Alert Section

Gwelyau haul


Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010

Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011

Daeth Deddf newydd sy’n cwmpasu gweithrediad a’r defnydd o welyau haul i rym ar 8fed Ebrill 2011.

Mae Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 yn mynnu bod busnesau’n sicrhau nad oes dim un person o dan 18 oed yn:

  • defnyddio gwely haul 
  • cael cynnig y defnydd o wely haul, neu’n
  • bresennol mewn parth cyfyngedig

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu canllaw (PDF ffenestr newydd) sy’n esbonio gofynion y Ddeddf gan gynnwys cymhwyso ac ystyr ‘parthau cyfyngedig’ mewn eiddo.

Yn rhan fwyaf yr achosion, mae peidio â chydymffurfio â’r Ddeddf yn drosedd a gall dirwy o hyd at £20,000 fod yn daladwy.

Cyflwynwyd rhagor o reolau gan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2011 a ddaeth i rym ar 31ain Hydref 2011:

  • gofyniad i oruchwylio’r defnydd o welyau haul ar bob busnes gwelyau haul
  • gwahardd gwerthu neu hurio gwelyau haul i bobl iau nag 18 oed
  • ymestyn gofynion y rheoliadau i gynnwys busnesau sy’n gweithredu o eiddo domestig
  • rhagbenodi fformat a chynnwys y wybodaeth iechyd y mae’n rhaid ei harddangos i oedolion sy’n ceisio defnyddio gwely haul, a sicrhau bod y wybodaeth ar gael iddynt
  • gwahardd darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd sy’n gysylltiedig ag effeithiau iechyd defnyddio gwelyau haul, ar wahân i ddeunydd sy’n cynnwys y wybodaeth iechyd a rhagbenodir gan y rheoliadau, a
  • gofyniad i ddarparu a gwisgo sbectol amddiffynnol saff ac addas i oedolion.