Coed a Choetir
Mae gan Sir y Fflint ardal dirwedd hynod o amrywiol yn amrywio o ddyffrynnoedd isel i lwyfandiroedd uchel agored sy’n cynnwys ardaloedd gwledig a diwydiannol. Mae Sir y Fflint yn cynnwys dynodiadau gwarchod natur rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae safleoedd wedi’u dynodi yn rhyngwladol yn y sir yn cynnwys: Aber yr Afon Dyfrdwy, yr Afon Dyfrdwy, safleoedd Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle, Mynydd Helygain a choedwig Dyffryn Alun. Mae gan y sir gyfanswm o dros 23 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dros 300 o safleoedd bywyd gwyllt a ddynodwyd yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys cynefinoedd sensitif gan gynnwys cors bori arfordirol ac ar orlifdir (5% o adnodd Cymru), Glaswelltir calchaidd iseldir (17% o adnodd Cymru), Morfa Heli (12% o adnodd Cymru), rhostir, corsleoedd, glaswelltir metelaidd, pyllau a thwyni tywod arfordirol. Yn ogystal, mae nifer o safleoedd a chynefinoedd heb eu dynodi sydd â gwerth gwarchod natur ac sy’n elfennau allweddol o ran bioamrywiaeth y Sir. Mae’r rhain yn cynnwys nentydd, perthi a choetiroedd, yn arbennig y rhai o darddiad lled naturiol hynafol. Mae ein cynefinoedd yn Sir y Fflint yn darparu ar gyfer rhywogaethau prin megis Madfallod y Twyni, llyffantod Cefnfelyn, Ystlumod, Pathewod, Dyfrgi, Madfallod Dŵr Cribog a miloedd o adar rhydiol ar aber Afon Dyfrdwy. Mae Sir y Fflint yn gadarnle ar gyfer y madfall ddŵr gribog. Mae pwysau datblygu cryf o amgylch safleoedd Madfall Ddŵr Gribog Ewropeaidd allweddol yn y Sir. Bydd dyfodol y rhywogaeth yn Sir y Fflint yn dibynnu ar gynnal cysylltiadau cynefinoedd drwy’r dirwedd sy’n datblygu, mae hyn hefyd yn hanfodol ar gyfer cynnal tirwedd ac ecosystemau a fydd yn gryf mewn hinsawdd sy’n newid.
Y Bartneriaeth Natur Leol
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r Bartneriaeth Natur leol (Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru). Ffurfiwyd Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Hydref 2009. Mae’n dod a phartneriaethau bioamrywiaeth lleol oedd yn bodoli yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam ynghyd. Mae’n cynnwys nifer o sefydliadau megis awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, a Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, RSPB, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, Cymdeithas Brydeinig saethu a chadwraeth, Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Sw Gaer, Grŵp Moch Daear Clwyd, Cadwch Gymru'n Daclus, Tir Gwyllt, busnesau Cofnod (Canolfan Gofnodion Amgylcheddol Gogledd Cymru) a chofnodwyr ac ymgynghorwyr annibynnol. Nod eang y rhwydwaith yw cadw, diogelu ac gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae cydweithio yn bwysig i’r bartneriaeth ynghyd ag amcanion eraill sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth ac annog bioamrywiaeth, a nodi blaenoriaethau lleol i fodloni targedau natur lleol. Dilynwch ni ar gyfer y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws gogledd ddwyrain Cymru.Retain facebook and twitter link
Facebook: www.facebook.com/NEWBioNet
Twitter: @newbionet
Cynlluniau, Polisïau a Deddfwriaethau:
Canllaw Cyngor Sir y Fflint ar ddyletswyddau
Deddf yr Amgylchedd Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint Adran 6 cynllun cyflawni dyletswydd bioamrywiaeth Polisi
Cynaliadwyedd Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Canllaw:
Nodyn cyfarwyddyd Cyngor Sir y Fflint ar adar sy’n nythu
Nodyn cyfarwyddyd Cyngor Sir y Fflint ar Rhywogaeth Mewnlifol nad ydynt yn Gynhenid
Taflen wybodaeth Gogledd Cymru ar rhywogaeth a warchodir a’r Gyfraith
Ardaloedd Blodau Gwyllt: Nodyn Cyfarwyddyd
Cymerwch ran:
- Cyfle i greu lloches ar gyfer bywyd gwyllt gyda’n pecyn garddio Bywyd Gwyllt
- Plannu ar gyfer peillwyr: Dywedwch wrthym am ardal leol yr hoffech gael ei hystyried i blannu ar gyfer peillwyr drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk Rhowch ‘peillwyr’ fel testun i’r neges.
- Cymerwch ran yn y drafodaeth am ddraenogod gydag Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau mewn Perygl a ‘hedgehog street’
- Darganfyddwch fwy am Dylluanod Gwynion a llenwch y ffurflen os hoffech gael eich ystyried am focs yn ein prosiect i osod bocsys ar draws y rhanbarth.
- Cofnodi’r natur rydych yn ei weld ar draws Gogledd Cymru gyda 'Cofnod’, canolfan cofnodi natur gogledd Cymru.
- Bydd ein llyfryn cyflwyniad i reoli perllannau yn rhoi’r hanfodion i gyd i chi er mwyn plannu a gofalu am eich perllan eich hun
- Cofrestru i wirfoddoli ar brosiectau cadwraeth gyda ni drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk Rhowch ‘gwirfoddoli’ fel testun i'r neges.
Dysgwch fwy am fioamrywiaeth yng Nghymru ar wefan Bioamrywiaeth Cymru
Ffôn: 01352 703263
E-bost: bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk