Pobl ifanc Sir y Fflint, sy’n wynebu risg, yn dysgu sgiliau adeiladu mewn gwersi ymarferol
(O'r chwith i'r dde) Dan Larkin, rheolwr prosiect LEAP; Gareth Hywel, Pennaeth Plas Derwen; y myfyrwyr Kayden McDermott a Kyle Edwards a Gareth Edwards, Tiwtor DT Plas Derwen.
Yn hytrach na chyflwyno gwersi traddodiadol yn y dosbarth, mae uned cyfeirio disgyblion yn Sir y Fflint yn dysgu sgiliau adeiladu mewn gwersi ymarferol i’w phobl ifanc, i’w paratoi ar gyfer gwaith yn un o sectorau mwyaf y Deyrnas Unedig.
Ers penodi Gareth Edwards yn diwtor newydd dylunio a thechnoleg ym Mhlas Derwen, mae dysgwyr ifanc yr ysgol ar Lannau Dyfrdwy yn datblygu sgiliau gwaith coed, gosod brics, plastro a gosod teils mewn gweithdy pwrpasol yn y ganolfan addysg arbennig.
Crëwyd yr uned ar gyfer disgyblion cyfnodau allweddol dau i bedwar gan raglen LEAP (learn, explore, achieve, perfformi) Cyngor Sir y Fflint. Gwnaed hynny gyda chefnogaeth arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSFP).
Trefnir y sesiynau ymarferol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y nod yw lleihau’r nifer o bobl ifanc dan 16 oed nad ydynt yn mynychu addysg, gwaith na hyfforddiant pan fyddant yn hŷn drwy roi sgiliau addas iddynt i gael gwaith yn y diwydiant adeiladu.
Mae’r ddarpariaeth amgen ym Mhlas Derwen hefyd yn ceisio cryfhau cysylltiadau â busnesau lleol drwy greu ffyrdd i bobl ifanc gael mewn i’r sector hwn drwy brofiad gwaith a phrentisiaethau.
Er enghraifft, mae cwmni MPH Construction Ltd o’r Wyddgrug yn trefnu ymweliad dan oruchwyliaeth i bobl ifanc o’r uned ag un o’u safleoedd gwaith ym Mrymbo.
(O'r chwith i'r dde) myfyrwraig ym Mhlas Derwen, Kayden McDermott, Dan Larkin, rheolwr prosiect LEAP; Gareth Edwards, Tiwtor DT Plas Derwen; Myfyriwr Kyle Edwards a Gareth Hywel, prifathro Plas Derwen
Un sy’n cael budd o’r trefniant yw Kyle Edwards, 15 oed - hogyn o Sir y Fflint syn awyddus i wella ei sgiliau drwy ddilyn cwrs lefel un mewn gosod brics yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy.
Meddai: “Mae’n llawer gwell gen i ddysgu drwy wneud pethau ymarferol ac mae gwneud gwaith coed a gosod brics yn fy siwtio i yn llawer gwell nag astudio mewn stafell ddosbarth.
“Mae fy hoff sesiynau’n cael eu cynnal yn y gweithdy gyda’n tiwtor dylunio a thechnoleg. Eisoes cefais gyfle i lunio bwrdd darts allan o goed, bocs dal tŵls a ffrâm dal ffotograffau.
“Yn y dyfodol, hoffwn weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae gen i nifer o gefndryd eisoes yn y maes hwnnw, a byddai’n cŵl i minnau gael gwneud yr un peth.”
Cynhelir y gwersi dan do ym misoedd y gaeaf, gyda’r disgyblion yn defnyddio offer pwrpasol fel torwyr laser a driliau compact i gyfoethogi eu set o sgiliau.
Meddai rheolwr prosiect LEAP, Dan Larkin: “Drwy dderbyn math gwahanol o gwricwlwm ym Mhlas Derwen, mae ein pobl ifanc yn cael eu paratoi’n well ar gyfer byd gwaith, sy’n wych o beth.
(O'r chwith i'r dde) Dan Larkin, rheolwr prosiect LEAP; Gareth Hywel, Pennaeth Plas Derwen; y myfyrwyr Kayden McDermott a Kyle Edwards a Gareth Edwards, Tiwtor DT Plas Derwen.
“Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffwn weld rhagor o gwmnïau adeiladu Sir y Fflint yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc weld eu mannau gwaith, neu dreulio cyfnod gyda nhw ar leoliad gwaith. Byddai hynny’n eu helpu i ddeall yn well y math o gyfleoedd sydd ar gael yn y sector hwn.”
Meddai Gareth: “Mae dosbarthiadau fel y rhain mae pobl ifanc yn dysgu sut i weithio fel tîm, a datblygu eu hyder yn gyflym mewn awyrgylch tebyg i’r byd go iawn ar safle adeiladu.
“Yn y gorffennol bum yn gweithio o fewn y drefn cyfiawnder ieuenctid ac mae’n braf treulio amser unwaith eto gyda phobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Rwy’n ffyddiog fod ein gwersi’n chwarae rhan allweddol yn eu paratoi ar gyfer eu dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Mae’n gyfle cyffrous i ddysgu sgiliau mewn ffordd greadigol i bobl ifanc o Sir y Fflint sy’n wynebu risg. Gobeithio y bydd holl ddysgwyr Plas Derwen yn elwa o’r ddarpariaeth.
“Mae’r gwersi a roddir yn yr uned awyr agored hon yn enghraifft o etifeddiaeth hir dymor y cynllun UKSPF, drwy dalu am adnodd a fydd yn gwasanaethu’r ardal am flynyddoedd i ddod.”
Derbyniodd y rhaglen ‘LEAP’ ychydig dros £336,000 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am flwyddyn barhad 2025/26.