Alert Section

Llifogydd

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymchwiliad i lifogydd o fewn ffiniau Sir y Fflint, llifogydd gan ddŵr wyneb yn benodol.

Mae’r Pwyllgor yn awyddus clywed gan weithwyr proffesiynol, preswylwyr, ac aelodau’r cyhoedd.

I helpu gyda’r adborth perthnasol, a fydd yn nodi’r gwaith hwn, mae’r Pwyllgor wedi llunio nifer o gwestiynau, gyda’r bwriad o’ch tywys chi pan fyddwch yn gwneud eich datganiad. Nid oes angen i chi defnyddio’r cwestiynau hyn i’ch helpu chi ysgrifennu eich datganiad, ac nid oes rhaid i chi ateb bob un.

Yn aml, mae angen i gyflwyniadau fod yn glir ac yn gryno, hyd at 2000 o eiriau.  Os hoffech chi ategu dogfennau o fewn eich ymateb, sylwch fod cyfyngiad o ran maint, sef 20MB.

Efallai bydd y Pwyllgor yn dymuno estyn gwahoddiad i chi i un o’i gyfarfodydd, os hoffech chi gymryd rhan yn y modd hwn, rhowch eich manylion cyswllt, ac os ydych chi’n ymateb mewn modd proffesiynol, eich sefydliad a’ch teitl swydd.   Os nad yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud, dywedwch yn glir yn eich datganiad. 

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw gan dîm newid hinsawdd Sir y Fflint. Ni fydd y data yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti arall a dim ond i gysylltu â chi fel y disgrifir uchod y bydd yn cael ei ddefnyddio.  Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw nes mae’r ymchwiliad drosodd.  Os hoffech i ni ddileu eich cyfeiriad e-bost ar unrhyw adeg a pheidio anfon gwybodaeth atoch, e-bostiwch ni, climatechange@flintshire.gov.uk 

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau data personol, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd

  1. 1. Oes gennych brofiad uniongyrchol o lifogydd yn Sir y Fflint? Ydi eich cartref wedi cael ei lifogi? Ydi hyn wedi digwydd mwy nag unwaith, ac os felly, pryd?
  2. Ble yn Sir y Fflint ydych chi’n ystyried nad yw wedi’i baratoi’n ddigonol, ei ddiogelu neu ei warchod yn erbyn llifogydd?
  3. Ble yn Sir y Fflint ydych chi’n ystyried sydd yn ddiogel rhag llifogydd, ond sy’n debygol o lifogi yn y dyfodol o ganlyniad i newid hinsawdd? Wrth fynd i’r afael â hyn, rydym yn arbennig o awyddus i ganolbwyntio ar feysydd nad ydynt wedi cael eu nodi fel risg ar fapiau perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, neu rydych yn credu eu bod wedi cael eu categoreiddio’n anghywir, neu sydd wedi’u categoreiddio’n gywir, ond rydych yn teimlo eu bod yn agored i niwed oherwydd materion draenio.
  4. Ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint yn rhyddhau ei gyfrifoldebau’n dda ar hyn o bryd, mewn perthynas â llifogydd ac atal llifogydd? Rydym yn benodol o awyddus i ddeall pa mor dda mae’r cyngor yn cynnal draeniau sy’n agored i risg, a’r cwrs dŵr y maent yn gyfrifol amdanynt.
  5. Ydych chi’n teimlo fod Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhyddhau ei gyfrifoldebau’n dda ar hyn o bryd, mewn perthynas â llifogydd ac atal llifogydd? Rydym yn benodol o awyddus i ddeall pa mor dda rydych yn teimlo bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnal draeniau sy’n agored i berygl a’r cwrs dŵr y maent yn gyfrifol amdanynt.
  6. Ydych chi’n teimlo fod Dŵr Cymru’n rhyddhau ei gyfrifoldebau’n dda ar hyn o bryd, mewn perthynas â llifogydd ac atal llifogydd? Rydym yn benodol o awyddus i ddeall pa mor dda ydych chi’n teimlo mae’r bwrdd dŵr yn cynnal draeniau sy’n agored i risg, carthffosydd a’r cwrs dŵr y maent yn gyfrifol amdanynt.
  7. Ydych chi’n creu bod angen rhagor o gyllid i atal llifogydd yn y dyfodol sy’n ymwneud â newid hinsawdd? Os felly, ydych chi’n credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros ddarparu hyn, neu ydych chi’n cynnig y dylai’r trethdalwr lleol dalu am hyn drwy dreth y cyngor ychwanegol?
  8. A fyddech chi’n fodlon annerch y pwyllgor (rhoi tystiolaeth ar lafar) os gofynnir i chi?

Yn ogystal â’ch datganiad ysgrifenedig, hoffem ofyn i chi hefyd ddarparu gwybodaeth am eich hun, gan ddefnyddio ein ffurflen monitro cydraddoldeb. Mae hyn yn gwbl wirfoddol ac nid oes modd i chi gael eich adnabod yn bersonol o’r atebion a roddir. Bydd yr atebion y byddwch yn eu rhoi i’r cwestiynau hyn cael eu defnyddio i’n helpu ni ddeall faint o bobl o wahanol grwpiau sydd wedi ymateb, er enghraifft faint o ferched, dynion, pobl ifanc, pobl hŷn, pobl anabl, ac ati. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymholiad neu eich datganiad, cysylltwch â climatechange@flintshire.gov.uk

Dylid cyflwyno datganiadau ysgrifenedig erbyn 18 Awst 2023, fan bellaf.

Os nad oes modd i chi gael mynediad at e-bost, anfonwch eich datganiadau ysgrifenedig at:

d/o y Tîm newid Hinsawdd, Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Ewloe. CH5 3FF

Os oes arnoch angen cefnogaeth ychwanegol i gwblhau eich datganiad, ewch i un o’r Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.