Symudedd a Thrafnidiaeth

Mae allyriadau o'n fflyd a weithredir gan y Cyngor yn parhau i fod yn ffynhonnell gyson o allyriadau carbon. Rydym yn gwybod bod technolegau sy'n ymwneud â thrydan a cherbydau tanwydd hydrogen yn gwella ac mae angen i ni sicrhau nad ydym ar ei hôl hi yn y maes hwn.
Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:-
- Mae fflyd y Cyngor yn bodloni safon Ewro 6 ac felly mae ganddyn nhw yr allyriadau isaf posib ar gyfer cerbydau disel.
- Cyflwyno llwybrau mwy diogel yn y cynlluniau cymunedol o amgylch ysgolion, annog plant gyda'u teuluoedd i gerdded a beicio i'r ysgol, ceisio mynd i'r afael â llygredd aer o amgylch ysgolion a sicrhau bod pobl yn egnïol ac yn iach.
- Datblygu opsiynau cludiant yn y gymuned pan fydd gwasanaethau bysiau masnachol wedi dod i stop.
- Datblygu a darparu llwybrau teithio llesol ledled y Sir.
- Gosod pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled y wlad.
- Adolygu ein contract fflyd cyfredol i gyflawni ein trosglwyddiad ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
- Wedi ein dewis i dreialu dau gerbyd ailgylchu trydan o ddechrau 2022.
- Dau fws trydan wedi'u cyflwyno i'r fflyd cludiant.
Camau gweithredu yn y dyfodol
Byddwn yn:
- Cwblhau’r adolygiad o’r contract fflyd presennol i gyflawni’r newid i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
- Adolygu polisi fflyd gan ystyried gwefru cerbydau.
- Dysgu o newid cyflymach oherwydd COVID-19, adolygu a gweithredu polisïau a mentrau sy’n cefnogi lleihau allyriadau carbon o filltiroedd busnes. Parhau i weithredu a datblygu arferion gwaith ystwyth i leihau teithiau gweithwyr a defnyddio cyfarfodydd rhithwir.
- Treialu dau gerbyd ailgylchu trydan o ddechrau 2022.
- Cyflwyno dau fws trydan i wasanaethu trefniant teithio lleol ym Mwcle a’r cyfleuster Parcio a Theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar Barth 2.
- Sicrhau bod mannau gwefru cerbydau ar gael mewn ardaloedd allweddol ar draws y sir – gwledig a threfol.
- Newid cerbydau’r fflyd i danwyddau trydan ac amgen (hydrogen, ac ati).
- Hwyluso fforwm rhannu ceir i weithwyr – unwaith y bydd mesurau ôl-COVID-19 yn cael eu hadolygu.
- Mynd ati i hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith presennol i gynyddu cyfranogiad ac adolygu cyfleusterau storio beiciau mewn prif fannau gwaith.
- Hyrwyddo a lansio cynllun aberthu cyflog wedi ei reoli ar gyfer cerbydau allyriadau isel ac isel iawn.