Flintshire families get hands-on at key artificial intelligence workshops
Mae disgyblion o Ysgol Bryn Garth, Penyffordd ger Treffynnon, a’u cefnogwyr yn rhoi cynnig ar eu creadigaethau. Yn y llun gyda Hayley Laidlaw-Wilson, sylfaenydd Sniff and Snails.
Mae rhieni, disgyblion ac athrawon ym mhob rhan o Sir y Fflint yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf ym maes deallusrwydd artiffisial (AI) gyda chymorth cwmni addysgol o’r Wyddgrug.
Fel rhan o raglen ‘Cryfder mewn Rhifau’ Cyngor Sir y Fflint, a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF), daeth mwy na 100 o bobl i’r gweithdai hwyliog, a drefnwyd gan fusnes teuluol o’r enw Sniff and Snails.
Roedd y gwersi’n defnyddio rheolydd Crumble a ddyfeisiwyd gan y cwmni – sef cyfrifiadur bach y gellir ei raglennu i gwblhau tasgau trwy ddefnyddio cyfarwyddiadau i reoli goleuadau, olwynion, moduron a synwyryddion. Mae’r broses hon yn dysgu sgiliau codio i bawb sy’n cymryd rhan.
Mae Adele Middleton ac Amber Ash, 11, yn adeiladu eu robot yn ystod gweithdy yn Ysgol Bryn Garth, Penyffordd ger Treffynnon.
Roedd yr ymateb yn wych, gyda 98% yn dweud ei fod wedi eu gwneud yn fwy hyderus wrth ddefnyddio AI – enghraifft arall o lwyddiant y rhaglen ‘Cryfder mewn Rhifau’ i wella llythrennedd, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), rhifedd, sgiliau digidol a sgiliau eraill ar draws y sir.
Cynhaliwyd y gweithdai ar gyfer dysgwyr cyfnod allweddol dau a’u rhieni mewn nifer o ysgolion Sir y Fflint, yn cynnwys Ysgol Derwenfa, Coedllai; Ysgol Gynradd Sirol Gwepra, Cei Connah; Ysgol Parc Cornist, Y Fflint; Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Y Fflint; Ysgol Trelawnyd VA a Chaffi Isa ym Mynydd Isa ger Yr Wyddgrug.
Gyda deallusrwydd artiffisial yn cyfrannu tua £3.7 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig, mae sefydlydd Sniff and Snails, Hayley Laidlaw-Wilson, o’r farn fod y gweithdai hyn yn ffordd ardderchog o roi gwell dealltwriaeth i drigolion Sir y Fflint o’r modd y mae AI yn gweithio.s.
Meddai: “Mae ein rheolydd Crumble eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn mwy na 14,000 o ysgolion yn y Deyrnas Unedig ac felly roedd yn braf ei weld ar waith yn Sir y Fflint yn cefnogi ac ysbrydoli technolegwyr y dyfodol.
Mae Lyndsey Roberts ac Iylah Roberts yn dechrau adeiladu eu robot yn ystod gweithdy yn Ysgol Bryn Garth, Penyffordd ger Treffynnon, ac yn cael ychydig o help gan Hayley Laidlaw-Wilson, sylfaenydd Sniff and Snails.
“Roeddem yn arbennig o falch o glywed sut y gwnaeth y sesiynau hyn gynyddu hyder a gallu wrth drin y dechnoleg AI. Gobeithio y bydd y rhai a gymrodd ran yn parhau archwilio posibiliadau trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial.”
Yn dilyn y gweithdai hyn hefyd, mae Sniff and Snails wedi defnyddio cefnogaeth UKSPF i’r cynllun Cryfder mewn Rhifau i greu hyb addysgu a’r llyfrgell offer ar gyfer ysgolion Sir y Fflint.
Oddi yno, gall athrawon fenthyg citiau dysgu pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg peirianneg a mathemateg) a ddatblygwyd gan y busnes. Maent ar gael yn rhad ac am ddim, ynghyd â chynlluniau gwersi sy’n cynnwys codau traws gwricwlaidd.
Ychwanegodd Hayley: “Heb gefnogaeth UKSPF, byddem wedi gorfod chwilio am gefnogaeth ariannol yn rhywle arall i sefydlu’r hyb addysgu a llyfrgell citiau. Diolch yn fawr iawn am y gefnogaeth.
“Gyda 12 ysgol eisoes wedi arwyddo i fenthyg ein citiau, edrychwn ymlaen at weld eu dylanwad. Gobeithio y bydd rhagor o ddarparwyr addysg yn dilyn eu hesiampl.”
Mae Suzanne Wrench a Daisy Wrench, 10, yn cael llawer o hwyl yn adeiladu eu robot gyda’i gilydd yn ystod gweithdy yn Ysgol Bryn Garth, Penyffordd ger Treffynnon.
Meddai cydlynydd y prosiect ‘Cryfder mewn Rhifau’, Claire Worrall: “Rydym wrth ein bodd ynglŷn â’r ffordd y mae ein partner, Sniff and Snails, wedi helpu i wella sgiliau digidol ym mhob rhan o Sir y Fflint yn eu gweithdai creadigol.
“A thrwy greu hyb addysgu ar lein a llyfrgell citiau, crëwyd dilyniant amlwg trwy alluogi athrawon i barhau i gefnogi eu gwaith yn y dosbarth gyda chymorth technoleg arloesol a chynlluniau gwersi cynhwysfawr.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Mae gwella dealltwriaeth a meithrin hyder ymhlith trigolion Sir y Fflint yn rhan allweddol o sicrhau fod pobl ifanc, athrawon a rhieni yn cael y budd mwyaf o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn arbennig gan fod AI yn faes sy’n datblygu mor gyflym.
Derbyniodd y rhaglen ‘Cryfder mewn Rhifau’ bron i £210,000 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.