Nwyddau a gwasanaethau anfoddhaol
Pecyn Cymorth A Thaflenni Cyngor
Mae'r Is-adran Cyngor i Ddefnyddwyr hefyd yn cynnig ystod eang o wybodaeth a thaflenni i gynorthwyo a hysbysu defnyddwyr. Mae ein Pecyn Cymorth i Ddefnyddwyr yn becyn hunan-gymorth cynhwysfawr sy'n cynnwys gwybodaeth am sut i gwyno am nwyddau a gwasanaethau anfoddhaol gan gynnwys llythyrau enghreifftiol. Gallwch hefyd gysylltu â ni i archebu pecyn cymorth ar bapur.
Ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth
I gael gwybodaeth neu gyngor, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05. Fe allwch siarad â chynghorydd trwy gyfrwng yr iaith Saesneg ar 03454 04 05 06.
Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00am tan 5.00pm.
Ffôn Testun
Ffoniwch 18001 yna rhif llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sef 03454 04 05 06. Os hoffech chi siarad â chynghorydd trwy gyfrwng y Gymraeg, ffoniwch 18001 ac yna 03454 04 05 05.
Beth yw Gwasanaeth Cyngor i Ddefnyddwyr y Gwasanaeth Safonau Masnach?
Mae Siarter i Ddefnyddwyr - Y Gwasanaeth Safonau Masnach yn esbonio beth yw Gwasanaeth Cyngor i Ddefnyddwyr y Gwasanaeth Safonau Masnach sydd ar gael i'r cyhoedd a mansachwyr lleol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am bwy all gael help, beth allwn ei wneud a beth na allwn ei wneud ac mae'n esbonio ein safonau gwasanaeth.
Sut i gysylltu â ni
E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk
Ffoniwch: 03454 04 05 05 (Cyngor i ddefnyddwyr)
Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF