Alert Section

Diogelwch digwyddiadau a thân gwyllt


Gall cynllunio digwyddiad cerddorol neu unrhyw ddigwyddiad arall mewn ffordd ddiogel fod yn anodd i drefnwyr digwyddiadau bach. Mae angen i bob trefnydd digwyddiadau ystyried y digwyddiad yn ofalus er mwyn lleihau’r perygl o anaf neu salwch i’r rheiny sy’n gweithio yn y digwyddiad, e.e. perfformwyr yn ogystal â’r gynulleidfa.

Lluniwyd y Canllaw Porffor i Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Digwyddiadau Cerddorol a Digwyddiadau Eraill gan y Fforwm Diwydiant Digwyddiadau mewn ymgynghoriad â diwydiant digwyddiadau’r DU, gan gynnwys cynrychiolwyr Llywodraeth ranbarthol a chenedlaethol. Dyluniwyd y cyhoeddiad hwn i gymryd lle’r “Canllaw Porffor” (HSG 195) a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) mewn ymgynghoriad â’r diwydiant.

Nod y canllaw yw helpu’r rheiny sy’n trefnu digwyddiadau cerdd neu rhai tebyg, fel bod y digwyddiadau’n cael eu cynnal yn ddiogel. Fel cyflogwr, mae gan drefnydd y digwyddiad – boed yn unigolyn, yn gasgliad o bobl neu’n awdurdod lleol – ddyletswydd cyffredinol i sicrhau, i raddau mor ymarferol â phosibl, iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr. Mae ganddynt hefyd ddyletswydd i sicrhau, cyn belled â’i fod yn rhesymol ymarferol, nad yw eraill – gan gynnwys gwirfoddolwyr a’r gynulleidfa – mewn perygl o niwed i’w hiechyd a diogelwch o ganlyniad i’r ffordd y caiff y digwyddiad ei redeg.

Mae’r canllaw hwn yn myd y tu hwnt i gydymffurfio â’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle ac nid yn unig y mae’n cwmpasu  deddfwriaeth ac arfer da ar gyfer Iechyd a Diogelwch, ond hefyd deddfwriaeth ac arfer da ar draws y diwydiant gan gynnwys Deddf Trwyddedu 2003, Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ac eraill. Dyluniwyd y canllaw i ddangos y ffordd at drefnwyr digwyddiadau a chyflenwyr i’r arferion a’r materion y mae angen eu hystyried wrth drefnu digwyddiadau. Nid yw’r cynnwys yn rhagbenodedig, ond maen ceisio amlygu’r meini prawf cyfreithiol ac arfer da. Ar bob cam, anogir y sawl sy’n defnyddio’r canllaw hwn i ymgymryd ag asesiadau risg a gwerthusiadau priodol i asesu’r gofynion penodol ar gyfer pob digwyddiad y maent yn ei drefnu neu’n rhan ohono. Nid y gyfraith mo’r canllaw hwn ac mae’n bosibl iawn bod yna ffyrdd eraill, yr un mor effeithiol, o ymdrin â’r risg.

Mewn rhai ardaloedd, mae’r Canllaw yn awgrymu ffynonellau gwybodaeth eraill i’r defnyddwyr a allai fod o help iddynt. Gallwch fynd i’r Canllaw Porffor newydd yma, www.thepurpleguide.co.uk. Mae yna ffi tanysgrifio.

Ymgynghorwyr

Os byddwch yn penderfynu defnyddio ymgynghorydd iechyd a diogelwch, sicrhewch eu bod wedi cofrestru. Nid yw defnyddio ymgynghorydd yn eich esgusodi rhag bod yn gyfrifol am reoli iechyd a diogelwch, felly mae’n bwysig bod y cyngor a gewch chi gan ymgynghorydd yn synhwyrol ac yn gymesur.

Digwyddiadau llai

O ganlyniad i gymhlethdod trefnu ystod eang o ddigwyddiadau 

Os ydych chi’n trefnu digwyddiad cyhoeddus mawr, yn amlwg, bydd rhaid i chi feithrin ymagwedd gadarn a manwl at gynllunio yn ogystal â cheisio cymorth proffesiynol. Os ydych yn cynnal arddangosfa tân gwyllt lleol, fel y rheiny a drefnir gan lawer o glybiau chwaraeon, ysgolion neu gynghorau plwyf, mae’n dal i fod rhaid ichi gynllunio’n gyfrifol, ond nid oes angen na disgwyl yr un lefel o fanylder. Ceir canllawiau pellach ar wefan HSE.

Digwyddiadau - Canllawiau Trefnwyr

Yn ogystal â hyn, mae gan dudalennau Diogelwch Cymunedol Cyngor Sir Y Fflint wybodaeth ar Ddiogelwch Tân Gwyllt a Choelcerthi, cliciwch yma i fynd i’r tudalennau hyn.