Rheoli plâu
Caiff y cyfan o’n gwaith ei wneud ynglŷn ag iechyd a diogelwch a diogelu anifeiliaid nad ydynt yn darged.
Defnyddiwn blaleiddiaid, trapiau, a mesurau ataliol i sicrhau bod y plâu’n cael eu canfod a’u cywiro mor gyflym a thrugarog â phosib. Byddwn yn eich cyflenwi â gwybodaeth am y dulliau gorau o atal y plâu rhag dychwelyd hefyd.
Byddwn yn trin ar gyfer y canlynol:
- Llygod mawr
Fe wnawn ni drin y tu mewn neu’r tu allan.
Mae baw llygod mawr yn ddu/frown tywyll ei liw ac yn tua ½ modfedd o hyd. 
- Llygod
Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb.
Mae baw llygod yn tueddu i edrych yn debyg i ronynnau du o reis. 
- Chwain
Os ydych yn cael eich brathu o gwmpas gwaelod eich coes a’ch fferau a bod gennych gathod/gŵn yn eich cartref yna fe allech fod â phla o Chwain, y peth cyntaf i’w wneud ydi cael yr anifail anwes wedi’i drin gan filfeddyg am chwain, yna cysylltu â ni i drefnu i Swyddog drin y tŷ os bydd angen. Bydd mwy o gyngor yn cael ei roi pan wnewch chi’r alwad.  Codir tâl am y driniaeth ar bawb gan fod modd osgoi chwain anifeiliaid anwes trwy fod yn berchen cyfrifol ar anifail anwes h.y. cael trin yr anifail anwes rhag chwain yn rheolaidd gan filfeddyg / y perchennog. 
- Wasp
Byddwn ond yn trin y tu allan (gan gynnwys adeiladau allanol).  Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu . Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati. 
- Morgrug ymlusgol
Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb.  Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu. Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati. 
Nid ydym yn trin ar gyfer y canlynol:
- Ystlumod 
Mae’r rhain wedi’u gwarchod, cysylltwch â Chyngor Cefn Gwlad Cymru 01248 385500 am gyngor 
- Gwenyn
Efallai y bydd gwenynwr lleol yn gallu helpu er efallai y bydd yn codi tâl (gweler Yellow Pages). 
- Llwynogod 
Ewch i RHS website am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i ddelio â llwynogod yn eich gardd. 
Gallech gyfeirio at Yellow Pages i gael rheolwr plâu preifat ar gyfer y canlynol
- Pycs
 
- Tyrchod
 
- Morgrug hedegog
 
- Pryfed heidiog
 
- Gwiwerod
 
- Adar
 
- Pryf pren
 
- Chwilod
 
 
- Cacwn meirch
 
- Psosidiaid
 
- Gwiddon
 
- Pryfed arian
 
- Gwyfynod
 
- Euddon
 
- Llwynogod
 
- Cwningod
 
 
 
Ffioedd A Taliad
Codir tâl am rai triniaethau fel y nodir uchod. Gallwch dalu'r gweithiwr pan fydd yn ymweld i roi triniaeth. Rydym yn croesawu taliad gyda siec (yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'), arian parod a'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd. Neu gallwn anfon anfoneb atoch (codir tâl ychwanegol am anfonebu).
| Aelwyd Breifat | 
| Gwasanaeth | Ffi | TAW | Gyfan | 
| 
 Llygod Mawr a Llygod  
 | 
£62.79 | 
£12.56 | 
£75.35 | 
| 
 Chwain 
 | 
£65.65 | 
£13.13 | 
£78.78 | 
| 
 Wasp 
 | 
£57.08 | 
£11.42 | 
£68.50 | 
| 
 Morgrug ymlusgol 
 | 
£51.38 | 
£10.28 | 
£61.66 | 
| 
 Cacwn (cyngor yn unig) 
 | 
£37.11 | 
£7.42 | 
£44.53 | 
| 
 Galwad a Gollwyd / preswylydd ddim ar gael adeg apwyntiad 
 | 
£37.11 | 
£7.42 | 
£44.53 | 
| 
 Cyfradd Rhatach 
 | 
£36.15 | 
£7.23 | 
£43.38 | 
| Masnachol a Busnes | 
| Gwasanaeth | Ffi | Taw | Gyfan | 
| Llygod Mawr, Llygod, Wasps, Morgrug ymlusgol, Chwain  | 
£59.93 | 
£11.99 | 
£71.92 | 
| Contracts | 
Gan ddechrau o £48  | 
Rhestr o wasanaethau a chostau Rheoli Plâu o 1 Hydref 2024
 
Gofyn am Ymweliad / Cyngor Pellach
Ffurflen Rheoli Plâu - Ymholiad Cyffredinol
Neu cysylltwch â Gwarchod y Cyhoedd ar 01352 703440 a siarad â chynghorydd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd yr Adran Rheoli Plâu yn ceisio ymateb i geisiadau i drin plâu o fewn 3 diwrnod gwaith. Yn yr haf mae’n llwyth gwaith yn cynyddu’n fawr, felly ni allwn addo cwrdd â’r amseroedd ymateb uchod.