Alert Section

Cronfa Sir y Fflint

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cymorth gwerthfawr i fusnesau a sefydliadau Sir y Fflint symud tuag at sero net

AnturCymru4
Cyfarwyddwr Grŵp Farrall, Laura Farrall, y gweithwyr Liam Hughes a Craig Taylor, a'r rheolwr gyfarwyddwr Matthew Farrall.

O wneud y defnydd gorau o egni’r haul i osod bylbiau ynni effeithlon, mae cwmnïau a sefydliadau cymunedol yn Sir y Fflint yn gweithio’n galed i gyrraedd sero net.

I’w cefnogi ar y daith honno mae ‘Cronfa Sir y Fflint / Flintshire Fund’, sy’n cael ei gweinyddu gan fenter gymdeithasol Antur Cymru gyda grant o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF), wedi helpu bron i ddeuddeg busnes neu sefydliad i gyflwyno mesurau carbon isel allweddol er mwyn gwella eu perfformiad.

Adeiladwyd ar gefnogaeth flaenorol gan Antur Cymru o’r ‘Gronfa Dichonoldeb Lleihau Carbon / Carbon Reduction Feasability Fund’ i helpu cwmnïau a sefydliadau i adnabod lle a sut i leihau eu hallyriadau carbon.

Un lle a fanteisiodd ar y cymorth diweddaraf yw Canolfan Chwaraeon Cambrian Aquatic yng Nghei Connah, gyda’r nod o fod yn un o byllau nofio sero net cyntaf y Deyrnas Unedig.

Mae’r cwmni buddiant cymunedol (CIC), sy’n cynnig gwersi nofio i oedolion a phlant, wedi gosod haen insiwleiddio allyriant isel Low E ar 60 o ffenestri gwydr sengl y ganolfan chwaraeon.

AnturCymru1
Contractwyr yn gosod y ffilm inswleiddio Low-E ar draws 60 o'r ffenestri gwydr sengl yng Nghanolfan Chwaraeon Dyfrol Cambrian, Cei Connah.

Bydd yr haen Low E yn lleihau tua 10% ar gostau ynni trwy ostwng llygredd thermal yn sgil colli llai o wres yn y gaeaf ac amsugno mwy o wres yr haul yn yr haf.

Meddai rheolwr Canolfan Chwaraeon Cambrian Aquatic, Sue Banks: “Roedd ein costau cynhesu wedi treblu, ac wedi dringo i tua £11,000 bob mis. Mae costau o’r maint hwnnw yn anghynaladwy yn tymor hir, yn arbennig i sefydliad nid-er-elw fel ni.

“Felly, rydym yn ddiolchgar dros ben i Gronfa Sir y Fflint am ein galluogi i brynu’r haen insiwleiddio Low E. Gwnaiff yr insiwleiddiad wahaniaeth mawr drwy ein helpu i gadw’r tymheredd cywir yn ein dau bwll nofio ac osgoi niwed i’r amgylchedd.”

Mae’r haen Low E yn ychwanegol i fesurau oedd eisoes ar waith yn y Ganolfan – sef paneli solar newydd a thri pwmp sugno gwres o’r aer er mwyn lleihau dibyniaeth ar y grid cenedlaethol am drydan a gwres.

Lle arall sydd wedi derbyn grant o Gronfa Sir y Fflint, gyda chefnogaeth arian UKSPF, yw cwmni trafnidiaeth a logisteg Grŵp Farrall. Maent hwy’n defnyddio’r arian i gyflymu eu hymdrechion i leihau eu defnydd o garbon.

AnturCymru3Rheolwr gyfarwyddwr Grŵp Farrall, Matthew Farrall, gydag un o'r gwefrwyr cerbydau trydan newydd.

Gyda bron i 10% o fflyd gerbydau’r cwmni yn rhedeg ar drydan, gall y busnes teuluol hwn leihau ei allyriadau carbon hyd at 108,000kgs y flwyddyn. I’w helpu i gyrraedd y ffigwr hwnnw, gosodwyd dau bwynt gwefru newydd i egnïo cerbydau trydan (EV).

Mae’r rhain yn cael eu hynni o system solar 520kWh sydd eisoes ar waith ym mhencadlys y cwmni ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Rŵan gall lorïau a cherbydau staff fanteisio ar y ffynhonnell ychwanegol hon o ynni glân.

Meddai rheolwr gyfarwyddwr Grŵp Farrall: “Mae grantiau fel yr un a gafwyd o Gronfa Sir y Fflint wedi caniatáu inni arwain y ffordd tuag at sero net o fewn y diwydiant trafnidiaeth a logisteg. Rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth a gawsom.

“O safbwynt busnes, bydd yr offer gwefru newydd yn ein helpu i leihau ein hallyriadau cwmpas tri (scope three) drwy ei gwneud yn haws i staff newid i gerbydau trydan. Yn awr  gallant bweru eu ceir ar y safle heb unrhyw gost ychwanegol.

“Bu’r grant o gymorth mawr i weithredu’r awgrymiadau a wnaed yn yr Adroddiad Dichonolrwydd Lleihau Carbon, a bydd yn caniatáu inni fuddsoddi mewn technolegau gwyrdd eraill fel system batris storio ynni (BESS) a superchargers EV.”

AnturCymru2 Contractwyr yn gosod y ffilm inswleiddio Low-E ar draws 60 o'r ffenestri gwydr sengl yng Nghanolfan Chwaraeon Dyfrol Cambrian, Cei Connah.

Adleisir y ganmoliaeth gan Cathy Martin, rheolwr Cronfa Sir y Fflint Antur Cymru. Mae Cronfa Sir y Fflint yn cynnig cefnogaeth gwerth hyd at £10,000 i alluogi cwmnïau a sefydliadau i gymryd y camau nesaf ar eu taith eco-gyfeillgar.

Meddai Cathy: “Mae’n braf gweld cymaint o gwmnïau’n defnyddio’r arian hwn i wireddu eu dymuniad i leihau eu defnydd o garbon. Bu’r grantiau o gymorth allweddol.

“Diolch i gefnogaeth UKSPF, bydd pawb a gefnogwyd gan y rhaglen hefyd yn derbyn synwyryddion monitro SMART i dracio cyfanswm eu defnydd ynni, adnabod lle gallant ddefnyddio llai ohono, arbed cost iddyn nhw eu hunain a helpu’r blaned.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Gyda Senedd Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gosod targed o gyrraedd sero net erbyn 2050, mae’n braf gweld busnesau a sefydliadau yn manteisio ar gefnogaeth ymarferol Cronfa Sir y Fflint i fod yn fwy cynaliadwy.”

Derbyniodd Cronfa Sir y Fflint Antur Cymru £173,679  o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.