Creu Lleoedd yn Sir y Fflint – Cei Connah (Sesiynau Galw Heibio)
                        
                            Aros canlyniadau
                            Mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi a byddant yn cael eu cyhoeddi yma maes o law
                         
Mae Creu Lleoedd yn broses sydd â’r nod o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o weithgareddau a fyddai o fudd i’r lle, pobl leol a sefydliadau lleol. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i ddatblygu blaenoriaethau ar gyfer yr ardal a fydd yn cael eu nodi mewn cynllun ar gyfer ardal ddiffiniedig megis canol tref (neu weithiau ran o dref/dinas fwy).  
Bydd y cynlluniau’n darparu fframwaith i arwain gweithgarwch a datblygiad prosiectau yn y 5-10 mlynedd nesaf gan ystod o bobl a sefydliadau i greu newid cadarnhaol. Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cydlynol tuag at gydweithio, nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella’r ardal i breswylwyr lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymysg ystod o ganlyniadau cadarnhaol eraill. 
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu y dylid gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer y 7 prif dref yn Sir y Fflint.  Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o weithgaredd rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd yn 2023.  
Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2023, gwahoddwyd trigolion Cei Connah i gymryd rhan mewn sawl ffordd wahanol, yn cynnwys digwyddiadau ar-lein a sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb.  Mae’r cam hwn bellach yn dod â’r dadansoddi data a’r adborth at ei gilydd ac yn nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer y dref. Roedd y sesiynau galw heibio yn rhoi cyfle i'r gyhoedd rhannu pa mor ymwybodol ydynt o Greu Lleoedd yn Cei Connah, faint maen nhw’n ei gytuno â’r blaenoriaethau arfaethedig a’r ffordd ymlaen a gynigir.  
Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gyfer Cei Connah ar gael gyda hyn.   
Creu Lleoedd yn Sir y Fflint