Ymddygiad

Mae newid hinsawdd yn rhaglen newid ymddygiad. Mae newid ymddygiad yn rhan fawr o weithredu ar yr hinsawdd ac mae llwyddiant uchelgeisiau hinsawdd y Cyngor a’r genedl ehangach yn dibynnu ar ein holl weithredoedd. Mae cyfathrebu ac ymgysylltu yn allweddol ar gyfer sicrhau bod yr uchelgeisiau a nodir yn y strategaeth hon yn rhan annatod o ddiwylliant ac ethos y Cyngor.

Cefnogi gwasanaethau’r Cyngor i addasu i effeithiau newid hinsawdd a dirywiad ym myd natur.
Byddwn yn:
- Sicrhau bod newid hinsawdd a bioamrywiaeth yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth wrth wneud penderfyniadau ar draws holl wasanaethau’r Cyngor
- Sicrhau bod Cynghorwyr a gweithwyr yn cwblhau hyfforddiant llythrennedd carbon / cyflwyniad i newid hinsawdd / bioamrywiaeth. Cynnwys newid hinsawdd o fewn y broses sefydlu.
- Ymgysylltu â gweithwyr ac Undebau Llafur i adnewyddu disgrifiadau swydd i gynnwys cyfrifoldebau newid hinsawdd
- Hwyluso’r broses o bontio tuag at ‘Gyngor di-bapur’ drwy, er enghraifft, ddigido slipiau cyflog, pecynnau adrodd, contractau, ceisiadau ac ati.
- Hwyluso gwirfoddoli corfforaethol ar gyfer gweithredu yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth..