Disgyblion ysgol yn Sir y Fflint yn gwneud eu tref yn lle brafiach i fyw
Aelodau pwyllgor eco Ysgol Treffynnon yn dyfrio'r planwyr newydd.
Mae disgyblion Ysgol Treffynnon yn Sir y Fflint wedi chwarae rhan allweddol yn gwneud y dref yn lle brafiach i fyw – gan ddechrau ar dir yr ysgol ei hun.
Cafodd plaza’r ysgol uwchradd - ardal sy’n cael ei rhannu ag ysgol gynradd Maes Y Felin – ei thrawsnewid gyda chefnogaeth Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint (Town Centre Investment Programme TICP) a weinyddir gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint.
Derbyniodd y cynllun arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF) i brynu pump plannwr mawr lliwgar ac amrywiaeth o blanhigion i greu llecyn pleserus a deniadol.
Pwyllgor Eco’r ysgol – tua dwsin o ddisgyblion blynyddoedd naw a deg – a ddewisodd y planhigion, sef amrywiaeth o blanhigion bythwyrdd a bylbiau gyda’r nod o hyrwyddo bioamrywiaeth.
Gydag arian y cynllun hefyd, prynwyd dwy ffrâm oer bren i reoli tymheredd, pridd, hadau, llysiau a pherlysiau, yn cynnwys rhosmari, saets, mintys, tomatos, cêl a sbigoglys.
Caiff y cynnyrch ei ddefnyddio gan y disgyblion mewn gwersi technoleg bwyd, a’i reoli gan aelodau’r pwyllgor eco. Ac mae gosod tap dŵr newydd tu allan yn golygu mynediad hwylus at ddŵr glân i ddyfrio’r planhigion.
Mae mesurau eraill i ddatblygu’r ardal awyr agored wedi cynnwys newid y system ddraenio a chael gwared o weddillion gwreiddiau pump o goed i wneud y tir yn fwy gwastad rhag i bobl faglu.
Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes Y Felin plaza.
YMeddai rheolydd busnes Ysgol Treffynnon Gemma Boniface: “Heb gefnogaeth arian UKSPF a Chyngor Sir y Fflint, ni fyddem wedi gallu fforddio gwneud y newidiadau hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am bob dim a gafwyd.
“Mae’n hyfryd gweld ein pobl ifanc yn torchi llewys, cael y profiad ymarferol o adeiladu’r fframiau oer eu hunain a dysgu pa blanhigion fyddai orau ar gyfer y planwyr mawr yn y plaza.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i’n athro bywydeg, Mr Matthew Warwick, am lywio gwaith y pwyllgor eco, trefnu cyfarfodydd y grŵp, ac am yr holl bethau gwych a wnaethant.”
Yn ogystal â gwella tir yr ysgol, cysylltodd y pwyllgor eco ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Thîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint er mwyn gwella’r ffawna a fflora ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas – prosiect a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Grŵp Trawsnewid Treffynnon a’r Cylch.
Wedi ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur (Local Places for Nature) ac UKSPF, bu pobl ifanc yn eu harddegau, Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir y Fflint a gwirfoddolwyr o’r Grŵp Trawsnewid yn taenu tomwellt (mulch) ar tua 70m2 o bridd wyneb.
Y nod yw cadw lleithder y pridd, rheoli ei dymheredd, atal chwyn rhag tyfu, ychwanegu maetholion a chreu amodau addas i blanhigion dyfu.
I gael persbectif pobl ifanc, gwahoddwyd y tîm hefyd i fynegi barn am y meinciau awyr agored newydd a brynwyd, sy’n ymgorffori gemau fel gwyddbwyll a snakes and ladders at ddefnydd y cyhoedd.
Aelodau pwyllgor eco Ysgol Treffynnon yn dyfrio'r planwyr newydd.
Wedi eu datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Tref Treffynnon, mae’r adnoddau’n rhan o Lwybr Treftadaeth Treffynnon sy’n cysylltu Dyffryn Maes Glas a Pharc y Fron gyda chanol hanesyddol y dref gyda’r nod o annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro o amgylch yr ardal.
Meddai swyddog datblygu prosiectau Cyngor Sir y Fflint Emily Warren: “Roedd yn braf gweld cymaint o bobl ifanc Ysgol Treffynnon yn ymuno’n frwdfrydig yn y gwaith o wella ardaloedd gwyrdd ym mhob rhan o Dreffynnon, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr Grŵp Trawsnewid Treffynnon a’r Cylch a cherddwyr Holywell Ramblers.
“Fel rhan o’n buddsoddiad mewn ardaloedd gwyrdd, gan gydweithio â phartneriaid yn y gymuned, gobeithiwn ail greu’r ymdeimlad cymunedol, meithrin balchder yn y dref a chodi ei phroffil i’r dyfodol drwy greu seilwaith bywiocach.”
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr amgylchedd, adfywio, cefn gwlad a thwristiaeth: “Mae’n hanfodol buddsoddi mewn ardaloedd gwyrdd ar draws y gymuned gyfan, ac mae’n ardderchog gallu cynnig i’n pobl ifanc y siawns i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon at y gwelliannau hyn.
“Mae’r Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref yn galluogi gwelliannau allweddol ac ar un pryd yn arf addysgiadol i’r rhai sy’n awyddus i fwynhau’r awyr agored a gwneud gwahaniaeth.”
Derbyniodd y Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref (TCIP) bron i £571,000 o gyfran Cyngor Sir y Fflint o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF).