Alert Section

Sidestep

Funded by UK Government / Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Llanc ifanc o Sir y Fflint yn rhoi heibio torcyfraith ac adeiladu dyfodol newydd iddo’i hun, gyda chymorth rhaglen allweddol

Sidestep1

Mae llanc ifanc yn ei arddegau o Sir y Fflint wedi ailafael yn ei addysg a pharhau i weithio yn ei swydd ran amser, diolch i gymorth allweddol gan un o raglenni’r llywodraeth.

Roedd y bachgen 17 oed, na chaiff ei enwi am resymau diogelwch, yn meddwl ei fod yn helpu ffrind agos drwy dalu dyled y person hwnnw am gyffuriau. Ond cafodd ei sugno mewn i fyd gwerthu sylweddau anghyfreithlon.

Gwyddai mor niweidiol oedd ei ffordd newydd o fyw, a cheisiodd ddianc o’r math hwn o fywyd. Ond roedd ei ddeliwr cyffuriau yn ei fygwth a’i boenydio’n gyson yn ei goleg ac yn ei waith.

Bu’r llanc ifanc yn ddigon dewr i geisio cymorth yr heddlu ac fe’i cyfeiriwyd at Action for Children, a fu’n cydweithio’n agos â’i gyflogwr a’i diwtoriaid i roi mesurau diogelwch allweddol ar waith.

Rhoddwyd y gefnogaeth fel rhan o raglen Gweithredu dros blant, sy’n cael ei harwain gan Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, a’i hariannu yn 2025/26 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Nod y prosiect yw creu cymdogaethau mwy diogel a helpu pobl ifanc 11-18 oed i beidio troseddu drwy gynnig cymorth teuluol, mentora gan gyfoedion, gweithgareddau grŵp a chymorth un-i-un pwrpasol.

Roedd y llanc ifanc ar un adeg bron â gadael ei gwrs peirianneg mecanyddol, ond bellach mae ei fywyd yn ôl ar y llwybr cywir. Mae’n paratoi’n frwdfrydig ar gyfer ei ddyfodol ac yn gobeithio ennill prentisiaeth.

Meddai: “Ar ôl cael fy mygwth a’m brawychu, bum yn astudio mathemateg a Saesneg ar lein yn unig. Heb y gefnogaeth a gefais, ni allwn fod wedi dychwelyd i gael gwersi wyneb yn wyneb mewn dosbarth.

“Aeth Gweithredu dros Blant â fi i gyfarfodydd pwysig gyda’r coleg a thalu am ddillad ac offer angenrheidiol i ddilyn y cwrs, yn cynnwys trowsus ac esgidiau gwaith. Bu’r gefnogaeth yn sbardun imi gario mlaen gyda fy addysg.

“O ran fy nghadw i’n ddiogel yn y gwaith, siaradodd y rhaglen gyda fy nghyflogwr fel nad wyf wrth y cownter blaen fin nos, ac rwy’n treulio amserau egwyl gyda fy nghydweithwyr pryd bynnag y bo modd. Mae hynny’n wych.

 

Sidestep2

“Dwi wedi prynu car yn ddiweddar, ac yn gobeithio dechrau gwersi gyrru a chael trwydded yrru yn fuan. Bydd hynny’n agor y drws i gyfleoedd newydd i mi o ran gwaith a phrentisiaethau.”

Un a chwaraeodd ran allweddol yn helpu’r person ifanc o Sir y Fflint i dorri pob cysylltiad a thorcyfraith yw cefnogwr pobl ifanc Action for Children, person na ellir ei enwi am resymau diogelu.

Meddai’r llanc 17 oed am gefnogwr Action for Children: “Rwy’n ddiolchgar i’r person hwn am ddod efo fi i gyfarfodydd allweddol a’m helpu i fynd nôl i’r coleg.”

Mae’r cynllun Gweithredu dros blant yn gwneud gwaith allweddol yn helpu unigolion a gafodd eu hadnabod gan yr heddlu i ailgysylltu â byd addysg, cael gwaith sefydlog a byw bywyd iachach.

Meddai cefnogwr y llanc ifanc: “O gofio lle’r oedd pan ddaeth atom gyntaf, mae’n rhyfeddol gweld sut y newidiodd i fod yn berson cwbl wahanol.

“Bu’n fraint cael ei helpu i adeiladu ei sgiliau bywyd drwy sgwrsio’n anffurfiol am bethau fel sut i drin arian yn ddoeth, a’i helpu gyda’i geisiadau i ddilyn prentisiaeth wrth iddo ystyried beth i’w wneud nesaf ar ôl gadael y coleg.

“Bu’n agored a pharod iawn i ymateb i’n hawgrymiadau, ac rwy’n falch iawn o’r cynnydd a wnaeth.

“Dwi hefyd yn ddiolchgar i UKSPF am ein galluogi i gynnig cefnogaeth allweddol i bobl ifanc ym mhob rhan o Sir y Fflint. Gobeithio y bydd ein gwaith yn parhau i drawsnewid bywydau er gwell.”

Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Dyma enghraifft ragorol o’r gwahaniaeth a wnaeth Action for Children, diolch i gefnogaeth UKSPF.

“Edrychaf ymlaen at glywed rhagor o straeon am lwyddiannau’r cynllun ac rwy’n llongyfarch y llanc ifanc hwn am ei barodrwydd i dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol.”

Derbyniodd Gweithredu dros Blant £151,208 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig (UKSPF) am y flwyddyn 2025/26.