Arian UKSPF yn diogelu llecynnau a chynyddu bioamrywiaeth ar hyd arfordir Sir y Fflint
Prosiect Cysylltu'r Arfordir â Chefn Gwlad Saltney Longforest.
O gynyddu bioamrywiaeth yn Saltney i osod llwybr pren (boardwalk) at draeth Talacre, mae tîm Cysylltu Arfordir a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint yn gwella llecynnau poblogaidd ar hyd arfordir y sir.
Mae Parc Arfordir Sir y Fflint yn ymestyn am 25 milltir ar hyd aber Afon Dyfrdwy ac, fel rhan o’r prosiect, cafodd llawer o hybiau poblogaidd eu gwella a’u gwneud yn fwy deniadol.
Crëwyd llwybr pren 140 metr at draeth Talacre dan oruchwyliaeth un o dîm ceidwaid yr arfordir gan ddefnyddio arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF). Roedd yr hen lwybr mewn cyflwr gwael a bydd mynediad i’r traeth yn llawer diogelach ar hyd y llwybr pren newydd.
Promenâd newydd ar draeth Talacre, Sir y Fflint.
Man arall yn Sir y Fflint a gafodd ei wella yw maes parcio Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru yn Shotton, gyferbyn â Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol poblogaidd Rhif 5.
Gosodwyd rhwystrau uchder i atal cerbydau mawr rhag cael mynediad a gorlenwi’r maes parcio. Hefyd, caed gwared o ordyfiant planhigion er mwyn agor yr ardal ac ehangu’r ddarpariaeth bresennol.
Gwnaed y safle’n fwy diogel rhag drwgweithredwyr, a hwyluso mynediad drwy osod bolardiau mileniwm a chreu wyneb esmwythach a mwy gwastad.
Yn Saltney, cafodd llecynnau gwyrdd eu gwella gyda chymorth un o geidwaid parc yr arfordir. Roedd y gwaith yn cynnwys plannu, bondocio (coppicing) a chreu mwy na 140 metr o wrych traddodiadol i annog rhagor o fioamrywiaeth.
Promenâd newydd ar draeth Talacre, Sir y Fflint.
Mae’r gwaith yma’n rhan o brosiect Longforest sy’n ymestyn o bont gerdded Higher Ferry Saltney at River Lane ar ochr ddeheuol Afon Dyfrdwy – gwaith sy’n cael ei gefnogi gan arian o gronfa ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru a thîm bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint.
Bu plant o Ysgol Gynradd Saltney Ferry yn helpu gyda’r gwelliant drwy blannu amrywiaeth o goed brodorol yn y gwrychoedd, fel celyn, cyll a masarn bach, ynghyd â hau hadau blodau gwyllt i greu dolydd a fydd yn blodeuo’n hardd yn y gwanwyn.
Meddai uwch geidwad arfordir Cyngor Sir y Fflint, Mike Taylor: “Mae cyfoethogi tirwedd naturiol Sir y Fflint er lles trigolion ac ymwelwyr yn un o flaenoriaethau’r cyngor, ac felly roedd yn braf cael cymorth y disgyblion ifanc i wella’r amgylchedd ar garreg eu drws.
“Drwy sicrhau mynediad hwylus at atyniadau fel hyn, a’u gwneud yn fwy deniadol, gobeithio y bydd rhagor o bobl yn cael eu denu i fwynhau’r awyr agored, er lles i’w hiechyd.
Promenâd newydd ar draeth Talacre, Sir y Fflint.
“Ac mae’r gwaith a wnaed wedi bod yn bwysig dros ben yn gwarchod a diogelu’r cynefinoedd cyfoethog yn aber Afon Dyfrdwy. Rydym yn ddiolchgar am gymorth allweddol cronfa UKSPF i’n helpu i wella atyniadau ein harfordir.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Diolch i UKSPF, mae ein tîm Cysylltu Arfordir a Chefn Gwlad yn llwyddo i adfywio llecynnau gwyrdd a’u gwneud yn fannau mwy pleserus. Bydd hyn yn sicr yn helpu i greu balchder yn ein bro a denu mwy o ymwelwyr i fwynhau ein harfordir”
Derbyniodd Cysylltu Arfordir a Chefn Gwlad ychydig dros £315,650 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.