Alert Section

Labelu bwyd a chynhwysion


Gyda chydweithwyr o Adran Iechyd yr Amgylchedd, mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gyfrifol am sicrhau bod pob adeilad sy'n gwerthu bwyd yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelwch Bwyd, gan gynnwys siopau bara, cigyddion a siopau bwyd eraill ar y stryd fawr, archfarchnadoedd, siopau fferm, gweithgynhyrchwyr, caffis, bwytai, tafarndai a gwestai.

Mae Safonau Masnach yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth sy'n ceisio sicrhau bod bwyd wedi'i labelu'n gywir a bod ei gyfansoddiad yn gywir yn ogystal â sicrhau nad yw'r pecynnau'n gamarweiniol nac yn ormodol.  Mae Safonau Masnach hefyd yn gyfrifol am orfodi'r rhan honno o'r ddeddf diogelwch bwyd sy'n gwahardd unrhyw un rhag gwerthu bwyd ffres wedi'i becynnu'n barod ar ôl ei ddyddiad "defnyddio erbyn".

Mae Iechyd yr Amgylchedd yn gyfrifol am sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd gan gynnwys diogelwch cynnyrch bwyd a safonau hylendid mewn adeiladau sy'n gwerthu bwyd. 

Mae Safonau Masnach yn sicrhau bod bwyd sy'n cael ei gynhyrchu a'i werthu yn Sir y Fflint yn cydymffurfio â safonau cyfansoddiadol, sicrhau bod bwyd wedi'i labelu'n gywir, bod y cynhwysion yn cynrychioli'r disgrifiad yn gywir a hefyd bod y cynhwysion yn gyfreithiol.  Mae Safonau Masnach hefyd yn sicrhau bod honiadau a labeli maethol yn gywir.

Mae Safonau Masnach yn sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â safonau bwyd trwy gynnal archwiliadau rheolaidd mewn adeiladau sy'n gwerthu bwyd, cymryd samplau bwyd i alluogi labordy'r Dadansoddwr Cyhoeddus i gynnal dadansoddiad cyfansoddiadol a chynghori a helpu busnesau bwyd gyda'r ddeddfwriaeth safonau bwyd.

Os oes angen cyngor ar eich busnes am unrhyw agwedd ar safonau bwyd, cysylltwch â'r Gwasanaeth Safonau Masnach.

Os ydych yn ddefnyddiwr sydd ag ymholiad yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar safonau bwyd neu os hoffech ein hysbysu o gŵyn yn ymwneud â safonau bwyd ewch i'r dudalen cyngor i ddefnyddwyr am gyngor.

Cysylltiadau safonau bwyd:

Asiantaeth Safonau Bwyd 

Cysylltwch â ni

Ffôn: 08454 04 05 06 (Cyngor i ddefnyddwyr)

Ffôn: 01352 703181 (Ymholiadau busnes a materion eraill)

Ffacs: 01352 703192

Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF

E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk 

Ewch i: Mynedfa 3, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

Oriau agor y swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener