Alert Section

Cymorth gyda chasgliadau


Mae ein gwasanaeth wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy’n methu symud y bin ar olwynion yn gorfforol i ymyl y palmant i ni ei gasglu. Gallwn drefnu casgliad gyda chymorth dros dro, neu am y tymor hir yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Mae’r casgliadau hyn ond ar gael i drigolion sydd wir angen cymorth, a lle nad oes person iach o gorff ar gael i gynorthwyo i gyflwyno’r bin neu’r cynwysyddion ar ymyl y palmant i’w casglu.

Trefnu cymorth gyda chasgliadau

Canslo neu newid casgliad gyda chymorth presennol
Os yw eich amgylchiadau wedi newid, cysylltwch â Gwasanaethau Stryd, i ganslo neu ddiwygio’r cytundeb.
 
Os ydych yn symud i ffwrdd o’ch cyfeiriad presennol, gwnewch yn siŵr fod manylion eich cyfeiriad yn cael eu trosglwyddo i’r ganolfan alwadau ar 01352 701234 er mwyn cynorthwyo i atal y casgliadau gyda chymorth ar gyfer y cyfeiriad hwnnw a’u hailgyflwyno yn eich cyfeiriad newydd os oes angen.