Pwy Ydym Ni
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn rhan o bortffolio Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint. Rydym yn gweithio â phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, yn ogystal â’u hiechyd meddwl a’u lles.
Darparwn amrywiaeth helaeth o gyfleoedd a phrofiadau yn Gymraeg a Saesneg, gan sicrhau fod darpariaeth gynhwysol a difyr ar gael i bobl ifanc. Drwy ddulliau gwaith ieuenctid, rydym yn creu profiadau difyr sy’n cyfoethogi bywydau pobl ifanc ac yn hybu eu twf.
Ein Ffordd o Weithio
Mae ein gwaith yn seiliedig ar bum piler gwaith ieuenctid:
- Mae pobl ifanc yn ffynnu
- Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol
- Cefnogir staff gwaith ieuenctid gwirfoddol a staff proffesiynol cyflogedig gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer
- Mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall
- Dull cynaliadwy o ddarparu gwaith ieuenctid
Yr Hyn a Wnawn
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint yn darparu amrywiaeth helaeth o gyfleoedd i bobl ifanc mewn gwahanol leoliadau.
Rydym yn cynnal wyth o glybiau ieuenctid wythnosol yn ystor tymhorau ysgol. Sesiynau agored yw’r rhain sy’n cynnig lle diogel i bobl ifanc rhwng 11 a 17 oed gymdeithasu, meithrin cyfeillgarwch a chymryd rhan mewn gweithgareddau llesol.
Mae’r Tîm Gwaith Datgysylltiedig ac Allgymorth yn gweithio mewn cymunedau lleol yn ystod tymhorau ysgol ac ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau ar y cyd â Gwella i feithrin cyswllt â phobl ifanc ble bynnag y maen nhw.
Mae’r Gwasanaeth Atal Digartrefedd Ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae’r tîm yn gweithio i atal digartrefedd ac argyfyngau drwy gynnig gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd, cymorth i gael addysg a gwaith a chyngor ynglŷn â datblygu sgiliau byw’n annibynnol.
Mae’r tîm Trochi yn yr Ysgol a’r Gymuned yn gweithio yn ysgolion uwchradd Sir y Fflint i gefnogi pobl ifanc yn ystod y diwrnod ysgol a’u helpu i gyflawni eu nodau a’u dyheadau.
Mae’r Ysgol Goedwig yn cynnig cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored ac yn galluogi pobl ifanc i fagu sgiliau newydd wrth gysylltu â byd natur.
Mae’r Tîm Datblygu Chwarae’n cynnal sesiynau chwarae dan oruchwyliaeth sy’n agored i bawb mewn cymunedau lleol, sy’n hybu lles a datblygiad plant a phobl ifanc.
Cliciwch ar y tab Darpariaethau’r Gwasanaethau Ieuenctid i weld y sesiynau / prosiectau eraill sydd ar waith:
Ymrwymiad at y Gymraeg
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint yn cydnabod mor bwysig yw hyrwyddo ac eirioli dros y Gymraeg a’i gyfrifoldeb i wneud hynny. Rydym yn cyflogi Swyddog Iaith Gymraeg Cymunedol sy’n cydweithio â’n holl wasanaethau i sicrhau fod y Gymraeg wedi’i gwreiddio yn y ddarpariaeth.
Mae hynny’n cyfrannu at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn sicrhau y caiff pobl ifanc gyfleoedd i arfer eu sgiliau Cymraeg a’u datblygu mewn ffyrdd ystyrlon.
Lle Ydym Ni
Rydym yn gweithio â phobl ifanc mewn amryw leoedd er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch ac yn bodloni eu hanghenion. Mae hynny’n cynnwys canolfannau ieuenctid, clybiau ieuenctid, ysgolion, cymunedau lleol a thrwy waith ieuenctid datgysylltiedig – cwrdd â phobl ifanc ble bynnag y maen nhw.
Rydym hefyd yn meithrin cyswllt â phobl ifanc ar-lein drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau, cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Cael Cymorth
Os oes arnoch angen cymorth ar frys, mae’r gwasanaethau isod yn darparu cymorth a chyngor yn gyfrinachol:
- Byw Heb Ofn
Cymorth a chyngor ynglŷn â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
0808 80 10 800 (24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos)
- Meic
Llinell gymorth i blant a phobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru.
0808 80 23456 (8am–hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos)
Testun: 84001 neu wasanaeth sgwrsio ar-lein
- Childline
Cymorth gydag amrywiaeth o bethau sy’n effeithio ar bobl ifanc, yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
0800 1111 neu siarad â chwnselydd ar-lein