Alert Section

Blodau Cyffredin

Fe ddaw blodau gwyllt mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau ac maent yn gartref i nifer o'n rhywogaethau anhygoel yma yng Nghymru.

Mae’r blodau tal sy’n tyfu’n drwchus yn creu cynefin diogel sydd hefyd yn llawn paill, gan greu ffynhonnell hanfodol o fwyd i nifer o drychfilod ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n defnyddio’r man hwn fel eu cartref. Isod mae rhai blodau gwyllt cyffredin yr ydych yn debygol o’u gweld yn un o’n nifer o safleoedd yn Sir y Fflint… 

Milddail (Achillea millefolium)

Mae’r milddail, sy’n ymddangos o tua mis Mehefin, yn blanhigyn gwydn gyda dail gwyrdd tywyll a sypiau o flodau gwyn. Mae gan y blodau hyn ganol melyn a phetalau gwyn-binc ysgafn.

Mae yna fwy o wybodaeth am filddail ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare)

Yn blodeuo o fis Mehefin, mae gan y llygad llo mawr flodau mawr, crwn ar goesau tal. Mae ganddo ddail llydan ar y gwaelod a dail cul, miniog ar hyd y goes. Mae ganddo flodyn melyn a gwyn a melyn llachar sy’n ei wneud yn hawdd i’w adnabod.

Mae yna fwy o wybodaeth am flodau llygad-llo mawr ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Glas yr ŷd (Centaurea cyanus)

Mae yn ei flodau rhwng mis Mehefin ac Awst. Mae glas yr ŷd yn rhan o deulu llygad y dydd ac mae ganddo flodau glas trawiadol sydd mewn gwirionedd yn glwstwr o flodau llai. Mae’r blodigion allanol yn debyg i sêr, tra bod y rhai mewnol yn llai ac yn borfforaidd. Mae ei goesau a’i ddail yn finiog, yn aml gyda blagur tywyll ar y blaenau.

Mae yna fwy o wybodaeth am blanhigion penlas yr ŷd ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Y Bengaled (Centaurea nigra)

Yn blodeuo o fis Mehefin tan fis Medi, mae’r planhigyn hwn sydd fel ysgall yn ffynnu mewn ardaloedd glaswelltog amrywiol fel ymyl ffyrdd a choetiroedd. Mae’r blodyn gwyllt hwn yn cynnwys clystyrau o lawer o flodau mân a elwir yn flodigion, wedi eu hamgylchynu gan flodeulenni hir, pinc sy’n debyg i ddail.

Mae yna fwy o wybodaeth am blanhigion penlas yr ŷd ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Y Pabi (Papaver rhoeas)

Yn blodeuo o fis Mehefin tan fis Awst, mae’n hawdd adnabod y Pabi gyda’i ben blodyn mawr coch a gellir ei weld ar hyd ymylon ffyrdd a dolydd. 

Mae yna fwy o wybodaeth am babïau ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Crafanc brân y gweunydd (Ranunculus acris)

Mae yn ei flodau rhwng Ebrill a Hydref, a gellir dod o hyd iddo ar hyd a lled Cymru, yn arbennig mewn parciau a gerddi ac mae’n hawdd i’w adnabod gyda’i flodau melyn llachar a’i ddail crwn. 

Mae yna fwy o wybodaeth am flodau ymenyn ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt

Y Feddyges Las (Prunella vulgaris)

Yn ymddangos o fis Mehefin tan fis Hydref, gellir dod o hyd i’r perlysieuyn parhaol hwn mewn amgylcheddau o laswelltir a choetiroedd ac roedd yn cael ei ddefnyddio’n draddodiadol mewn meddyginiaeth lysieuol. Gellir ei adnabod drwy ei flodau porffor casgledig a gall dyfu i hyd at 20cm o uchder.

Mae yna fwy o wybodaeth am y feddyges las ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt