Alert Section

Defnydd Tir


Wind turbines 320 x 200

Gall y Cyngor ddefnyddio ein tir i gefnogi ein nodau carbon. Gallwn wneud hyn drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a chynlluniau plannu i gefnogi’r gwaith amsugno carbon a gwella a chynnal ein bioamrywiaeth. Mae'r Cyngor wedi gweithio ar brosiectau ar raddfa fawr i gynyddu ein cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, ond er mwyn cyrraedd ein nodau uchelgeisiol o ddatgarboneiddio bydd angen datblygu mwy o brosiectau ar raddfa fawr. Cynigiwyd yr atebion canlynol i gefnogi ein nodau datgarboneiddio drwy ein defnydd tir.

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Yn berchen ar 2 injan nwy tirlenwi sy’n cynhyrchu trydan carbon isel ac sydd bellach yn cael eu hategu gan 2 fferm solar. Mae’r rhain i gyd yn pweru cyfleusterau ar y safle, yn ogystal â’r orsaf trosglwyddo gwastraff gerllaw.
  • Adeiladu dwy fferm solar ychwanegol, gyda chynhwysedd cynhyrchu cyfun o 3.5MW.
  • Treialu gwahanol gyfundrefnau torri gwair ar ymylon a mannau gwyrdd y Cyngor i annog a gwella bioamrywiaeth.
  • Datblygu Cynllun Coed Trefol a Choetir 15 mlynedd gyda'r targed o sicrhau brigdwf trefol o 18% erbyn 2033. Amcanion y cynllun yw cynyddu cyfanswm y coed a gaiff eu plannu drwy dargedu ardaloedd trefol sydd â brigdwf isel yn benodol, gan sicrhau bod y brigdwf presennol yn cael ei reoli'n gynaliadwy, hyrwyddo bioamrywiaeth a gweithio mewn partneriaeth. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda Grwpiau Cymunedol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac ysgolion - yn plannu coed mewn lleoliadau addysg a thir cyhoeddus.
  • Cyhoeddi ein cynllun dyletswydd bioamrywiaeth “Cefnogi natur yn Sir y Fflint” ac rydym yn gweithio i warchod a gwella bioamrywiaeth yn Sir y Fflint.
  • Gweithio gyda channoedd o fusnesau, gwirfoddolwyr, elusennau, ysgolion a sefydliadau eraill, ledled rhanbarth Gogledd Cymru, Swydd Amwythig a Swydd Gaer yn tynnu sbwriel o lannau a llednentydd Afon Dyfrdwy.
  • Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad yn rheoli dros 40 o safleoedd o fannau gwyrdd naturiol gan gynnwys Parc Gwepra a Pharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, 1200km o hawliau tramwy cyhoeddus, 37 milltir o Lwybr Arfordirol Cymru, digwyddiadau a rhaglenni addysg, ac yn dod â grantiau allanol o dros £400k y flwyddyn gan gysylltu pobl â natur.
  • Mae'r Cyngor wedi amddiffyn ein 120 o ardaloedd chwarae ac wedi buddsoddi dros £2m mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned dros yr 8 mlynedd diwethaf yn ogystal â sicrhau mynediad agored am ddim i fannau gwyrdd.
  • Drwy gydweithredu â phartneriaid rhanbarthol a Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi rheoli'r gwaith o adeiladu cyfleuster ynni o wastraff, Parc Adfer, a fydd yn creu trydan ar gyfer 30,000 o gartrefi o wastraff na ellir ei ailgylchu. Bydd hefyd yn helpu i atal gwastraff rhag mynd i safle tirlenwi.
  • Drwy'r un bartneriaeth, mae holl wastraff bwyd y Cyngor yn cael ei gludo i dreuliwr anaerobig lle caiff ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan (drwy fio-nwy) a gwrtaith hylif, gan atal gwastraff bwyd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
  • Mae gwaith yn cael ei gyflawni gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddichonoldeb safleoedd ar gyfer creu mwy o ynni adnewyddadwy.
  • Mae safleoedd wedi cael eu canfod ar gyfer plannu coedd posibl, fodd bynnag mae angen archwilio dichonoldeb y safleoedd hyn ymhellach. 
  • Mae’r defnydd o chwynladdwyr a phlaladdwyr yn cael ei gofnodi, a lle bynnag bosibl, mae’r defnydd yn cael ei resymoli ac mae dewisiadau amgen yn cael eu mabwysiadu. 
  • Rhwydwaith o 109 o ardaloedd natur ar draws y sir yn gorchuddio 11.8 hectar - ystâd laswelltir gydag amserlen torri gwair wedi’i leihau er budd amrywiaeth blodau gwyllt.
  • Mae safleoedd tyfu bwyd wedi derbyn gwelliannau megis mesurau cynaeafu dŵr. Ar hyn o bryd mae 16 o safleoedd tyfu bwyd ar draws y sir yn gorchuddio 3.8 hectar gyda safleoedd ychwanegol yn cael eu canfod.
  • Mae adolygiad o’r ddarpariaeth ailgylchu yn adeiladau’r Cyngor yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle newydd. Mae treialon o gasgliadau ar alw mewn ysgolion yn parhau. 
  • Mae dewisiadau datgymalu neu gadw ar gael mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar gyfer eitemau cartref mawr, er mwyn cael eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio neu dorri i lawr i ddarnau ar gyfer eu hailgylchu. Gweithio gyda Flintshire Refurbs ac elusennau lleol er mwyn ehangu dewisiadau ar gyfer adfer mwy o eitemau.

Camau gweithredu yn y dyfodol

Byddwn yn:

  • Nodi’r capasiti storio carbon cyfredol o fewn asedau’r Cyngor drwy fapio mathau o gynefinoedd.
  • Cefnogi’r cynnydd mewn gorchudd canopi coed ar draws y sir yn unol â’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol.
  • Asesu effeithiau Clefyd Coed Ynn a phlannu coed yn asedau Sir y Fflint ar orchudd canopi a dal a storio carbon.
  • Cynyddu arwynebedd gyda llai o gyfundrefnau torri gwair i wella bioamrywiaeth a chynyddu storio carbon.
  • Cryfhau’r gwaith o fonitro gosod systemau draenio cynaliadwy (SuDs) mewn datblygiadau newydd.
  • Creu canllawiau ar gyfer caffael y Cyngor o fwyd mewn swyddfeydd, ysgolion ac ati i fod yn lleol ac yn gynaliadwy.