Alert Section

Cronfa Bensiynau Clwyd

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymchwiliad i nodau Strategaeth Fuddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd (CPF) er mwyn cyflawni sero net o ran allyriadau carbon.

Gweler Strategaeth Fuddsoddi Cronfa Bensiynau Clwyd

Mae’r Pwyllgor yn awyddus clywed gan weithwyr proffesiynol, aelodau o’r Gronfa, ac aelodau’r cyhoedd.

I helpu gyda’r adborth perthnasol, a fydd yn nodi’r gwaith hwn, mae’r Pwyllgor wedi llunio nifer o gwestiynau, gyda’r bwriad o’ch tywys chi pan fyddwch yn gwneud eich datganiad. Nid oes angen i chi defnyddio’r cwestiynau hyn i’ch helpu chi ysgrifennu eich datganiad, ac nid oes rhaid i chi ateb bob un.

Yn aml, mae angen i ddatganiadau fod yn glir ac yn gryno, hyd at 2000 o eiriau. Os hoffech chi ategu dogfennau o fewn eich ymateb, sylwch fod cyfyngiad o ran maint, sef 20MB.

Efallai byddai’r Pwyllgor yn dymuno eich gwahodd i siarad yn un o’i gyfarfodydd. Os hoffech chi gymryd rhan yn y modd hwn, rhowch eich manylion cyswllt, ac os ydych chi’n ymateb mewn modd proffesiynol, eich sefydliad a’ch teitl swydd. Os nad yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, dywedwch yn glir yn eich datganiad. 

Bydd eich manylion cyswllt yn cael ei gadw gan dîm newid hinsawdd Sir y Fflint. Ni fydd y data yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti arall a dim ond i gysylltu â chi fel y disgrifir uchod y bydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw nes mae’r ymchwiliad drosodd. Os hoffech i ni ddileu eich cyfeiriad e-bost ar unrhyw adeg a pheidio anfon gwybodaeth atoch, e-bostiwch ni climatechange@flintshire.gov.uk 

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau data personol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd

  1. Ydych chi’n meddwl ei bod yn iawn fod Cronfa Bensiynau Clwyd yn lleihau ei buddsoddiadau mewn diwydiannau carbon-ddwys?
  2. Ydych chi’n credu bod targed Cronfa Bensiynau Clwyd (sero net erbyn 2045) yn rhy hwyr, rhy fuan, neu’n gywir?
  3. Ydych chi’n credu bod targed cynt o ran cyrraedd sero net o fewn cyrraedd? Os felly, beth fyddech chi'n ei awgrymu?
  4. Ydych chi’n credu bod lleihau buddsoddiad mewn cwmnïau tanwydd ffosil (y sawl sy’n echdynnu neu’n masnachu tanwyddau ffosil) yn debygol o effeithio ar werth portffolio Cronfa Bensiynau Clwyd yn gadarnhaol neu’n negyddol yn y tymor byr (y 24 mis nesaf) y tymor canolig (y deng mlynedd nesaf) ac yn y tymor hir (y deg mlynedd ar hugain nesaf) os yw’n cael ei wneud yn unol â tharged cynt o ran sero net, megis 2030, yn berthnasol i leihad mwy graddol, yn unol â’r targed o 2045? Pa mor hyderus ydych chi yn eich rhagolygon? Ystyriwch fod y derbynebau o unrhyw fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil yn cael eu hail-fuddsoddi’n gymesur â buddsoddiadau presennol y Gronfa, ac eithrio’r cwmnïau hyn.
  5. Mae rhai cronfeydd pensiynau llywodraeth leol yn y DU wedi mabwysiadu llwybrau datgarboneiddio cynt.  A oes gennych chi unrhyw dystiolaeth bod ‘rhain wedi bod yn llwyddiannus, neu’n aflwyddiannus wrth gyflawni (a) llai o allyriadau carbon, a (b) cynnal gwerth y gronfa?
  6. Ydych chi’n credu y dylai’r Gronfa fabwysiadu diffiniad clir o beth a olygir gan sero net, yng nghyd-destun cronfa bensiynau? Os felly, beth ydych chi’n credu y dylai’r diffiniad fod?
  7. Ydych chi’n credu bod aelodau o’r gronfa’n debygol o gefnogi neu wrthwynebu lleihad cynt o ran buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil? Ar beth ydych chi’n seilio’r asesiad hwn? Os ydych chi’n ymateb fel rhywun y mae’r Gronfa yn rheoli ei bensiwn, rydym yn arbennig o awyddus clywed eich barn.
  8. Ydych chi’n teimlo bod buddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil yn rhoi dylanwad neu drosoledd i’r Gronfa dros weithredoedd y cwmnïau hyn, yn enwedig wrth annog lleihad mewn allyriadau carbon? Os felly, beth yw eich tystiolaeth o hyn?
  9. A fyddech chi’n fodlon annerch y pwyllgor (rhoi tystiolaeth ar lafar) os gofynnir i chi?

Yn ogystal â’ch datganiad ysgrifenedig, hoffem ofyn i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am eich hun, gan ddefnyddio ein ffurflen monitro cydraddoldeb. Mae hyn yn gwbl wirfoddol ac nid oes modd i chi gael eich adnabod yn bersonol o’r atebion a roddir. Bydd yr atebion y byddwch yn eu rhoi i’r cwestiynau hyn cael eu defnyddio i’n helpu ni ddeall faint o bobl o wahanol grwpiau sydd wedi ymateb, er enghraifft faint o ferched, dynion, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, ac ati.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymholiad neu eich datganiad, cysylltwch â climatechange@flintshire.gov.uk

Dylid cyflwyno datganiadau ysgrifenedig erbyn 4 Awst 2023, fan bellaf.

Os nad oes modd i chi gael mynediad at e-bost, anfonwch eich datganiadau ysgrifenedig at:

d/o y Tîm newid Hinsawdd, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Ewloe. CH5 3FF

Os oes arnoch angen cefnogaeth ychwanegol i gwblhau eich datganiad, ewch i un o’r Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.