Alert Section

Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid


Eiriolaeth

Gwasanaethau eiriolaeth gogledd-ddwyrain cymru

Yn cynnig cefnogaeth o ran sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed wrth drefnu eich gofal a’ch cefnogaeth.

Byddant yn gweithio gyda chi i sicrhau y gallwch ddweud beth rydych chi am ei ddweud, sicrhau eich hawliau, cynrychioli eich buddiannau a dod o hyd i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Manylion cyswllt – 01352 759332 neu advocacy@asnew.org.uk neu hunan-atgyfeiriwch ewch i'w gwefan Advocacy Services North East Wales.

Snap Cymru

Yn cynnig cefnogaeth ddiduedd ddibynadwy I bobl ifanc, rhieni a gofalwyr ledled Cymru.

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i’ch helpu I gael yr addysg gywir I bobl ifanc a phob math o anghenion addysgol arbennig/anghenion ychwanegol ac anableddau, gan gynnwys asesiadau, cynlluniau addysg unigol, bwlio a phresenoldeb ac ati.

Manylion cyswllt – 08088 010608.

Gall rhieni wneud atgyfeiriad ewch i'w gwefan Web Forms - Snap Cymru


Awtistaeth

Eich lle chi

Cymorth I blant a phobl ifanc 5-19 oed.

Elusen fechan sy’n cynnig cefnogaeth I bobl ifanc ag Awtistiaeth a’u teuluoedd yn Llai, Wrecsam.

Nid oes angen diagnosis o Awtistiaeth arnoch I fynychu. Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys clybiau ieuenctid a gwasanaethau allgymorth (mae’r rhain wedi’u gohirio ar hyn o bryd, ond byddant yn ailddechrau yn y dyfodol agos gobeithio).

Manylion cyswllt – 01978 856859. I gofrestru eich diddordeb llenwch y ffurflen hon ewch i'w gwefan Facebook - Your Space Wales.

Awtistiaeth integredig gogledd cymru

Yn cynnig asesiad diagnosis Awtistiaeth I bobl 18+ oed, gallant hefyd gynnig cymorth ar ddeall eich diagnosis, mynediad at waith grwp a chymorth unigol, a chyngor a chymorth I rieni unigolion Awtistig.

Manylion cyswllt – 01352702090 neu NW.IAS@Flintshire.gov.uk

Gallwch hunan-atgyfeirio ewch i'w gwefan Neurodivergence Wales - North Wales Integrated Autism Service.


Apiau

Calm Harm

Ap sydd wedi’i gynllunio i helpu i reoli’r ysfa i hunan-niweidio. Yn cynnwys y pynciau gweithgaredd canlynol: cysuro, tynnu sylw, mynegi eich hun, rhyddhau ac ar hap.

Mae’r ap hwn ar gael I’w lawrlwytho am ddim ar y siop apiau ar eich ffon.

Mindshift

Mae’r ap hwn yn defnyddio dull ThGY (Therapi Gwybyddol Ymddygiadol) I’ch helpu I ddysgu I ymlacio a bod yn ymwybodol, datblygu ffyrdd mwy effeithiol o feddwl, a defnyddio camau gweithredol I gymryd rheolaeth ar eich Gorbryder.

Mae’r ap hwn ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar y siop apiau ar eich ffon. 

Happify

Mae'r ap hwn yn defnyddio gweithgareddau a gemau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth i'ch helpu i oresgyn meddyliau negyddol, straen a heriau bywyd.

Mae'r ap hwn yn seiliedig ar ddamcaniaethau seicoleg gadarnhaol, meddwlgarwch a ThGY.

Mae'r ap hwn ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar y siop apiau ar eich ffôn.

Calm

Mae'r ap hwn wedi'i gynllunio i’ch helpu i reoli straen bywyd bob dydd, eich helpu i gysgu'n well a byw bywyd hapusach ac iachach gan ddefnyddio gwahanol dechnegau myfyrio ac ymlacio.

Gallwch lawrlwytho'r ap hwn ar y siop apiau ar eich ffôn. Nid yw’r ap hwn am ddim ond mae ’na opsiwn o dreial 14 diwrnod am ddim.

Headspace

Mae'r ap hwn yn cynnig offer meddwlgarwch ar gyfer bywyd bob dydd, gan gynnwys myfyrdodau, cymorth cysgu, symudiad meddwlgarwch ac ymarferion ffocws.

Gallwch lawrlwytho'r ap hwn ar y siop apiau ar eich ffôn. Yn anffodus, nid yw’r ap hwn am ddim.

Ahead

Mae'r ap hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddeall a rheoli eich emosiynau, tracio a gwylio eich cynnydd ac archwilio 100+ o dechnegau sydd wedi'u profi gan wyddoniaeth.

Gallwch lawrlwytho'r ap hwn ar y siop apiau ar eich ffôn. Yn anffodus nid yw am ddim, ond mae treial ar gael am ddim.


Profedigaeth

Cruse Bereavement

Yn cynnig cymysgedd unigryw o gefnogaeth, gan gynnwys deall eich profedigaeth, sesiynau gwybodaeth grŵp neu gefnogaeth 1-i-1.

Mae'r cymorth hwn fel arfer yn cael ei gynnig dros y ffôn neu drwy alwad fideo neu grwpiau fel grwpiau cymorth cyfoedion.

I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â - 03001 111003

Blue Cross

Gwasanaeth cymorth sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer profedigaeth, gwahanu gorfodol neu ladrata anifeiliaid anwes.

Maent yn cynnig lle diogel i chi drafod sut rydych chi'n teimlo, i'ch helpu i ddod i delerau â'ch colled ar eich cyflymder eich hun.

Gallwch gael mynediad at gymorth galw bob dydd o 08:30am-08:30pm ar 08000 966606 neu e-bostiwch plsmail@bluecross.org.uk a byddwch yn cael ymateb o fewn 48 awr.

Cymorth gwe-sgwrsio 08:30am-08:30pm bob dydd ewch i'w gwefan Blue Cross.

Child Bereavement UK

Yn helpu teuluoedd I ailadeliadu eu bywydau pan fydd plenty yn galaru neu pan fydd pletyn yn marw.

Maent yn cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed pan fydd rhywun pwysig iddyn nhw wedi marw neu pan na fydd disgwyl iddynt fyw, a rhieni a’r teulu ehangach pan fydd babi neu blentyn o unrhyw oedran wedi marw neu yn marw.

Manylion cyswllt 08000 288840 neu helpline@childbereavementuk.org neu ewch i'w gwefan Child Bereavement UK.


Cyffuriau ac alcohol

Sorted Sir y Fflint

Cymorth i bobl ifanc hyd at 22 oed, gyda'r nod o leihau'r risg o niwed cysylltiedig â chyffuriau ac alcohol i unigolion, teuluoedd a'r gymuned.

Maen nhw’n darparu cymorth ac arweiniad anffurfiol 1-wrth-1 lle bynnag sy'n addas i chi.

Manylion cyswllt - 01352 703490 neu e-bostiwch sorted@flintshire.gov.uk i gael ffurflen atgyfeirio

CAMFA 14+

Gwasanaeth i bobl ifanc 14-25 oed sy'n poeni am eu defnydd o gyffuriau ac alcohol.

Gellir cynnig cymorth hefyd i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan aelod o'r teulu yn defnyddio sylweddau. Gall y gefnogaeth hon fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gellir cynnig hyd at 12 sesiwn yn seiliedig ar gwnsela, cyfweliadau ysgogiadol ac ymyriadau byr estynedig ThGY.

Manylion cyswllt - 01492 523690 neu enquiries@adferiad.org i gael ffurflen hunan-atgyfeirio


Anhwylderau bwyta

BEAT

Mae BEAT yn cynnal nifer o grwpiau cymorth ar-lein ar anhwylderau bwyta i'r rhai sy'n profi problemau gyda bwyta; nid oes angen diagnosis i gymryd rhan yn y grwpiau hyn.

Mae'r grwpiau cymorth hyn yn cael eu cynnal ar wahanol adegau a dyddiadau yn ystod yr wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o'r grwpiau cymorth hyn, ewch i'w gwefan BEAT.


Cam-drin domestig/trais rhywiol

DASU

Yn cynnig cefnogaeth ac eiriolaeth i unigolion a'u plant sydd wedi cael eu cam-drin gan rywun maen nhw wedi cael perthynas agos a chariadus gyda nhw.

Gall cymorth gynnwys: cymorth proffesiynol ac annibynnol gyda materion yn ymwneud â cham-drin domestig, cynllunio diogelwch personol, mynediad brys 24 awr at rwydwaith o dai diogel, cyfle i archwilio eich opsiynau, cysylltu ag asiantaethau neu gymorth arall, neu gymorth i aros yn eich cartref.

Manylion cyswllt - Llun-Gwener 09:30-16:30 03333 600483 neu 08088 010800 y tu allan i oriau, neu e-bostiwch info@dasunorthwales.co.uk

Men’s Advice Line

Mae hon yn ganolfan wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i gysylltiadau â’ch gwasanaeth cam-drin domestig dioddefwyr gwrywaidd lleol. Gall y gwasanaethau hyn ddarparu cymorth gyda'r canlynol: mynediad i loches/tai diogel, gwasanaethau sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer cam-drin domestig a meysydd eraill o angen, gan gynnwys tai, digartrefedd, mewnfudo ac iechyd meddwl ac ati.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 08088 010327 neu ewch i’w gwefan.

Stepping Stones

Gwasanaeth cwnsela i'r rhai dros 18 oed sy'n goroesi cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod.

Ni fydd rhaid i chi fynd yn ôl a siarad am eich profiadau yn y gorffennol; eu nod yw cefnogi pobl i allu symud ymlaen â'u bywydau heb i’w trawma eu heffeithio gymaint.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch - 01978 352717 neu e-bostiwch info@steppingstonesnorthwales.co.uk. Gallwch hunangyfeirio drwy ewch i'w gwefan.

Cwnsela RASASC Gogledd Cymru

Yn cynnig gwybodaeth, cymorth arbenigol a therapi i unrhyw un 3+ oed sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin neu drais rhywiol naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol.

Ar gyfer cwnsela, mae angen i unigolion fod yn 18+.

Bydd pob sesiwn therapi yn para tua awr, a bydd fel arfer yr un diwrnod ac amser bob wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch - 01248 670628 neu gallwch hunan-gyfeirio drwy gwefan.


Cyflogaeth

We Mind the Gap – ‘We Discover’ 

Rhaglen rithwir 3 mis lle gall pobl ifanc ddysgu mwy amdanyn nhw eu hunain, magu hyder a datblygu sgiliau i'w galluogi i weld llwybr clir ar gyfer eu dyfodol.

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys: gweithdai rhyngweithiol rhithwir, siaradwyr gwadd a sesiynau dangos esiampl, meithrin sgiliau cyflogadwyedd, mentor pwrpasol, a chefnogaeth gydol oes.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â Kim Harasym-moss ar 07732 690705 neu kim@wemindthegap.org.uk

We Mind the Gap – ‘We Grow’

Rhaglen 12 mis, gyda 6 mis ohoni mewn cyflogaeth. Yn y rhaglen hon byddwch chi’n cwblhau 5 lleoliad gwaith gwahanol, yn cymryd rhan mewn hyfforddiant bywyd ac yn datblygu sgiliau a phrofiadau newydd i'ch paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Wedi'i ddilyn gan 6 mis o gefnogaeth ymroddedig.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â Mark Rimmer ar 07999 405039 neu mark@wemindthegap.org.uk

Twf Swyddi Cymru+

Rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed a fydd yn rhoi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiadau sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu hyfforddiant pellach.

O fewn y rhaglen hon, byddwch yn cael y cyfle i: roi cynnig ar swyddi newydd y gallai fod gennych chi ddiddordeb ynddynt drwy dreialon a lleoliadau gwaith, cael eich talu gyda lwfansau hyfforddi wythnosol, a chael cyflog go iawn pan fyddwch chi’n cael eich cyflogi.

Cewch gyngor parhaus, arweiniad a hyfforddiant 1-i-1 wrth hyfforddi i ennill cymwysterau cydnabyddedig i roi hwb i'ch opsiynau gyrfaol. A byddwch yn cael mynediad at swyddi gyda chyflogwyr lleol.

Ni allwch fod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth lawn-amser yn barod i gymryd rhan yn y rhaglen hon.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â 08000 284844 neu workingwales@careerwales.llyw.cymru

Academi Adferiad

Rhaglen 12 wythnos i bobl ifanc 16-24 oed sy'n byw yng Nghymru, sydd wedi bod yn ddi-waith ers o leiaf 12 mis, ac nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw brosiectau eraill gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Yn ystod y rhaglen hon cewch gyfle i ennill cymwysterau achrededig a phrofiad gwaith mewn gwasanaeth Adferiad o'ch dewis chi.

Gellir cynnig hyfforddiant ar-lein, gyda lleoliadau ar gael ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch â 01792 816600 neu academi@adferiad.org.uk

Gwirfoddoli Cymru

Cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru. Os nad ydych chi'n siŵr beth hoffech chi ei wneud, dyma'r lle gorau i ddechrau chwilio yn aml iawn.

Gallwch bori yn ôl cod post i helpu i gulhau eich chwiliad hyd yn oed ymhellach.

I greu cyfrif am ddim i gael mynediad i'r gronfa ddata hon, dilynwch y ddolen hon.

Gyrfa Cymru

Gwefan ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio'ch gyrfa ar gyfer y dyfodol ac archwilio cyrsiau, hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae ganddynt hefyd gwis i'ch helpu i nodi gyrfa bosibl yn seiliedig ar eich diddordebau.

Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad i siarad â chynghorydd gyrfaoedd drwy ffonio 08000 284844


Cymorth I Deuluoedd

Family lives

Gwasanaeth y gawllch gysylltu ag ef am unrhyw broblemau teuluol neu fagu plant rydych chi’n eu profi i siarad a gweithiwr cymorth i deuluoedd proffesiynol profiadol.

Byddant yn rhoi cyfle i chi rannu eich stori, a’ch cefnogi i nodi ffordd ymlaen.

Manylion cyswllt – 07441 444125 Llun-Gwener 9am-9pm neu askus@familylives.org.uk


Gamblo

Prosiect gamblo menywod - adferiad

Prosiect cymunedol sy'n anelu at wella'r ymwybyddiaeth o driniaeth gamblo a chefnogaeth i fenywod, a'r niwed y gall gamblo ei achosi.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer unrhyw fenyw 18+ oed sy'n datgelu ei bod yn gaeth i gamblo.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael atgyfeiriad wedi’i gwblhau, cysylltwch â 01492 863000 neu e-bostiwch cheryl.williams@adferiad.org.

Llwybr triniaeth gamblo parkland place

Cymorth i bobl 18+ oed sy’n wynebu heriau bywyd, fel problemau iechyd meddwl, problemau defnyddio sylweddau ac anghenion cymhleth sy'n cyd-ddigwydd, ar y cyd â dibyniaeth gamblo.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gwblhau atgyfeiriad, cysylltwch â 01492 203421 neu cheryl.williams@adferiad.org


Llinellau cymorth

Papyrus Hopeline

Ar gyfer pobl ifanc hyd at 35 oed sy’n meddwl am hunanladdiad neu rywun sy’n poeni rywun arall – ffoniwch 08000 648141 neu tecstiwch 88247

SHOUT

Llinell gymorth gyfrinachol negeseuon testun 24/7. Anfonwch y gair 'shout' fel neges destun i 85258 a byddwch yn cael eich cysylltu â chynghorydd a fydd yn anfon neges destun yn ôl.

I atal y negeseuon ar unrhyw adeg, tecstiwch y gair 'stop', ac ni fydd mwy o negeseuon yn cael eu hanfon atoch. Gallwch drafod unrhyw beth sy'n eich poeni, clust i wrando ydyn nhw.

Sefydliad DPJ

Llinell gymorth 24/7 gyfrinachol i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant ffermio neu amaethyddol

Clust i wrando lle gallwch drafod unrhyw beth sy'n eich poeni.

Gall ffonio - 08005 874262 neu decstio 07860 048799

GIG 111 +2

Cymorth argyfwng iechyd meddwl 24/7.

Ffoniwch 111 a gwasgwch opsiwn rhif 2 i gael eich cysylltu â gweithiwr Iechyd Meddwl proffesiynol hyfforddedig.

Gallant eich tywys drwy’r camau nesaf, megis hwyluso mynediad at wasanaethau amgen.

Byw Heb Ofn

Os ydych chi, aelod o'r teulu, ffrind neu rywun rydych chi'n poeni amdano wedi profi cam-drin domestig neu drais rhywiol ac yn dymuno siarad â rhywun am y trafferthion rydych chi wedi'u hwynebu, cysylltwch â 08088 010800 neu anfonwch neges destun i 07860 077333 i gysylltu â chynghorydd 24/7.

I gael rhagor o wybodaeth - info@livefearfreehelpline.wales neu ewch i'w gwefan

Dan 24/7 

Siarad â rhywun am eich problem cyffuriau neu alcohol yw'r cam cyntaf tuag at ddatrys eich problemau.

Gallwch ffonio unrhyw bryd ar unrhyw ddiwrnod i gael cymorth a chyngor - 08088 082234 neu e-bostiwch - dan@helpline.wales

Cruse bereavement

Llinell gymorth sy'n cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un y mae galar yn effeithio arno. Mae'r llinell gymorth hon wedi'i chynllunio i roi cyfle i chi siarad am eich teimladau, a sut rydych chi wedi bod yn ymdopi â'ch galar.

Mae'r llinell gymorth hon ar agor ddydd Llun, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener 09:30-5pm a dydd Mawrth 1-8pm. Manylion cyswllt - 08088 081677

Y Samariaid

Os oes angen rhywun i siarad â nhw, mae’r Samariaid ar gael i wrando arnoch chi, fyddan nhw ddim yn eich barnu neu yn dweud wrthoch chi beth i'w wneud.

Gallwch ffonio unrhyw bryd, ddydd a nos - 116 123 neu gallwch e-bostio jo@samaritans.org (gall gymryd sawl diwrnod i gael ateb trwy e-bost).

Galop

Llinell gymorth i unigolion LHDTC+ sy'n dioddef camdriniaeth neu drais, fel troseddau casineb, cam-drin domestig, trais rhywiol neu unrhyw fath arall o gam-drin.

Mae'r llinell gymorth hon wedi'i chynllunio i gynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un 18+ oed.

Mae’r llinell gymorth hon ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 09:30-8pm, dydd Gwener 09:30-4:30pm neu gallwch e-bostio help@galop.org.uk unrhyw bryd.

NSPCC

Cyngor a chymorth cyfrinachol am ddim i blant dan 18 oed i drafod unrhyw beth rydych chi’n poeni amdano.

Ffoniwch 0800 1111 neu i gael rhagor o wybodaeth am gael mynediad at gymorth gan gwnselydd 1-i-1 ar-lein cliciwch yma.

Men’s Advice Line

Llinell gymorth ar gyfer dynion y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnyn nhw, yn cynnig clust i wrando a chlywed am yr hyn sy'n digwydd i chi ar hyn o bryd.

Gallwch ddewis cael eich cysylltu â chynghorydd gwrywaidd neu fenywaidd. Cynigir cymorth dros y ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 10-5pm - 08088 010327


Cymorth tai

Cymorth tai

Yn darparu gwasanaethau cymorth yn gysylltiedig â thai i bobl dros 16 oed.

Nod y gwasanaeth yw bod yn ymyrraeth gynnar i atal pobl rhag mynd yn ddigartref, sefydlogi eu sefyllfa o ran llety, neu’n helpu pobl a allai ddod yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw.

I gael rhagor o wybodaeth - 01352 703515 neu housing.support@flintshire.gov.uk neu gallwch hunan-atgyfeirio yn Cyngor Sir y Fflint - Cymorth Tai.

Gwasanaeth atal digartrefedd ieuenctid Sir y Fflint

Gwasanaeth atal sy'n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed i sicrhau nad ydyn nhw'n mynd yn ddigartref.

Mae’n darparu gwaith 1-wrth-1 i helpu pobl ifanc i ddod yn annibynnol ac yn estyn cymorth cyflogaeth, coleg a hyfforddiant.

Gallant hefyd ddarparu gwaith atal ym meysydd rheoli gwrthdaro, emosiynau, gwella perthnasoedd i atal digartrefedd, a gallant gynnig sesiynau ynghylch bod yn barod i rentu i bobl ifanc sy'n chwilio am eu llety eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Adrian - 07775 027616 neu gofynnwch i weithiwr proffesiynol fel eich meddyg teulu eich atgyfeirio.

Citizen’s Advice

Mae ganddyn nhw wybodaeth wych am bopeth sy'n ymwneud â thai, troi allan, gwneud cais am dai cyngor, a/neu gartref cymdeithas dai ar eu gwefan.

Shelter Cymru

Gwasanaeth sy’n cynnig cyngor ar dai, digartrefedd, rhent neu ddyled i’r rhai dan 25 oed.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl

Yn cefnogi unigolion gyda'u problemau Iechyd Meddwl a/neu ddefnyddio sylweddau ac sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Gellir darparu cymorth gyda sicrhau llety parhaol a byw'n annibynnol, a chefnogi eich lles a datblygu eich sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth - 01792 816600 neu josh.humphries@adferiad.org.uk


LHDTC+

GALOP

Gall gynnig ystod o wasanaethau i unigolion 13+ oed gan gynnwys cyngor a chefnogaeth i'ch helpu chi ac eraill i fod yn fwy diogel, cymorth emosiynol parhaus, cymorth brys gan gynnwys cymorth meddygol, gwybodaeth am ddiogelwch a llety brys ac ati. 

Gall y cymorth fod dros y ffôn, e-bost neu wyneb yn wyneb (os oes cynghorydd wedi'i leoli yn eich ardal leol).

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch - advice@galop.org.uk neu gwnewch hunan-atgyfeiriad yn gwefan.

VIVA

Grwpiau ieuenctid a chefnogaeth i bobl ifanc 11-25 oed sy'n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws neu’n cwestiynu.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth 1-wrth-1 y gallwch ei gael - 01745 357941 neu info@vivalgbt.co.uk

Cynhelir grwpiau ieuenctid hefyd yn neuadd y dref y Fflint ar 2il a 4ydd dydd Mercher y mis yn ystod y tymor 4:30-6:30pm a Chanolfan Hamdden Treffynnon ar ddydd Mercher 1af a'r 3ydd dydd Mercher yn ystod y tymor 4:30-6:30pm

Umbrella Cymru

Yn arbenigo mewn hunaniaeth rhywedd a rhywiol, amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant.

Cynigir cymorth ledled Cymru ar hunaniaeth, hyder a dod allan, hunaniaeth rhywedd, mynediad at driniaeth, llawdriniaeth neu gymorth cymdeithasol, llenwi ceisiadau newid enw, a gwneud ceisiadau i'r panel cydnabod rhyw.

Gellir darparu cymorth i deuluoedd hefyd. I gael rhagor o wybodaeth - 03003 023670, tecstiwch 07520 645700 neu e-bostiwch info@umbrellacymru.co.uk neu gallwch hunan-atgyfeirio yn gwefan.


Gadael Gofal

Gweithredu dros blant – sgiliau+

Ymyriad adeiladu sgiliau seicogymdeithasol i bobl ifanc 16-24 oed sy'n gadael gofal.

Maent yn anelu at gefnogi pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau canlynol - meddwlgarwch, rheolaeth emosiynol, trallod, goddefgarwch ac effeithiolrwydd rhyngbersonol.

Byddwch chi’n cael eich ymarferydd eich hun a fydd yn cwrdd â chi ble bynnag rydych chi’n teimlo'n gyfforddus, naill ai bob wythnos neu bob pythefnos.

Mae ganddynt hefyd weithiwr ieuenctid pontio a all ddarparu sgiliau ymarferol i'ch cefnogi tuag at fyw'n annibynnol.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch/anfonwch neges whatsapp i 07887 943743 neu e-bostiwch skillsplusnorthandmidwales@actionforchildren.org.uk


Iechyd meddwl

Inspire

Gweithwyr Ieuenctid sy'n cynnig cymorth 1-wrth-1 i bobl ifanc 11-18 oed (hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed) sydd yn neu wedi hunan-niweidio neu â syniadau am hunanladdiad nawr neu yn y gorffennol.

Bydd tua 8 sesiwn yn cael eu darparu yn seiliedig ar nodau rydych chi'n eu nodi fel mecanweithiau ymdopi, gorbryder, hylendid cwsg, rheoli hwyliau neu atgyfeirio at wasanaethau neu grwpiau eraill.

Ni allwch ddefnyddio Inspire a CAMHS ar yr un pryd, a rhaid i'r atgyfeiriad gael ei gwblhau gan weithiwr proffesiynol, fel CAMHS, meddyg teulu neu nyrs ysgol.

Silvercloud

Rhaglenni ar-lein wedi'u cynllunio i bobl ifanc 16+ oed i wella a chynnal eich lles trwy newid y ffordd rydych chi'n meddwl ac yn teimlo am bethau.

Mae hon yn rhaglen am ddim y gallwch weithio drwyddi yn eich amser eich hun, ac mae'n cynnwys pynciau fel delwedd y corff, straen, meddwlgarwch, gwytnwch, cwsg, iselder ac OCD.

Mae'r rhaglen yn cynnwys fideos, gweithgareddau, cwisiau, canllawiau sain a dyddlyfr. Mae gennych 12 wythnos i gwblhau pob rhaglen.

Gallwch gofrestru ar gyfer y rhaglen hon yn gwefan neu am ragor o wybodaeth e-bostiwch - silver.cloud@wales.nhs.uk

Byw bywyd I’r eithaf

Yn cynnig 8 sesiwn wythnosol i bobl ifanc 18+ oed naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb gan ddefnyddio cwrs anffurfiol yn seiliedig ar ThGY.

Trwy gydol y cwrs hwn byddant yn eich cefnogi i ddeall y problemau rydych chi'n eu hwynebu, sut i dorri'r cylch, a goresgyn diffyg hyder. Mae’r ffocws ar fod yn greadigol a chael hwyl.

Does dim angen atgyfeiriad. I gael rhagor o wybodaeth - 01352 974430 neu e-bostiwch enquiries@newmind.org.uk

The Mix – cwnsela

Os ydych chi'n chwilio am gymorth byrdymor gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles emosiynol a'ch bod rhwng 11-25 oed, gallai’r cymorth cwnsela hwn fod yn ddelfrydol i chi.

Mae'r cwnsela’n cael ei gynnig dros y ffôn neu we-sgwrsio - byddant yno i wrando ar eich problemau a'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi mewn lle diogel cyfrinachol.

Gallant gynnig cefnogaeth ar y pynciau canlynol - profedigaeth, diwedd perthynas, hunaniaeth rywiol, teimladau o iselder/tristwch a theimlo'n fwy hyderus.

Gallwch hunan-atgyfeirio yma.

Gwasanaeth cwnsela pobl ifancoung people’s counselling service

Ar gyfer pobl ifanc sy'n cael trafferth ymdopi, hyd at 18 oed.

Byddwch yn derbyn tua 6 sesiwn 1-wrth-1 yr wythnos.

Bydd y gwasanaeth hwn yn cynnig lle cyfrinachol rheolaidd i chi drafod y problemau rydych chi'n eu hwynebu, megis gorbryder, iselder, profedigaeth, rhyw a rhywioldeb, a hunan-niweidio.

Gallwch eich hunan-atgyfeirio eich hun yn YPCS@Flintshire.gov.uk Nodwch eich enw, dyddiad geni a'ch ysgol neu goleg (os ydych chi'n mynychu un) neu gallwch anfon neges destun at 80800.

Fel arall, gallwch ofyn i rywun arall gwblhau'r atgyfeiriad hwn ar eich rhan.

MIND (Gogledd, Dwyrain Cymru)

 Cynigir cwnsela i'r rhai 12+ oed, fodd bynnag, mae hyn yn costio £45 y sesiwn, ac fe'i cynhelir yng nghanolfan lles yn yr Wyddgrug.

Byddant yn eich helpu i archwilio eich teimladau a'ch problemau, nodi pam rydych chi'n teimlo fel rydych chi, gweithio allan beth allwch chi ei wneud nesaf, a sut allwch chi wella pethau.

Gall y gefnogaeth hon fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn.

I fynegi eich diddordeb ffoniwch 01352 974430 neu am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Parabl – Partneriaeth Therapiau Siarad

Cwnsela am ddim i unigolion sy'n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu ddigwyddiadau bywyd heriol, a allai fod yn effeithio ar eu lles emosiynol.

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn y ganolfan les yn yr Wyddgrug neu dros y ffôn.

I fynegi eich diddordeb - 03007 772257 neu ask@parabl.org.uk

CLIC

Mae Clic yn credu na ddylai unrhyw un deimlo'n unig nac yn ynysig.

Trwy eu cymuned ar-lein am ddim, mae Clic yno i chi bob awr o’r dydd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i siarad yn ddiogel ac yn agored am sut rydych chi'n teimlo, ac yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau.

Ar wefan Clic, mae ganddyn nhw lawer o adnoddau, cyngor a gwybodaeth Iechyd Meddwl, ystafell sgwrsio ar-lein 24/7, fforymau, tracwyr hwyliau a sesiynau Holi ac Ateb byw gydag arbenigwyr Iechyd Meddwl.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Clic.

Mind y gogledd-ddwyrain

Gweithgareddau ledled Sir y Fflint a Wrecsam fel teithiau cerdded a chlonc hydrefol ym Mwcle, ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrdod ym Mharc Caia, a chwisiau ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau ac amseroedd y gweithgareddau hyn.

Ioga Dru

Math ysgafn o ioga i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl.  Mae ar-lein ac yn addas ar gyfer pob gallu, pob lefel ffitrwydd a phob grŵp oedran.

Does dim angen atgyfeiriad i gymryd rhan yn Dru Yoga ond bydd angen rhoi eich cyfeiriad e-bost iddynt i ymuno â'r clwb ioga rhithwir.

