Alert Section

Actif North Wales

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

O wyth i wythdeg oed: cynllun sirol yn helpu trigolion Sir y Fflint i fod yn fwy egnïol

ACTIF1
(Blaen o'r chwith i'r dde): Ruby Jones, Daisy Harpur ac Archie Davies. (Cefn o'r chwith i'r dde): Mam Ruby, Leanne Jones; Romi Halfpenny-Williams a'i chydweithiwr Josh Edwards o Gwella..

O feithrin eu Luke Littler mewnol i ailddarganfod pethau yr oeddent yn eu mwynhau yn y gorffennol, mae cymunedau ym mhob rhan o Sir y Fflint yn llwyddo i fod yn fwy egnïol a gwneud ffrindiau newydd, diolch i raglen allweddol.

Mae cynllun gan Gogledd Cymru Actif o’r enw ‘Egnïol, Iach a Hapus’ yn hudo pobl yn ôl at weithgaredd corfforol drwy wahanol gynlluniau, fel rhaglen ymarfer i bobl oed 60+ a chlwb dartiau newydd.

Yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF), arweiniodd y prosiect at sefydlu clwb dartiau wythnosol, rhad ac am ddim, i deuluoedd yn Shotton. Mae’r mudiad nid-er-elw yn ceisio datblygu academi dartiau i bobl ifanc ynghyd â chyflwyno crefftau creadigol a gemau gwahanol ym mhob sesiwn.

Mae’r clwb yn agored i bob oedran ac yn croesawu mwy na 35 aelod bob nos Iau. Defnyddiwyd y grant i brynu’r offer angenrheidiol, yn cynnwys pedwar bwrdd dartiau a deg set o ddartiau.

Caiff y sesiynau eu rhedeg mewn partneriaeth â menter gymdeithasol Gwella yn nhafarn y Melrose Inn. Yno mae teuluoedd a’r aelodau yn gallu cael bwyd yn ogystal â siawns i ddatblygu eu sgiliau wrth chwarae – sgiliau fel cydgysylltiad y llygaid a’r dwylo, pwysigrwydd chwarae’n deg a mathemateg.

Un sydd wrth ei bodd yn mynd i’r clwb dartiau yw Ruby Jones, disgybl 8 oed yn Ysgol Gynradd Eglwysig Sant Ethelwold yn Shotton. Meddai: ‘Dwi’n hoffi dod yma am ei fod yn hwyl. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl wahanol, ac rydw i eisoes wedi gwneud ffrindiau newydd.

ACTIF3
(O'r chwith i'r dde) Anna Johnson, sy'n mynychu rhaglen weithgareddau rheolaidd dros 60 oed ac yn gyn-breswylydd Marleyfield House; Rebecca Joy, gweithiwr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff Gwella.

“Mae chwarae dartiau wedi helpu fy mathemateg, a dwi awydd rhoi cynnig ar hyn gartref hefyd.”

Lle arall a helpwyd i gynnal gweithgareddau egnïol yw cartref preswyl Marleyfield House ym Mwcle a gafodd grant a gyfer eu rhaglen 60+ i denantiaid a thrigolion eraill cymwys o Sir y Fflint.

Bob prynhawn dydd Iau, yn lolfa gymunedol y cartref, trefnir ymarferiadau ysgafn gan ddefnyddio bandiau gwrthiant (resistance bands) a tai chi gyda chefnogaeth aelod o staff Gwella i symud yn well a chryfhau’r cyhyrau.

Hefyd, rhoddir cyngor ynghylch sut i atal codwm er mwyn i bobl wybod yn well sut i osgoi syrthio a chael niwed.

Meddai Anna Johnson, 75 oed, un o breswylwyr Pantymwyn sy’n mynychu’r sesiynau’n rheolaidd: “Dwi wedi bod yn gwneud tai chi ers pan oeddwn yn 19 oed. Mae’n ymarfer gwych, dan reolaeth ofalus, heb orfod symud gormod ar y llawr.

ACTIF2
(Ch-D) Romi Halfpenny-Williams o Gwella; y Cynghorydd Nigel Brown; Leanne, mam Ruby Jones; Ruby Jones.

“Yn ystod y sesiynau, does dim rhaid gwthio eich hun yn rhy galed a theimlo’n anghyfforddus. Mae hynny’n braf iawn.

“Ac mae’r sgyrsiau atal codwm hefyd yn ddefnyddiol, gan helpu pobl i feddwl yn fwy cadarnhaol, rhoi cynnig ar bethau newydd, symud ymlaen a gwrthod cael eich trechu.

“Mae’r cyfan yn hwy,l a llawer yn difaru na wnaethant ymuno’n gynt.”

Meddai rheolwr gweithgareddau cymunedol Gwella, Michelle Thomas: “Mae cefnogaeth UKSPF wedi bod o gymorth allweddol inni redeg prosiectau ym mhob rhan o Sir y Fflint i gyrraedd pobl sy’n byw bywydau rhy lonydd, a’u hannog i fod yn fwy egnïol.

“Cawsom ganmoliaeth uchel gan fynychwyr sesiynau Marleyfield House a’r teuluoedd sy’n mynd i’r clwb dartiau. Mae hynny’n wych.

ACTIF4 Anna Johnson, mynychwr rheolaidd yn y rhaglen weithgareddau dros 60 oed a chyn-breswylydd Tŷ Marleyfield, yn mwynhau'r sesiwn ddiweddaraf gyda rhai o'r cyfranogwyr eraill.

“Rydym yn benderfynol o sicrhau dilyniant i’n gwaith. Er enghraifft, mae’r clwb dartiau wedi gwneud cais am arian o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru ar gyfer y dyfodol, ac mae cynlluniau hefyd i sicrhau fod y rhaglen 60+ hefyd yn parhau dros y tymor hir.

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Mae creu Sir y Fflint iachach a mwy egnïol yn allweddol bwysig. Dwi’n falch dros ben o weld y partneriaethau strategol a sefydlwyd gan Gogledd Cymru Actif ym mhob rhan ohoni.”

Derbyniodd Gogledd Cymru Actif £48,000 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.