Alert Section

Cronfa Allweddol Gymunedol

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Clybiau chwaraeon yn Sir y Fflint yn gwella eu darpariaeth i ddenu rhagor o ddefnyddwyr 

Cadwyn2June Lamb, Stuart Baker a Tony Hughes ynghyd ag aelodau eraill y clwb Margaret Hughes, Carol Ashdown, Lesley Smith, Colin Smith, Les Thompson a Ken Jones yng Nghlwb Bowlio Aston.

Mae dau glwb chwaraeon yn Sir y Fflint ymysg 14 menter gymdeithasol yn y sir sydd wedi gwella adnoddau allweddol er mwyn gwneud eu hunain yn fwy cynaliadwy a chynhwysol.

Llwyddodd Clwb Criced Yr Wyddgrug a Chlwb Bowlio Aston i wneud hynny gyda chymorth arian o Gronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint, a ddosberthir gan Gadwyn Clwyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC).

Mae’r clwb criced yn amcangyfrif ei fod bellach yn gollwng 2.098 tunnell yn llai o CO2 i’r amgylchedd ac yn arbed bron i £1,000 mewn costau trydan bob blwyddyn ar ôl gosod rhes o baneli solar ffotofoltaidd (PV) 11.7kW a system BESS 23.2kWh i storio ynni mewn batris.

Mae’r arian hefyd wedi galluogi’r clwb criced i osod stribed 30 metr o wyneb astro bob tywydd gan greu lle chwarae a fydd yn helpu datblygiad 25 aelod eu tîm merched, a’u timau iau, yn cynnwys eu grŵp Allstars i blant pump i wyth oed.

Gwnaed yr holl welliannau gyda chymorth grant ariannol o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF). Defnyddir y gronfa hon i wella gwasanaethau cyhoeddus er mwyn meithrin balchder lleol a’r ymdeimlad o berthyn ym mhob rhan o Sir y Fflint.

Meddai cadeirydd Clwb Criced Yr Wyddgrug:” Rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth a gawsom i wella ein cyfleusterau. Rwy’n hyderus y bydd y wyneb bob tywydd newydd yn annog rhagor o ferched a phobl ifanc i ymuno â’n gwahanol dimau.

“Bu’r gronfa o gymorth allweddol inni wneud ein hunain yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir trwy leihau ein costau trydan blynyddol a defnyddio ynni glân o ffynhonnell adnewyddadwy. Mae hynny’n ffantastig.”

Yn yr un modd, mae Clwb Bowlio Aston wedi defnyddio eu grant hwy i osod wyth o lifoleuadau newydd o amgylch eu grîn i ddenu a chadw rhagor o fowlwyr ifanc.

Cadwyn1(O'r chwith i'r dde) Laura Font; Pauline Grant; Joseff Roberts; George Godwin; Dan Jones; Sandra Font yng Nghlwb Criced yr Wyddgrug.
Mae gan y clwb tua 95 aelod ond mae eu hoedran yn heneiddio. Bydd y llifoleuadau newydd yn galluogi pobl sy’n gweithio yn ystod y dydd i gymryd rhan mewn gemau fin nos, drwy ymestyn y cyfnod chwarae wedi i’r haul fachlud.
Meddai Tony Hughes, aelod o bwyllgor Clwb Bowlio Aston: “Roedd diffyg golau da yn rhwystr pendant i aelodau ifanc fwynhau bowlio fin nos – her y buom yn awyddus i’w datrys ers peth amser. Diolch i’r gwelliant hwn, bydd dyfodol y clwb yn llawer diogelach.
“Mae pawb wrth eu bodd gyda’r goleuadau newydd ac roedd yr holl broses o’u gosod yn esmwyth dros ben. Aeth Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint â ni’n ofalus a chefnogol drwy’r gwahanol bosibiliadau ac rydym wedi’n plesio’n fawr gan y canlyniad.”
Ger y llifoleuadau newydd, penodwyd elusen leol y Veterans & Community Hub CIC i gwblhau’r gwaith tirlunio, yn cynnwys plannu gwrychoedd er mwyn cynyddu apêl a bioamrywiaeth y safle.
Meddai swyddog mentrau cymunedol Cadwyn Clwyd, Helen Williams: “Gwyddom mor bwysig yw galluogi grwpiau lleol i newid pethau er gwell yn eu hardal hwy. Mae llawer iawn o fywydau wedi cael eu trawsnewid gan adnoddau gwell a ddarparwyd gyda chefnogaeth grant UKSPF.
“O elusennau i fudiadau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a chynghorau tref, rydym yn falch iawn o lwyddiant Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint i drawsnewid cymaint o fannau oedd angen sylw ar draws y sir.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Mae Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint wedi galluogi Clwb Criced Yr Wyddgrug a Chlwb Bowlio Aston i gynnig adnoddau diogel a modern a fydd yn annog rhagor o drigolion y sir i gymryd rhan mewn chwaraeon, bod yn actif a gwneud ffrindiau newydd.”
Derbyniodd Cronfa Allweddol Gymunedol Sir y Fflint £463,393 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.