Mae tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ar draws y Cyngor, yn cydlynu'r gwaith o gyflawni tri chynllun Isadeiledd Gwyrdd yn Shotton, ym meysydd parcio Ash Grove a Charmley's Lane a Gardd Goffa Henry Weale.
Mae tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ar draws y Cyngor, yn cydlynu’r gwaith o gyflawni tri chynllun Isadeiledd Gwyrdd yn Shotton, ym meysydd parcio Ash Grove a Charmley’s Lane a Gardd Goffa Henry Weale.
Mae'r prosiectau'n rhan o raglen ehangach y Cyngor i wella mannau gwyrdd, gwella bioamrywiaeth, cefnogi teithio llesol a chreu mannau iachach a mwy gwydn ar gyfer preswylwyr. Mae'r cynlluniau wedi'u hariannu'n llwyr drwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (LlC) a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn benodol ar gyfer gwneud gwelliannau i fannau gwyrdd mewn canol trefi.
Trwy gydol y broses o ddatblygu’r cynigion a’r dyluniadau, mae swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi gweithio'n agos gyda Chynghorwyr Tref Shotton a Chynghorwyr Sir lleol, gan sicrhau bod gwybodaeth a blaenoriaethau lleol wedi helpu i lunio'r dyluniadau ar gamau allweddol y prosiect, wrth iddo gael ei ddatblygu.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, drwy arolygon ar-lein a digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb, ym mis Awst 2025, er mwyn rhoi cyfle i breswylwyr wneud sylwadau ar y cynigion. Mae’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori wedi helpu i lywio'r dyluniadau terfynol, gan sicrhau bod y cynlluniau’n ymateb i safbwyntiau lleol, yn ogystal â darparu manteision amgylcheddol a chymdeithasol hirdymor.
I gael rhagor ragor o wybodaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus, ewch i'r dudalen yn ein hardal Ymgynghori ac Ymgysylltu.
Mae'r cynlluniau terfynol i'w rhoi ar waith yn cynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd, gwaith plannu newydd, llwybrau gwell ar gyfer cerddwyr a nodweddion cynaliadwy a gynlluniwyd i reoli dŵr wyneb a chynyddu bioamrywiaeth.
Bydd gwelliannau i faes parcio Charmley’s Lane yn cynnwys:
- Plannu dolydd blodau gwyllt.
- Gosod meinciau ychwanegol ymysg y gwaith plannu yn y dolydd.
- Cadw’r holl goed presennol.
- Plannu rhagor o goed ar hyd ffin y maes parcio wrth ymyl hen safle ysgol Bryn Tirion.
Bydd y gwelliannau i faes parcio Ash Grove yn cynnwys:
- Tynnu'r wal ffin allanol er mwyn agor y gofod.
- Cadw cerflun y dyn o ddur o fewn y twb plannu uwch presennol.
- Plannu gwair lefel isel (er mwyn adlewyrchu’r gwaith plannu ar hyd Aber Afon Dyfrdwy) yn lle’r planhigion pigog (Berberies) presennol ochr yn ochr ag elfennau blodeuol lliwgar i greu cynllun plannu croesawgar, sy’n addas i’r cyd-destun.
- Gosod meinciau pren gyda chefnau pren a breichiau dur yn lle’r meinciau dur, yn ogystal â phalmant ychwanegol wrth ymyl y meinciau, fel bod modd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn / coetsys a phramiau eistedd wrth ochr y fainc, oll er mwyn sicrhau’r cynhwysiant a’r hygyrchedd mwyaf posibl.
- Gosod cerrig camu (gwastad â'r ddaear) ar draws y lawnt bresennol, fel bod cyswllt chwareus ledled y gofod a seddi cerrig anffurfiol yng ngogledd yr ardd.
- Cadw’r holl goed presennol.
- Datblygu ochr ogleddol y maes parcio, gan gynnwys cael gwared ar y mesurydd maes parcio nas defnyddir, a chynnwys standiau beiciau, seddi a phlanhigion.
- Gosod bolardiau concrid newydd yng ngogledd-ddwyrain y maes parcio.
Bydd y gwelliannau i Ardd Goffa Henry Weale yn cynnwys:
- Cyflwyno coed yn y gwelyau plannu o boptu’r fynedfa i’r ardd. Bydd gan y coed foncyff 2 metr clir, gan weithredu fel canopi i raddau – gan amgáu rhywfaint ar yr ardd, heb golli’r golygfeydd y tu mewn a’r tu allan iddi.
- Gwaith celf palmant dwyieithog, pwrpasol ger mynedfa’r ardd, yn cyflwyno Gardd Goffa Henry Weale VC.
- Panel dehongli wrth y fynedfa yn darparu cipolwg ar hanes Henry Weale.
- Ychwanegu gwely plannu crwm canolog a fydd yn cynnwys glaswellt lefel isel, wedi’i ysbrydoli gan waith plannu Aber Afon Dyfrdwy, yn ogystal ag elfennau blodeuol, lliwgar. Bydd cerrig camu anffurfiol trwy ganol y gwaith plannu yn ychwanegu nodwedd chwareus a chynnil, fel bod modd ymdrochi yn y profiad o weld y gwaith plannu, yn ogystal â chael cyswllt uniongyrchol trwy ganol y gofod.
- Ychwanegu system delltwaith gyda phlanhigion dringo at y ffens oddi amgylch, gan gadw ac ail-siapio’r llwyni presennol. Ychwanegu glaswellt uwch i lenwi unrhyw fylchau yn y gwely.
- Gosod meinciau pren crwm gyda chefnau pren a breichiau dur, yn lle’r meinciau dur, gan adael lle wrth ymyl y meinciau, fel bod modd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn eistedd wrth ochr y fainc, oll er mwyn sicrhau’r cynhwysiant a’r hygyrchedd mwyaf posibl.
Rhannwyd datganiad i'r wasg ym mis Rhagfyr 2025 cyn i'r gwaith ddechrau, er mwyn helpu preswylwyr i ddeall cwmpas y prosiectau a beth i'w ddisgwyl ar ôl i’r gwaith ddechrau.
Mae disgwyl i’r gwaith ar y safle ddechrau ym mis Ionawr 2026, a bydd rhagor o ddiweddariadau yn cael eu rhannu wrth i’r prosiectau fynd rhagddynt.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r prosiect hwn, anfonwch e-bost at adfywio@siryfflint.gov.uk