Ble rydyn ni nawr a pham mae angen i ni wneud mwy
Strategaeth Adnoddau a Gwastraff Sir y Fflint - strategaeth ddiwygiedig y Cyngor yn 2024 hyd at 2030.
Ers cael ei sefydlu, mae’r gwasanaeth gwastraff wedi newid yn sylweddol. Er mwyn cyrraedd Targedau Ailgylchu Statudol Llywodraeth Cymru, rydym wedi symud i wasanaeth casglu biniau bob tair wythnos, i wasanaeth modern, a reolir yn dynn sy’n canolbwyntio ar ailddefnyddio ac ailgylchu.
Yn 2024, roeddem yn ailgylchu 63% o’r gwastraff roeddem yn ei gasglu. Trwy gyflwyno casgliadau ailgylchu wythnosol a chasgliadau gwastraff gweddilliol bob tair wythnos rydym bellach yn ailgylchu 70%.
Gyda’ch cymorth chi gallwn gynorthwyo i wneud Cymru y wlad sy’n perfformio orau o ran ailgylchu.
Byddai hyn yn gamp aruthrol. Yr arwyddion yw y gallai Llywodraeth Cymru gynyddu targedau cynghorau i 80%, neu hyd yn oed 90% yn y dyfodol gan ei bod yn gwybod nad yw’r holl wastraff ailgylchadwy yn cael ei gyflwyno i gael ei ailgylchu.
Mae dal aelwydydd sy’n gwrthod ailgylchu gwastraff o gwbl. Mae’r Cyngor yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn aelwydydd sy’n parhau i adael gwastraff ychwanegol wrth ochr eu bin du.