwasanaethau.

Rydym hefyd yn cydnabod y gall rhai aelwydydd ei chael yn anodd talu, ac rydym yn annog unrhyw un sy'n cael trafferth talu i gysylltu’n fuan â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 neu drwy fynd i’r wefan Treth Cyngor.

Pam ydw i`n talu Treth y Cyngor helpu gwasanaethau cynnal nad i`n eu defnyddio?

Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at yr ystod lawn o wasanaethau rydym ni’n eu darparu, ac eithrio gwasanaethau tai cyngor a ariennir drwy renti tenantiaid y Cyngor.

Mae’n rhaid i dalwyr Treth y Cyngor dalu'r dreth sy'n ddyledus ar gyfer eu heiddo ac nid oes modd iddyn nhw ofyn am ostyngiad oherwydd nad ydyn nhw, neu aelodau o'u teulu, ar hyn o bryd, yn defnyddio rhai o wasanaethau'r Cyngor.

Mae addysg a gofal cymdeithasol yn enghreifftiau o’r gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau fel estyniad i’r Wladwriaeth Les. Mae pob un ohonom ni’n cyfrannu tuag.