Cronfa allweddol yn cefnogi ffyniant mudiadau, pobl a chymunedau Sir y Fflint
Ben Clarke sydd wedi cwblhau lleoliad gwaith yng Nghymdeithas Tai Clwyd Alyn i'w weld yma gyda Laura Columbine (chwith), Gwneuthurwr Cymunedol Sir y Fflint, a Kathryn McDermott (dde) Swyddog Rheoli Asedau Clwyd Alyn.
Mae rhaglen werth miliynau o bunnoedd, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi bod o gymorth mawr i drigolion Sir y Fflint trwy gynyddu sgiliau cymunedol, gwella adnoddau lleol a gwneud busnesau’n fwy cynhyrchiol.
Ar ôl derbyn mwyn na £12.4m o Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF), cefnogodd Cyngor Sir y Fflint 26 o brosiectau gyda’r bwriad o wella siawns pobl o gael gwaith cyflogedig, hybu twf busnesau ac uwchraddio adnoddau allweddol.
Gwariwyd yr arian dros y cyfnod 2022-2025 o fewn tair prif thema: cymunedau a lle, pobl a sgiliau a chefnogi busnesau lleol.
Gwnaed hynny ochr yn ochr â ‘Lluosi / Multiply’, sef rhaglen i gynyddu sgiliau rhifedd oedolion. Diolch i’r buddsoddiad, mae bron i 15,000 o bobl bellach yn meddwl ym fwy cadarnhaol am eu hadnoddau lleol fel clybiau cymdeithasol a hybiau cymunedol, a 6,073 yn rhagor o drigolion y sir yn defnyddio’r cyfleusterau hynny.
Graham Wilson (chwith), Cyfarwyddwr Dylunio Datrysiadau Dylunio, a Matt Groves (dde), Peiriannydd Ymchwil Gweithgynhyrchu AMRC Cymru, gyda'r mwgwd anadlol ar gyfer cŵn milwrol y helpodd ADAPTS i'w gynhyrchu.
Manteisiodd canol trefi ar draws Sir y Fflint o’r Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref / Town Centre Investment Programme. Cafodd 13 eiddo masnachol eu hailddatblygu a 48 digwyddiad neu weithgaredd eu trefnu a’u cefnogi’n ariannol.
Rhoddwyd cyngor buddiol i fwy na 50 o fusnesau ac fe gafodd amgylchedd llawer man ei wella. Ymhlith prosiectau eraill Cyngor Sir y Fflint a gynyddodd hyder a sgiliau pobl ifanc ac oedolion yr oedd Cryfder Mewn Rhifau / Strength in Numbers, LEAP (Learn, Explore, Achieve, Perform) a phrosiect Llenwi Bylchau Pobl Ifanc y mudiad WeMindTheGap.
Trwy gyfrwng y cynlluniau hyn llwyddodd 1,709 i ennill cymhwyster a 2,693 arall i symud ymlaen gyda’u haddysg a hyfforddiant gan cynyddu eu siawns o gael gwaith cyflogedig.
Rhoddwyd cefnogaeth i 1,383 o gwmnïau Sir y Fflint, gyda 429 busnes yn mabwysiadu technolegau a/neu brosesau arloesol newydd. Datblygwyd 203 o systemau datgarboneiddio gan gefnogi targed sero net Cymru erbyn 2050.
Gordon Elliot, perchennog ac optometrydd yn Optegwyr Roberts a Polson, Y Fflint, gyda Rheolwr y Practis, Sue Polson.
Un busnes a helpwyd yw ymgynghoriaeth Dylunio Solutions. Cawsant hwy fainc waith glyfar i gyflymu’r broses o ddylunio a datblygu system anadlu ar gyfer cŵn militaraidd, diolch i raglen AMRC Cymru o’r enw ADAPTS (Accelerating Decarbonisation and Productivity Technology and Skills), sy’n cael ei hariannu gan UKSPF.
Yn ogystal â chefnogi busnesau, roedd cynyddu sgiliau rhifedd oedolion yn ffocws pendant o fewn y sir. Bu 1,513 o bobl yn dilyn cyrsiau ac ennill cymwysterau o fewn y rhaglen Lluosi / Multiply.
Meddai’r Cynghorydd Chris Dolphin, aelod cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr economi, yr amgylchedd a hinsawdd: ”O gynyddu’r defnydd o adnoddau cymunedol, i fabwysiadu technolegau gwyrdd, gwelir effaith gadarnhaol UKSPF yn glir ym mhob rhan o Sir y Fflint.
“Diolch i gefnogaeth ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r sir mewn lle da i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol. Gobeithio y caiff effaith gadarnhaol ar economi Sir y Fflint a chynyddu balchder trigolion y sir yn eu hardal leol.”