Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' i nodi sut byddant yn nodi, cynllunio a darparu prosesau Creu Lleoedd ym mhob un o'u canol trefi. Mae hyn yn golygu rhoi anghenion canol trefi yn y dyfodol wrth wraidd polisïau; prosesau gwneud penderfyniadau a chamau gweithredu lleol.

Ers dechrau 2023, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran ystod o bartneriaid, sy’n seiliedig ar angen lleol bob canol tref yn Sir y Fflint.

Mae dull Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn agos â’r dull ‘Canol Trefi yn Gyntaf’, a lansiwyd yn 2020, sy’n anelu i leoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol trefi er mwyn helpu rhoi bywyd newydd i ganol trefi ledled Cymru yn sgil y pandemig Covid-19, y dirywiad mewn gwerthiant manwerthu a newidiadau i’r modd y caiff canol trefi eu defnyddio.

Pwrpas Creu Lleoedd yw cydlynu cynlluniau presennol a nodi materion mae pobl a lleoedd yn eu hwynebu, fel mannau cyhoeddus a mannau gwyrdd, siopau gwag, hygyrchedd ac anghenion masnachol a thai. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy broses ymgynghori, yn ddigidol ac wyneb yn wyneb a bydd yn cael ei lywio gan ddata a dadansoddiad masnachol sy’n benodol i’r dref hefyd.

Mae gan bob un o ganol trefi Sir y Fflint wahanol anghenion oherwydd eu bod yn cynnwys cymysgedd unigryw o elfennau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ac felly mae ganddynt wahanol gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch Creu Lleoedd.

O ganlyniad i’r adborth o ymgynghoriadau digidol ac wyneb yn wyneb a dadansoddiad dilynol, caiff amrywiaeth o flaenoriaethau eu nodi a fydd yn llywio cynllun gweithredu a gweledigaeth ar gyfer pob canol tref.

O’r canol trefi yn Sir y Fflint sydd angen Cynlluniau Creu Lleoedd, mae’r holl ddigwyddiadau ymgynghori bellach wedi’u cynnal ac mae’r cynlluniau creu lleoedd yn cael eu datblygu. Mae’r cynlluniau hyn yn hollbwysig i’n canol trefi ac i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei ddenu ar gyfer rhoi’r cynllun gweithredu ar waith ac er budd canol y dref a’r cymunedau cyfagos. 

Darganfod mwy

Mae’r pethau sy’n bwysig i chi’n bwysig i ni.

Taith Cynllun Creu Lleoedd

Ymgynghoriadau digidol ac wyneb yn wyneb i’w cydlynu gan Gyngor Sir y Fflint

Grŵp Llywio Aml Asiantaeth i ystyried canfyddiadau’r ymgynghoriad

Themâu a blaenoriaethau allweddol wedi’u nodi

Cynllun Creu Lleoedd wedi’i ddatblygu ar gyfer canol y dref

Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru wedi ymrwymo

Cyngor Sir i gymeradwyo’r cynllun

Cynllun wedi’i gytuno ymhlith budd-ddeiliaid allweddol

Darparu’r cynllun ochr yn ochr â budd-ddeiliaid allweddol

Ar hyn o bryd rydym ar gam 3: Y themâu a blaenoriaethau allweddol a nodwyd.

Unwaith i’r rhain gael eu trafod a’u dadansoddi gan fudd-ddeiliaid allweddol a gweithgorau, bydd y rhain yn llywio datblygiad y Cynllun Creu Lleoedd.


Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Creu Lleoedd?

Mae Creu Lleoedd yn broses sy’n digwydd yng nghanol pob tref yng Nghymru; sydd â’r bwriad o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o weithgareddau a fyddai o fudd i’r dref, y bobl leol a sefydliadau lleol.

Bydd gwybodaeth a gesglir drwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal sydd wedi’u nodi mewn cynllun ar gyfer ardal benodol fel canol tref (neu ran o dref/dinas fwy weithiau). Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau gweithredu y mae angen eu cymryd a pha gamau sy’n debygol o gael eu gweithredu yn y 5-10 mlynedd nesaf gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol.

Drwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cydlynol o gydweithio yng nghanol ein trefi, gan nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella’r ardal i drigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymhlith amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://cy.dcfw.org/creu-lleoedd/

Pam mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal?

Fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, mae’n ofynnol i Gyngor Sir y Fflint ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd a chynnwys pobl leol yn y broses o lunio cynnwys cynlluniau o’r fath mewn ymateb i anghenion pob ardal leol.  Mewn ymateb i hyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori â phobl leol yn ddigidol yn ogystal ag wyneb yn wyneb yn rhan o ddatblygiad ei Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi ledled Sir y Fflint. 

Sut fydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu defnyddio?

Bydd canlyniadau’r holl ddigwyddiadau ymgynghori ac arolygon Creu Lleoedd yn cael eu defnyddio i lywio Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi Sir y Fflint. Bydd y canlyniadau o’r arolwg ar gael i chi edrych arnyn nhw a byddan nhw hefyd yn cael eu coladu â gwybodaeth arall a gasglwyd yn rhan o’r broses Cynllun Creu Lleoedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddata/gwybodaeth ystadegol a gasglwyd ar gyfer pob canol tref a’r wybodaeth a gasglwyd hefyd o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus Creu Lleoedd, yn ogystal â gwybodaeth a gafodd ei chyfnewid rhwng Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid o’r sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus sy’n fudd-ddeiliaid allweddol yng nghanol ein trefi.

Pryd a ble fydd y canlyniadau ar gael?

Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lle Sir y Fflint yn cael eu dangos ar wefan Cyngor Sir y Fflint

Sut bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio?

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o waith rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd arno yn 2023. Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Pryd mae’r digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yn digwydd?

Ar gyfer pob tref yng Nghyfran 1 y datblygiad Cynllun Creu Lleoedd, Bwcle, Treffynnon a Shotton, cynhaliwyd tair sesiwn wyneb yn wyneb ym mis Chwefror a Mawrth 2023. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gasglu barn a chanfyddiadau pellach gan bobl leol am ganol eu tref a’i ddyfodol. Bydd y wybodaeth a gasglwyd gan y mynychwyr yn cael eu cyfuno â data ac adborth eraill i lywio’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi Sir y Fflint.

Mae’r gwaith ar gyfer y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry sy’n ffurfio cyfran 2 a 3 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd yn parhau trwy 2023 i’w cwblhau yn 2024-25.

Ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn y dyfodol yn ymwneud â’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar draws y trefi ychwanegol hyn, gwiriwch y dudalen hon neu’r newyddion diweddaraf ar Give My View

Ydy Cyngor Sir y Fflint yn cyflawni’r Cynlluniau Creu Lleoedd?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran amrywiaeth o bartneriaid ar sail angen lleol pob canol tref ledled Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gydweithio i ddatblygu a chyflawni Cynlluniau Creu Lleoedd. 

Beth os nad wyf yn gallu mynd at yr arolygon ar-lein?

Cynhaliwyd yr arolygon ymgynghoriad cychwynnol ar gyfer y trefi hynny sydd yng nghyfran 1 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd:  Bwcle, Treffynnon a Shotton o 27 Ionawr 2023 hyd at 12 Chwefror 2023 ac felly maent bellach wedi cau. Mae’r gwaith ar gyfer y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, sy’n ffurfio cyfran 2 a 3 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd, yn fyw o 12 Mawrth 2024 i 1 Ebrill 2024. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael pan fydd yr ymgynghoriad ar-lein ar gael, ar y dudalen hon neu’r newyddion diweddaraf ar Give My View

Sut fydd unrhyw wybodaeth y byddaf i’n ei rhoi yn cael ei defnyddio?

Mae unrhyw ddata personol a gaiff ei roi wedi’i ddiogelu gan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni fydd unrhyw ddata’n cael ei rannu â phobl eraill. Ni fydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi’n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw ar gyfer datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd yn Sir y Fflint.

Nid yw’r ymgynghoriadau’n casglu gwybodaeth fel lleoliad penodol nac yn adnabod unigolion na’u gwybodaeth bersonol, gan eithrio casglu codau post a chyfeiriadau e-bost – ond mae rhoi’r wybodaeth hon yn ddewisol wrth gwblhau’r arolwg ar-lein neu fynd i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb.

Mae'r wybodaeth sydd wedi’i chasglu a'r atebion gan bob unigolyn yn ddienw ac yn cael eu cyflwyno’n rhan o'r data cyffredinol a gasglwyd ac felly golyga hyn na fydd modd adnabod ymatebion unigol.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk