Alert Section

Trosglwyddo Asedau Cymunedol


Mae'r canllaw hwn ar gyfer unigolion neu grwpiau sydd am brydlesu adeiladau neu dir gan y Cyngor Sir er budd y gymuned. Gelwir hyn yn Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) a chaiff ei ddiffinio’n fanylach fel a ganlyn:

 “trosglwyddo prydles ased Cyngor Sir y Fflint i sefydliad sydd â phwrpas cymdeithasol ac sy'n bwriadu defnyddio'r ased er budd y gymuned leol".

Mae'r canllaw yn egluro polisi'r Cyngor ynghylch Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sut y gall unigolion neu grwpiau sydd â diddordeb wneud cais, sut y caiff ceisiadau eu prosesu a sut y gellir cael cefnogaeth.

Nod llawer o'r canllaw hwn yw annog cymunedau i gyflwyno syniadau ac yna datblygu’r syniadau hyn yn gynlluniau mwy manwl. Noder bod cam cyntaf y broses hon yn ddatganiad syml iawn o ddiddordeb. Bwriad hyn yw annog unrhyw un sydd â syniad da i ddod ymlaen. Yn seiliedig ar y datganiad hwn o ddiddordeb, darperir cefnogaeth a gwybodaeth er mwyn helpu i ddatblygu'r syniad hwn. Heb eich syniadau, mae’n amhosibl i sefydliadau a allai fod mewn sefyllfa i gynnig pecynnau cymorth a darparu'r wybodaeth berthnasol a allai fod o gymorth i dwf a datblygiad pellach eich syniad wneud hynny.

Drwy drosglwyddo perchnogaeth neu stiwardiaeth ased i gymunedau lleol, mae'r Cyngor Sir yn cydnabod y gallant chwarae rôl werthfawr o ran cefnogi a chynnal y cymunedau hynny yn Sir y Fflint. Mae gan y Cyngor adeiladau a thir sy'n cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion cymunedol a chyhoeddus.   Drwy drosglwyddo asedau i reolaeth y gymuned, nod Cyngor Sir y Fflint yw:

  • Cynyddu ystod a nifer o asedau cyhoeddus a reolir gan y gymuned, gan ddarparu sylfaen asedau cynyddol ar gyfer cymunedau lleol i lunio gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion, a
  • Chynhyrchu ffynonellau newydd o incwm i gynnal gwasanaethau cymunedol lleol a chynnal asedau lleol.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i weithio gyda grwpiau cymunedol a phobl leol er mwyn sicrhau bod trosglwyddo asedau i gymunedau lleol Sir y Fflint yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Mae manylion pellach ar gael gan Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC). Gallwch gysylltu ag FLVC drwy ffonio 01352 744000 neu drwy anfon e-bost at info@flvc.org.uk 

Gallwch wneud cais ar-lein yn awr drwy ddefnyddio'r ddolen a ganlyn:  Ffurflen Datganiad O Ddiddoreb

Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir y Fflint dim ond at ddibenion penodol;

  • Prosesu eich cais adeilad eiddo / tir
  • Trafodion Eiddo e.e. Prydles/Trwydded/Caffael/Gwaredu/Hawddfraint/Fforddfraint
  • I’w rannu gydag adrannau eraill Cyngor Sir y Fflint, Asiantau, Ymgynghorwyr neu Gontractwyr fel y cyfarwyddwyd er mwyn prosesu eich cais.

Mae angen prosesu i berfformio contract y mae gwrthrych y data’n rhan ganolog ohono, neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn gwneud contract. Bydd Adran Prisiau ac Ystadau Cyngor Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am gyfnod hyd at 15 mlynedd. Os aiff y contract yn ei flaen, bydd hyn am 15 mlynedd o ddyddiad dod i ben y contract.

Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.

Gall Cyngor Sir y Fflint geisio gwirio unrhyw wybodaeth a roddir. Os canfyddir bod unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn ffug, yn gamarweiniol neu ar goll, gall hyn arwain at yr Awdurdod yn penderfynu peidio â symud ymlaen ymhellach.