Alert Section

Camdybiaethau Cyffredin


Bod Ailddefnyddio ac Ailgylchu yn golygu’r un peth

Mae Ailddefnyddio yn wahanol i ailgylchu ac yn y pen draw yn ddewis gwell.Mae’n golygu defnyddio rhywbeth unwaith eto ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol neu ar gyfer pwrpas gwahanol drwy ailddefnyddio creadigol neu ail-bwrpasu.

Mae Ailgylchu yn cynnwys proses ddiwydiannol i newid ei ffurf.  Dyma yw’r dewis gorau os nad yw ailddefnyddio’n bosib.

Bod Sir y Fflint yn casglu deunyddiau ailgylchu ac yna yn eu hanfon i safleoedd tirlenwi

Mae’r deunyddiau yr ydych chi’n eu rhoi yn eich blychau ailgylchu i'w casglu wrth ymyl y ffordd neu’n eu cludo i un o’r canolfannau ailgylchu gwastraff tŷ yn cael eu hailgylchu

Mae gwybodaeth am y deunyddiau a gesglir ac ymdrinnir â hwy i’w hailgylchu yn agored i graffu cyhoeddus ac maent yn cael eu rheoli’n llym gan ddeddfwriaeth y Llywodraeth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/gwastraff-ac-ailgylchu

Bod Sir y Fflint yn gwneud ffortiwn drwy werthu’r deunyddiau ailgylchu a gesglir

Mae gwerthiant deunyddiau ailgylchu megis, plastigau, papur, gwydr, alwminiwm a dur yn ddibynnol ar argaeledd marchnad fasnachol.

Lle bo marchnad fasnachol yn bresennol, mae Sir y Fflint yn gwerthu rhywfaint o’r deunydd ailgylchu a gesglir. Yn aml, nid yw’r arian yr ydym yn ei wneud drwy hyn yn ddigon i dalu am gostau casglu, cludo a phrosesu. Caiff unrhyw incwm o’r deunyddiau ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth casglu gwastraff.  

Yn aml nid oes marchnad fasnachol ac yn hytrach na gwerthu’r deunyddiau a gesglir, rhaid i’r Cyngor dalu i ailgylchu’r deunyddiau.

Bydd defnyddio’r cadi cegin yn creu arogleuon drwg ac yn denu fermin

Cynhelir casgliadau bwyd bob wythnos. Bydd defnyddio’r bagiau-bio a ddarperir am ddim a rhoi’r bagiau llawn (ond nid rhy lawn) yn y cadi gwyrdd y tu allan yn atal arogleuon, pryfaid ac anifeiliaid. Bydd glanhau a diheintio'r cadis yn rheolaidd yn atal arogleuon ac amodau amhleserus i chi a’ch criwiau casglu!  

Cofiwch gloi eich cadi gwyrdd yn defnyddio’r handlen cyn ei osod ar y pafin yn barod i’w gasglu.

Rwyf wedi gweld y criw casglu yn rhoi fy ngwastraff ailgylchu yn y lori sbwriel, felly beth yw’r diben?

Mae rhai achlysuron, o ganlyniad i gerbyd yn torri i lawr neu yn ystod cyfnodau gwyliau, lle mae cerbyd gwastraff gwag yn caei ei ddefnyddio i gynorthwyo â chasgliadau. Fodd bynnag, mae'r deunyddiau ailgylchu a gesglir yn cael eu cludo i’r orsaf drosglwyddo i’w trefnu â llaw cyn bwndelu. Os yw’r deunyddiau ailgylchu wedi’u halogi, mae’n bosib y bydd criw sbwriel lleol yn eu casglu.  

Bod un bin mawr ar gyfer yr holl ddeunyddiau ailgylchu yn well na’u rhannu i fagiau a blychau

Mae’r cynwysyddion yr ydym yn eu darparu yn caniatáu i chi wahanu gwydr oddi wrth bapur a deunyddiau eraill ac mae hyn felly yn atal halogiad ar ffurf gwydr wedi torri. Mae hyn yn sicrhau y cedwir at safon uchel o ran y deunyddiau ailgylchu. Caiff caniau cymysg a phlastig eu cludo i orsaf drosglwyddo Bwcle ac yno mae’r  deunyddiau yn cael eu trefnu a’u bwndelu. Argymhellir gwahanu gwastraff yn y tarddiad yng nglasbrint casgliadau Llywodraeth Cymru.

Mae defnyddio cynwysyddion ar wahân hefyd yn cynnig hyblygrwydd o ran storio a chasglu.