Ar gyfer grwpiau Ioga Dru Dydd Mercher - mynegwch eich diddordeb drwy ffonio 07897300456 neu e-bostio berni.durhamjones@newmind.org.uk neu ar gyfer grwpiau Ioga Dru dydd Gwener mynegwch eich diddordeb drwy ffonio 01352 974430 neu e-bostiwch enquiries@newmind.org.uk

Sefydliad foundation

Cwnsela am ddim i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant ffermio neu amaethyddiaeth.

Ar ôl i chi gysylltu, bydd cwnselydd yn cysylltu â chi o fewn 48 awr, a byddwch yn cael eich gweld o fewn wythnos.

Gall cwnsela fod wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg.

I gael mynediad at gwnsela ffoniwch neu tecstiwch 08005 874262 neu e-bostiwch kate@thedpjfoundation.co.uk


Gofalwyr Ifanc

Cymorth I deuluoedd Sir y Fflint

Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am anwyliaid dros 18 oed sy'n delio â phroblemau Iechyd Meddwl, defnyddio sylweddau neu iechyd corfforol.

Maen nhw’n gallu darparu cefnogaeth 1-wrth-1 neu mewn grwpiau.

Byddant yn eich helpu i gwrdd a chymdeithasu â gofalwyr eraill, yn darparu ystod o gyfleoedd i neilltuo amser i chi'ch hun a gallant eich cefnogi i gael mynediad at seibiannau byr.

I gael rhagor o wybodaeth neu i hunan-atgyfeirio - 07972 776419 neu bernice.ross@adferiad.org

Gwasanaeth gwybodaeth gofalwyr gogledd-ddwyrain cyrmu

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu gwybodaeth, cymorth 1-wrth-1, hyfforddiant a chwnsela i ofalwyr sy'n rhoi cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau ac sy'n byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn - 01352 752525 neu enquiries@newcis.org.uk neu gwefan.


Iechyd Mislif

Pecyn Cymorth Addysgol Iechyd Mislif – Dan 18

Nod y pecyn cymorth hwn yw grymuso pobl ifanc drywy ddarparu gwybodaeth gywir am eu cyrff a’u hiechyd mislif.

Maen nhw’n angerddol am wella addysg ar beth yw cylch mislif ‘normal’ a sut i gael mynediad at gymorth.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys pynciau fel: cylchoedd mislif, cynhyrchion mislif, atal cenhedlu, cyflyrau iechyd mislif a heintiau.

I Lawrlwytho’r PDF pecyn cymorth am ddim, cliciwch yma.


Cyngor Arainnol

Money Helper

Canllaw gwybodaeth ar dalu eich ffordd a chymryd cyfrifoldeb am symud allan am y tro cyntaf.

Bydd y canllaw hwn yn helpu i ddadansoddi’r costau dan sylw, gan gynnwys llety, bwyd, cyfleustodau, ffôn symudol/band eang, trwydded deledu ac ati.

I gael mynediad at hyn cliciwch yma.


Cymdeithasol

KIM Inspire

Mae sawl grŵp gwahanol y gallwch gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys: KIM4HER - Grŵp cymorth i helpu i reoli lles.

Maen nhw’n cynnig ystod eang o weithgareddau am ddim, grwpiau a chyrsiau achrededig e.e. Cymraeg, crefftau, clwb llyfrau a sgiliau digidol.

KIM4HIM - Gweithgareddau grŵp sy'n cynnig cyfle i drafod heriau ac anawsterau. Maen nhw’n cynnal gweithgareddau, cyrsiau a digwyddiadau cymdeithasol, fel golff, ffotograffiaeth, garddio a gwaith y cartref.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch - 01352 872189 neu info@kim-inspire@org.uk

Clwb Ieuenctid Cei Connah

Bob dydd Iau 6:30-7:30pm yng Nghanolfan Gymunedol Cei Connah, CH5 4DZ.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mick 07786 126898 mick.holt@flintshire.gov.uk

Clwb Ieuenctid Glannau Dyfrdwy

Bob dydd Mawrth a dydd Iau 5:30-8pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, CH5 1SA.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Laura 07741 833072 laura.roberts@flintshire.gov.uk

Clwb Ieuenctid Y Fflint

Bob nos Lun, nos Fawrth a nos Iau 6:30-9pm ym Mhafiliwn Jade Jones, CH6 5ER.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mick 07786 126898 mick.holt@flintshire.gov.uk

Clwb Ieuenctid Maes Glas

Bob dydd Llun a dydd Mercher 5:00-7.15pm yn Lôn yr Ysgol, Maes Glas, CH8 7HR.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mick 07786 126898 mick.holt@flintshire.gov.uk