Alert Section

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig 2026


Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori blaenorol ar yr un cynigion yn ystod 2025, ond daethpwyd â’r rhain i ben ym mis Mawrth 2026 pan ddaeth her gyfreithiol hwyr i law mewn perthynas â’r cynigion Ysgolion Catholig a allai fod wedi cael goblygiadau ar gyfer yr ymgynghoriad ar ysgolion Saltney hefyd.

Ceisiodd y Cyngor gyngor cyfreithiol mewn ymateb i hynny, fodd bynnag, roedd yr amser oedd ei angen i ystyried y cyngor hwnnw yn golygu nad oedd posib bodloni’r amserlen statudol a nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Ers i’r broses wreiddiol ddod i ben, mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026 newydd diwygiedig wedi ei gyhoeddi ac felly bydd ymgynghoriad newydd hefyd yn sicrhau fod y broses yn cydymffurfio gyda’r Cod newydd a bod gan fudd-ddeiliaid gyfle cyfredol a theg i wneud sylwadau.

Bydd ail-ddechrau’r broses ymgynghori yn sicrhau bod budd-ddeiliaid a’r cyhoedd yn cael cyfle arall i rannu eu hadborth cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud.


Yn Sir y Fflint mae chwe ysgol wedi eu categoreiddio fel ysgolion Catholig gwirfoddol a gynorthwyir:

  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony, Saltney.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant David, yr Wyddgrug.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair, y Fflint.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Santes Winefride, Treffynnon.
  • Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Yr Hybarch Edward Morgan, Shotton.
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn, y Fflint.

Yn dilyn canllawiau rheoleiddio’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 2026, mae Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint yn dymuno ymgynghori â phawb sydd â diddordeb ynghylch cynnig i ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg Gatholig yn Sir y Fflint.

Mae’r Cyngor yn cynnig: 

  • Cau Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Anthony yn Saltney erbyn 31 Awst 2027.
  • Uno Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Gynradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir y Santes Fair yn y Fflint ac Ysgol Uwchradd Gatholig Wirfoddol a Gynorthwyir Sant Richard Gwyn yn y Fflint.

Byddai’r uno’n golygu:

  • y byddai’r ysgolion unigol yn cau erbyn 31 Awst 2027
  • y byddai ysgol Gatholig wirfoddol a gynorthwyir 3-18 oed cyfrwng Saesneg newydd gydag enw a rhif ysgol newydd, yn agor ar 1 Medi 2027
  • y byddai’r ysgol newydd yn gweithredu dros y tri safle presennol nes bydd adeilad ysgol newydd yn cael ei adeiladu (rhagwelir Medi 2030)

Bydd y cyfnod ymgynghori yn agor ddydd Mawrth 16 Mehefin 2026 ac yn dod i ben am 11.59pm ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2026.

Gellir dod o hyd i fanylion llawn y cynnig yn y Ddogfen Ymgynghori Statudol sydd yma:

Cynnig y Ddarpariaeth Addysg Gatholig
  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 16/06/2026

    Dyddiad cau: 29/07/2026

  • Manylion cyswllt
  • Y Tîm Moderneiddio Ysgolion

    E-bost: CatholicEducationConsultation@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129