Cyflogi Plant
Dalen Gwybodaeth
Canllaw ar gyfer Plant Oedran Ysgol Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (Diwygiedig)
Rhaid i blentyn oedran ysgol sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n dymuno cael ei g/chyflogi ymgeisio am
Drwydded Waith
Mae is ddeddfau sy’n penderfynu ar y math o waith gall plant ei wneud a’r oriau y gallant weithio. Mae rhagor o gyngor ar gael gan eich Awdurdod Addysg Lleol - Cysylltwch a childlicences@flintshire.gov.uk.
Gwybodaeth Trwydded Waith
Mae ffurflen gais am drwydded gwaith ynghlwm. Rhaid iddi gael ei chwblhau gan rieni / gwarcheidwaid a’r cyflogwr. Mae gan eich plentyn gyfrifoldeb i rannu gyda chi yr Asesiad o unrhyw risg y gellid ei wynebu wrth ymgymryd â'r gwaith. Dychwelwch i Ysgolion a Derbyniadau Chynllunio, Addysg a Ieuenctid, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6ND.
Ffurflen Gais Rhieni
Ffurflen Gais Y Cyflogwr
13 Blwydd oed neu drosodd (ond o dan 15)
Er mwyn cymryd gwaith rhan amser rhaid I blant fod yn 13 Blwydd oed neu drosodd. Os ydych yn 13 Blwydd oed neu drosodd (ond o dan 15) ni ddylech weithio rhagor na’r canlynol ar gyfer boreau, nosweithiau, Sadwrn neu Wyliau Ysgol, dydd Sul neu Uchafswm Wythnosol: -
Gweithio uchafswm o 1 awr rhwng 7.00am a dechrau’r
Gweithio uchafswm o 2 awr rhwng cau’r ysgol a 7.00pm (Nodwch: Dim ond 1 awr a ellir weithio os yw’r plentyn wedi gweithio cyn mynd I’r ysgol)
Uchafswm o 5 awr y dydd (ac eithrio egwyliau ar gyfer prydau neu orffwys)
Amser Tymor – 12 awr
Amser Gwyliau – 25 awr
15 Mlwydd oed a heb gyrraedd oedran gadael ysgol
Os yw’r plentyn yn chow;io am waith yn 15 Mlwydd oed a heb gyrraedd oedran gadael ysgol (Ybydd Gwener diwethaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fo’r plentyn yn cyrraedd 16 mlwydd oed) yna mae’r criteria canlynol yn berthnasol. Mae'r un peth yn berthnasol fel gyda'r uchod ar gyfer 13 oed neu'n hŷn (ond o dan 15) ar wahân i Dydd Sadwrn neu Wyliau Ysgol Uchafswm Wythnosol a. Gweler isod: -
Uchafswm o 8 awr y dydd (ac eithrio egwyliau ar gyfer prydau neu orffwys)
Amser Tymor – 12 awr
Amser Gwyliau – 35 awr
Pwysig:
Rhaid i bob plentyn gael o leiaf ddwy wythnos yn olynol heb weithio yn ystod gwyliau ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a dim mwy na 4 awr i gael eu gweithio'n barhaus heb doriad.